Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] HYDREF, 1848. [Rhif. 82. PREGETH, Ar Phil. ii, G—8. &AH ¥ PAlCEo LOT ILÎE10 TIE ITHo " Yr hwn, ac cfe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw ; eithr efe a'i dibrisiodd ei lmn, nan gymeryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion : a'i gacl mewn dull fel dyn, cfe a'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angeu, ie, angeu y groes." I. Sefyllfa "Wreiddiol Iesu Grist. II. Ei Sefyllfa o Ddarostyngiad. Mae yr ysgrythyrau yn fynych ac eglur yn llefaru am Iesu Grist mewn sefyllfa cyn ei breswyliad ymhlith dynion, ac y mae yn syndod o'r mwyaf fod neb sydd yn dwyn enw Cristnogion yn beiddio ei ameu, yn enwedig os ystyriwn fod yr athraw- iaeth nid yn unig yn cael ei chynal gan luaws o dystiolaethau anffaeledig, ond hefyd yn wir hanfodol i natur y grefydd Gristnogol. Os yn y byd hwn, fel dynol- ryw yn gyffredinol, y dechreuodd Iesu Grist fodoli, nis gall fod yn Dduw nac yn Waredwr; o ganlyniad, nis gallai, heb fod yn euog o'r rhyfyg gwarthusaf a'r trais mwyaf cableddus, hawlio cydraddoldeb â'r Bôd mawreddog hwnw sydd o dragywydd- oldeb hyd dragwyddoldeb. Oud sicrheir i ni, nid yn uuig ci fod yn bodoli cyn cymer- J'd arno agwedd gwas, ond ei fod yn bodoli yn ffurf ogoneddus ac addoladwy Duw, ac heb dybied yn drais fod yn gyfartal a'r Goruchaf. Sylwn yn 1, Arei Gyn-fodolaeth. Yr hwn ac efe yn ffurf Duw, neu yn ol y Saisnacg ac ieith- oedd ereill, yr hwn ac efe yn bod, neu yn bodoli yn ffurf Duw, h.y., cyn ei ym- gnawdoliad, oblegid felly yn unig y mae y geiriau yn ddealladwy. Os cyfeirio y maent at Iesu Gri8t fel dyn, mac yn rhaid ei fod yn ddyn cyn ei gael mewn didl fel dyn, yr n)n sydd ynfydrwydd. Ond os deallwn hwyntamdanomewn sefyllfa raghanfodol, daw j r holl ymadrodd yn ddealladwy, yn synwyrlawn, ac yn berffaith gyson â rhed- iad cyffredinol yr ysgrythyrau, yn gystal a rcyd-destun. Maey dywcdiadaumynych Cyf. VII. fod Iesu Grist wedi ei anfon i'r byd; wedi dyfod yn y cnawd; wedi cyfranogi o gig a gwaed; wedi dyfod o'r nefoedd, ac oddi- uchod, a'r cyffelyb, yn eglur gynwys ei gyn-hanfodiad. Mae yn amlwg oddiwrth nifer o destunau fod Iesu Grist yn bodoli yn ystod, a chyn yr hen oruchwyliaeth. Rhydd i ni y dystiolaeth bennodol hyn am dano ei hun,—" Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, cyn bod Abraham yr wyf fi," h.y., cyn bod Abraham yr wyf fì yn bod; felly y deallwyd ef gan yr luddewon. Mae Pedr hefyd yn arddangos y proffwydi cyntefìg fel yn chwilio pa bryd, neu pa ryw amser yr oedd ysbryd Crist, yr hwnoedd ynddynt yn ei hysbysu, pan oedd efe yn rhag-dyst- iolaethu dyoddefaint Crist a'r gogoniant ar ol hyny ; a chan fod y proffwyd yn Uefaru ac yn ysgrifenu drwy ei Ysbryd ef, rhaidei fod ef ei hun y pryd hyny yn bodoli. Os nad oedd, pa fodd y dy wed yr apostol Paul, " Ac na themtiwn Giist, megis ag y tem- tiodd rhai o honynt hwy," sef yr Israeliaid yn yr anialwch', ac a'u dystrywiwyd gan seirff; o ganlyniad cyhuddir yr Israeliaid am beth oedd yn anmhosibl, a dystrywiwyd hwy am yr hyn oedd yn annichonadwy, os nad oedd Iesu Grist yn rhagfodoli. Ond dori y ddadl, gwelodd y proffwyd Esay ef gannoedd o flyneddoedd cyn iddo gymeryd arno agwcdd gwas, yn eistedd ar orseddfa ucliel a dyrchafedig, yn cael ei amgylchynu a'i berffaith addoli gan luaws o'r engyl urddasolaf, sydd gerbron gerscdd-faingc Jehofa. Efe yn ddiddadl ydoedd angel yr Arglwydd, neu yn hytrach yr angel, neu Jehofa, (yr hwn) a ymddaugosai mor fynych i'r patrieirch a'r proffwydi gynt; ond gallwn olrhain ei gyn-fodolaeth i gj*f- 2 Z