Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] TACHWEDD, 1848. [Riiif. 83. VAVASOR POWELL. Ychydig o Hanes Bywyd, Troedigaeth, Gweinidogaeth, Erledigaeth, a Marwolaeth y Gwr Hynod Hwn: Wedi ei chymcryd allan o hen lyfr agos i ddau can' mlwydd oed; rhan obaun a ysgrif- wyd ganddo ef ei hun. Ganed ef yn y flwyddyn 1617. Enw ei dad oedd Mr. Richard Powell, cangen o hen deulu cyfrifol ac anrhydeddus yn Nghymru, trigianol yn y Knock-làs, bwr- deisdref yn sir Faesyfed, lle yr oedd ei deidau wedi bod yn byw am gan' mlynedd o'i flaen ef. Ei fam oedd o hen deulu anrhydeddus y Vavasors, y rhai a ddaeth- ant o swydd Efroc i Gymru er ys amser maith yn ol; felly trwy ei dad a'i fam yr oedd yn perthyn i'r teuluoedd goreu yn Ngogledd Cymru: er maieilinachurddas- olaf oedd ei berthynas atheulu anrhydedd- us Abraham íFyddlon. Gall y dynion mwyaf annheilwng yn aml ymffrostio yn eu gwaedoliaeth yn ol y cnawd ; eithr yr ail-enedigaeth yw yr enedigaeth oreu. Cafodd ei ddwyn i fyny o'i febyd yn ysgolhaig, gan ei fwriadu i'r offeiriadaeth, (fel y gwneir a phlant yn aml, megis i grefftau a galwedigaethau ereill,) cafodd fenteision Urdd-ysgol Rhydychain; ac wedi iddo dreulio ei amser yno, cymerodd ei ewythr Mr. Erasmus Powell ef yn Gurad iddo ef yn Clun, ar gyfnniau sir Amwythig, er ei fod ar y pryd hyny yn hollol anwy- oodus o Dduw, a dibarch idd ei Fab a'i air. Í.Y fath gyfundraeth ofnadwy sydd yn gwthio dynion halogedig i gysegr Duw!] Oblegid dyma ei eiriau ei hun am ei gyflwr î'r amser hyny, a'r dull a'r modd yr ymwel- °dd Duw ag ef:— " Er i mi gael fy nwyn i fyny mewn "jsg o'm mebyd, hyd ugaiu oed, yr oeddwn fel ag y mae y rhan fwyaf o rai ieuaingc, **ld yn unig yn anwybodus o Dduw, ac o'i Fab Iesu Grist, o'r ail-enedigaeth, a dir- geledigaethau efengylaidd ereill, ac o'm ^ì'flwr truenus fy hun wrthnatur; eithr efJ'd yn dilyn pleserau a gwagcddau y Cyp. VII. byd drygionus hwn yn dra ymröus ablaen- llaw, ac yn cael fy nghyfiawn alw gan fy nghyfeillion,a'meyd-ysgolheigion, yn Gad- pen, neu yn flaenor yn mhob drwg, ond yn unig fy mod yn cashau meddwdod, yn edrych arno yn beth mor annaturiol ag yr oedd yr anifeiiiaid mwyaf gwangcus a di- wybodaeth yn ymgadw rhagddo, ac yr oeddwn yn rhyfeddu fod dynion yn gallu ymhyfrydu yn yr hyn nad oedd dim gwir bleser, elw, nac anrhydedd ynddo. Nid oedd genyf ddim parch i'r ysgrythyrau santaidd, yn prisio dim byth am edrych iddynt, ond yn hytrach llyfrau hanesion, prydyddiaeth, a hen chwedlau oedd fy holl hyfrydwch ; yr oeddwn yn mawr halogi y Sabboth trwy bob math o ddifyrwch ofer ; er rhyngu bodd i Dduw fawrhau ei ras yn y cyfryw fodd, fel ag y gwnaeth hyny yn achlysur o'm troedigaeth. Ar un dydd yr Arglwydd, fel ag yr oeddwn yn sefyll gerllaw ac yn edrych ar y rhai hyny ag oedd yn tori y Sabboth trwy amryw chwar- euon, a chan fy mod fy hunan y pryd hyny yn ddarllenwr gweddiau cyffredin, ac mewn gwisg bugail ynfyd, yr oedd arnaf gywilydd i chwareu gyda hwynt, eto yn cymeryd cymaint o bleser ynddo a phe buaswn; ar hyn o bryd, proffeswr crefydd dwys a duwiol, (un o'r rhai hyny a elwid y pryd hyny yn Buritanìaid,) wrth fy ngweled yno, a ddath ataf, ac yn sobr ac yn addfwyn iawn, a ofynodd i mi, " Syr, a ydyw yn gweddu i chwi ag sydd yn ysgolhaig, ac yn un ag sydd yn dysgu ereill, i dori Sabboth yr Arglwydd fel hynî" I'r hwn yr atebais, fel y gwawdwyr hyny yn Malachi, Yn mhabeth yr wyf fi yn eidorit Chwi a welwch nad wyf ond sefyll gerllaw, ond nid wyf yn chwareu dim oll. I'r hvn 3 E