Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] RHAGFYR, 1848. [Rhif. 84. V A V A S 0 R P OWELL. Ychydig o Hanes Bywyd, Troedigaeth, Gweinidogaeth, Erledigaeth, a Marwolaeth y Gwr Hynod Hwn : Wedi ei chymeryd allan o hen lyfr agos i ddau can' mlwydd oed ; rhan o baun a ysgrif- wyd ganddo ef ei hun. (Parhad o'e'Rhi Er dangos enbydrwyd yr amseroedd yr oedd Mr. Powell yn byw ynddynt, a'i fywyd santaidd a'i weinidogaeth danbaid ynteu (fel gwreichion yn disgyn ar bylor) yn tanio rhagfarnau a llygredd yr oes, ac hefyd er dangos y gofal gor-fanylaidd oedd gan Dduw am dano, dylasem nodi rhai o'r profedigaethau a'r gwaredigaethau rhy- feddol a gafodd cyn ei fynediad i Lundain yn 1640. Y mae bywgraffydd Mr. Powell yn ad- rodd* "iddo gael ei gymeryd gan haid o ddynion pan yn pregethu un noswaith mewn anedd-dy, ac iddynt ei ddwyn ef ac amryw o'r bobl oedd yn gwrando tua Bu- allt (aheddle yr Ynad) yn y nos, ac ar eu ffordd daethant at eglwys a thafamdy, a chymellai y cwnstebli hwynt i'r tafarn i aros hyd y boreu; ond dewisasant hwyth- au fyned i'r eglwys; ac yno, tua haner nos, y dechreuodd Mr. Powell weddio, canu Salm, a phregethu iddynt oddiwrth Mat. x, 28, 'Nac ofnwch y rhai a ddichon ladd y corff.' Sylwid fod un o'r ceisbwl- iaid mwyaf ffyrnig yn wylo yn chwerw. Boreu dranoeth dygwyd hwynt i dŷ yr Ynad, yr hwn nid oedd yn y tỳ pan aethant yno. Tra yr oeddent yn dysgwyl yno cymerodd Mr. Powell y Beibl yn ei law, a phregethodd yno drachefn ; wrth yr hyn y cynddeiriogodd yr Ynad yn fawr; ond dwy o'i ferched, y rhai gawsant flas ar y gair, a ddeisyfasant eu tad na wnelai ddim iddo ef a'i gymdeithion. Ond y fath oedd ei gynddaredd fel y traddododd hwynt i ddwylaw y ceisbwl, yr hwn a ganiataodd iddynt ryddid i gadw addoliad cyhoeddus yn y dref, a llawer o'r ardalyddion a ddaeth- * Chistian Biography, by the R. T. S. Cyf. VII. FYN DlWEDDAF.) aut ynghyd idd ei wrando yr hwyr a boreu tranoeth." Crybwyllasom yn ein Rhifyn diweddaf fod Mr. Hugh Lloyd, yr Uchel Sirydd, wedi ei ddàl a'i draddodi i garchar o dan dricbyhuddiad. Ond ymhlith un-ar-bym- theg o geisbwliaid nid cedd ond un a anturiai gymeryd ei ofal a'i arwain i'r car- char; ac fel yr oeddent yn myned tua'r carchar, yr oedd ei artrefle ef ar y ffordd, caniatàodd y ceisbwl iddo letya yno y noson hono; a thra yr oedd Mr. Powell ar ei weddi deuluaidd, llwyr argyhoeddwyd y swyddog o'i ddiniweidrwydd, a phender- fynodd nad elai ag ef gam yn mhellach, pe costiai ei fywyd iddo; felly gadawodd ef yno, affodd ei hunan. Ond er mwyn dyo- gelwch y dyn, ac aurhydedd yr efengyl,efe a ymrwymodd ei hun i ateb i'r prif-frawd- lys. Wedi ei gyhuddo o dri throsedd, (fel y nodasom yn ein Rhifyn diweddaf) o'r rhai y rhyddhawyd ef; ac yn ganlynol gwahoddodd y Barnwyr ef i giniaw gyda hwynt, a cheisiasant gydagef i ofynbendith ar yr ymborth, am yr hyn y dy wedai un o'r Barnwyr mai dyna y "fendith oreu a glywodd ef erioed." Cynhyrfodd hyn y Sirydd mor fawr, fel pan y torodd y rhyfel gartrefol allan, yr erlidiodd ef allan o'r wlad. Y fath oedd sêl a brwdfrydedd Mr. Pow- ell dros achub eneidiau, fel y cyfrifai bob peth a feddai, hyd y nod ei fywyd ei hun, yn dom ac yn golled;—ymdrechai mewn amser ac allan o amser, fel ag y pregethai ar y prif-ffyrdd, mewn ffeiriau, marchnad- oedd, îe, weithiau mor hired a phump, chwech, a saith awr, yn ddiorphwys! "Wedi iddo fyned i Lundain yn 1642, arosodd yno tua dwy flynedd, lle y mwyn- haodd ryddid i bregethu y gair, ac yr oedd 3 K