Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] MEDI, 1848. [Rhif. 81. Y DIWYGWYR. Oddiar yr ystyriaeth fod amrywo ddar- llenwyr lluosog y Bedyddiwu, nad ynt yn meddu argyfleustrai gyrhaedd gwybodaeth am Fywgraffiadau y Diwygwyr,—personau a fuont o gymaint fendith i'n gwlad ac i'n byd, tueddwyd fi i roddi cip olwg ar rai o honynt, trwy gyfrwng ein cyhoeddiad defnyddiol. Joiin Wicliffe, a aned yn Ngogledd Lloegr, yn nghylch y flwyddyn 1324, ac a ddygwyd i fyny yn Rhydychain. Efe oedd y cyntaf a wrthwynebodd gyfeiliorn- adau a llygredigaethau pabyddiaeth yn y wlad hon. Y mynachod yn y Brif-ysgol a enynasant ei ddigllonedd; a chan i'r Pab gymeryd eu plaid yn ei erbyn ef, gorfu amo gilio i'r wlad. Ei le trigiannol oedd Lutterworth, yn Leicester, o'r hon berson- iaeth y bu ef yn feddiannol dros ysbaid o amser, a lle y mae rhan o'i gadair ymad- rodd i'w gweled yn aros hyd y dydd hwn. Yma efe a barhaodd yn ei wrthwynebiad i Eglwys Rhufain gyda sefydlogrwydd cyson; ond, oni buasai iddo gael ei ymgeleddu gan y Duc o Lancaster, efe a syrthiasai yn aberth idd ei ffyddlondeb ei hun. Efe a fu farw marwolaeth naturiol, mewn beddwch a thangnefedd, yn ei wely ei hun, yn Lutterworth, yn 1384, gan adael ar ei °1 amryw ganlynwyr. Y penaf o'i Gy- Wddiadau a elwir Trialogiis, sef cyd- ymddiddan rhwng tri Weíarwr-- Gioirionedd, Celwydd, a Docthineb. Efe a ysgrifenodd 'awer o bethau yn Lladin a Saisneg, ond yr uchod yw yr unig waith yn agos a aî'graffwyd. Yn gytunol a phenderfyniad eymanfa Constance, a gyhaliwyd yn 1416, ei esgyrn a gloddiwyd i fyny ac a losgwyd— ci lyfrau a waharddwyd, a'i goffadwriaeth a 'waradwyddwyd â'r enw enllibaidd o heresi, Ond ni wasanaethodd yr ymddyg- lad taranllyd hwn i ddim, ond i ledu yr achos gogoneddus ag oedd Wicliffe wedi ei amddiffyn; oblegid yn ol hyny efe a gafodd cyf. vii.' yr enw anrhydeddus o Seren Foreuol y Diwygiad ! Martin Lutheiì,—Y dyn hynod hwn a aned 1483, yn Plehen, tref o Saxony yn Germany. Ar ol myned trwy yr yrfa gyff- redin o ddysgeidiaeth, yn un o'u prif ysgolion, efe a gymerodd urddiad y myn- achod Augustinaidd. Ei ddysgeidiaeth oedd gymhedrol, ond ei ysbryd yn anorch- fygol. Gan fod pardynau yn cael eu gwerthu gan Leo. X. mewn trefn i gasglu arian at adeiladu St. Pedr yn Rhufain, Luther a osododd ei wyneb yn erbyn y fath fesur niweidiol i lwyddiant rhinwedd a duwioldeb. Wedi i'r waedd gael ei bloeddio allan, yr Eglwys Rufeinig a siglwyd hyd ei syl- feini; a'r gwenwyn arteithiol hwn a der- fynodd yn y Diwygiad. Ond yn gyffelyb i Wicliffe, y Diwygiwr hwn a fethasai yn ei ymgais, oni buasai iddo gael ei ymgel- eddu gan rai o dywysogion Germany, (yn enwedig Ffrederic o Saxony,) yr hwn a fu hyuod sylwgar ac amddiffynol iddo: yr hyn a brawf mai nid yn ol yn gwbl y mae cyflawniad y broffwydoliaeth o y bydd brenhinoedd yn dad-maethod,a brenhinesau yn fam-maethod yn Seion. Ar ol ysgrifenu amryw lyfrau, ac ymdrechu ar amryw ach- osion gydachalondidrhyfeddol, Luthera fu farw yn y flwyddyu 1546, yn cael ei alaru gan ei ganlynwyr, a'i barchu yn fawr gan y byd protestanaidd. Ei dymer, rhaid cyf- addef oedd angherddol; ond yr oedd natur yr amseroedd, mae yn ddiameu yn cymell ac yn gofyn y fath dymer. Fe ymddengys yn sicr, ei fod wedi ei gyfodi gan Raglun- iaeth fawr y Ne' i'r gwaith dirfawr a ddygodd efe oddiamgylch. John Calyin,—A aned yn Noyon, yn Picardy, yn y flwyddyn 1509; efe a dder- byniodd ei addysg yn Paris, a lleoedd ereill, yn y rhai yr oedd amryw ganghenau gwybodaeth yn cael eu dysgu gjda chyw-