Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWE. Cyf. VIII.] IONAWR 1849. [Rhif. 85. PARHAD Y BEDYDDIWR. "Blwyddyn newydd dda" i chwi gyfeillion siriol. Wrth ganu yn iach i chwi y mis diweddaf, nid oeddem yn tybied y bnasem yn cael cyfle idd eich anerch mor fuan drachetu ; oblegid yr oeddem wedi rhoddi pob meddwl heibio am rëalu mwyach ; ac yr oeddem yn dechreu rhag-fwynhau tipyn o dawelwch ac esmwythdra meddwl; ond y " Cynyg Newydd" y tueddwyd ni i'w osod allan sydd wedi gwneud y cyfFro. Y mae líuaws o eglwysi, gweinidogion parchus, a phersonau cyfrifol, wedi cydio yn y cynyg, a gweitliredu ar ei amodau yn egniol ac eíîeithiol; ac nid oedd ynom i wrth- sefyll cymhellion ac anogaethau taerion pobl o synwyr a dybenion daionus. Rhoddwn yma ddyfyniadau o rai Uythyrau a dderbyniasom ar y pwngc o barhad y Bedyddiwr, fel y gallo ereill ddeall, i raddau, farn y wlad am dano, &c. Y Parch. J. Jenkins, Hengoed, a ddywed fel hyn :— " ANWYL FRAWD,—Wrth graffu ar y BEDYDDIWR am y mis hwn, a gweled ei fod yn debyg o drengu! mi a deimlais ofid dwys! ! nid yn unig am golli y BEDYDDIWR fel cyfrwng gwybodaethau defnyddiol perthynol i'n cenedl, ac yn enwedig i ni fel Bedyddwyr; ond hefyd fy meibion a minau yr. ., . Y mae eich cynygiad diweddaf yn hynod o dèg a charedig; ac yn fy ngolwg i, fe fydd yn warth oesol i ni (y Bedyddwyr,) beidio derbŷn eich cynyg yn ddiolchgar, gan ymegnío yn ddiorphwys i ychwanegu ei dderbynwyr i ddwy, tair, neu bedair mil; yr hyn a fyddai, nid yn unig yn helacthu cylch-rediad gwybodaethau defnyddiol, crefyddol a gwladol, yn cin plith fel Bedyddwyr, acfelcene'dl yn gyffredin; ond hefyd yn gosod gwell sail i sefydliad Trysorfa er cymhortii i Weinidogion hen a methiannol, nag'un cynygiad ûa chynllun sydd wedi ymddangos eto tuagat gael hyny i ben. Y mae gyda ni lawer o waeddi am UNDEB a CHYDWEITHREDIAü trwy y bly- neddoedd diweddaf. Yn aẁr y mae daioni eich cynyaiad diweddaf yn ein cymhell, nid yn unig i waeddi am undeb, ond i gydweithio yn egniol. Yn awrdeffroed, cyfoded, a gweithied pob nwein- idog, diacon, a phob aelod' yn ei le am dderbynwyr i'r Bedyddiwr 4\c., yna fe fvdd y Bedydd- iwr a Thrysorfa yr Hen Weinidogion, wedi cu sefydlu ar sylfaen safadwy ar unwaith. Yr wyf fi yn penderfynu gwneuthur fy ngoreu. Credwn y cawn yma un aelod o bob deg, o leiaf i'w dderbyn. " At Mr. W. Owen, " Mttesycwmivr, Rhag 8, 1848." Y Parch. Timothy Thomas, Castellnewydd Emlyn :— " Anwyl jFVa«'d, —Dyben yr ychydig linellau hyn ywhysbysu, os bydd y Bedyddiwr i ddyfod allan yn ol y cynyg newydd ar yr amlen, yr ydwyf yn addaw cymeryd deuddeg o honynt, ac i fod yn atebol am yr arian i chwi mewn Post Óffice Order, pe methwn wcrthu yr un o honynt. Fe fydd yn warth oesol i adaeì y Bedyddiwr i sỳrthio i'r llawr. A gaiíf y Bedyddwyr fod yn fwy diffrwyth nag un enwad arall V Y Parchedigion T. Price, Aberdare, a H. W. Hughes, Llwyni, Ysgrifenyddion y Drysorfa Weinidogaethol,— " Aberdare, Dee.3, 1848. " My âear Owens,- I have just placed the contents of your address, respecting tlie future pub- lication of the Bedyddiwr, before our church here, and they ben of me to inform you, that should the other Churches of the principality co-t.perate, that they will engage to take twenty-five. The number taken now is eigbt. " Mr. Evans, Hirwaun, is here, and the proposal meets lus hearty approvaI. 1 thmk, cer- tainly, that your ofFer is generous and Christian-like, and cannot fail to be met by a cordial response." CYF. VIII. B