Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] GORPHENHAF, 1848. [Rhif. 79. DIACONIAETH. Y mae llawer o ofid yn aml yn ein heg- lwysi yn gydfynedol â dewis diaconiaid: a rhwng aflonyddwch un blaid am fod yn y swydd, ac anghymwysder ereill yn y swydd, y mae rhai llefydd yn cael eu gwneud yn bob peth ond dymunol i'r gweinidog.ynghyd a'raelodaullonydd-fryd a chrefyddol. Yr wyf wedi gweled, a chlywed am ofid- iau dirfawr wedi eu dyoddef yn nghysyllt- iad y ddiaconiaeth yn eu dewisiad, ac eu hymddygiad yn ol llaw; ond gyda golwg arnaf fy hun yn bersonol, yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar i'r Arglwydd, am fy mod i hyd yn hyn, oddiar yr wyf yn yr eglwys tan fy ngofal yn bresenol wedi cael y gofid lleiaf yn newisiad, nac yn ymddygiad diaconiaid, ataf fi, yn ol Haw. Yr ydwyf wedi cael dau ddewisiad ar ddiaconiaid oddiar wyf yma, yn ystod pedair-ar-ddeg o flyneddau. A chymerodd y dewisiadau le heb un anghydfod, na digter na dadl. Ein cynllun y ddwy waith oedd a ganlyn:— Pennodi ar noswaith i'r eglwys oll i ddyfod ynghyd,—wedi darllen, canu a gweddio, traddodais yr Anerchiad fer a ganlyn, a rhyw beth yn gyfFelyb iddi y tro o'r blaen. Wedi gorphen yr Anerchiad, gweddio a chanu, eisteddaí yr aelodau oll yn eu llefydd, ac aethym inau i'r Vestry, lle yr °edd pin a phapur wedi eu parotoi. Yna y oedd yr aelodau gwrywaidd i ddyfod i Wewn, un ac un, ac enwi y tri, neu y nifer °edd i fod, a minau yn eu gosod lawr; ac ^edi iddynt oll enwi y rhai a ddewisient, heb fod neb yn gwybod pwy oedd un ac arall wedi ddewis. Yna y tri ag oedd ^edi cael fwyaf o ddewiswyr oeddent i fod yn y swydd; os dygwyddai fod y pedwar- ydd wedi cael yr un rhifedi a'r trydydd, °eb angen ond tri—yna yr oedd rhaid Swneud dewisiad rhwng y ddau hyny fel 0 r Waen, yn ol y drefn uchod. *r wyf yn cyfiwyno hyn i'r Bedyddiwr °ddiar yr ystyriaeth y gall fod yn llesiol i Cyp. VII. ryw eglwysi ereill, trwy fabwysiadu cyn- llun cyffelyb, pan mewn angen i ddewis diaconiaid. YR ANERCHIAD. Trwy gyfryngau y mae yr Arglwydd yn gweled yn dda i fyned a'i achos mawr yn mlaen ar y ddaear. Yn awr y mae tri o ystyriaethau yn cyfodi yn naturiol iawn oddiar y ffaith yna—sef 1, Nad ym i ddysgwyl yn rhyfygus am i Dduw i gario ei achos yn mlaen, heb i ni ddefnyddio moddion. Os yw eglwys am gael llwyddiant a llewyrch, rhaid iddi gael ei swyddogion a'i moddion gosodedig gan Dduw. 2, Ein rhwymedigaeth i fod yn ofalua iawn i ddewis y cyfryngau hyny ag y mae Duw yn geisio. Yr oedd yn rhaid cael y defhyddiau crybwylledig gan Dduw i adeil- adu yr Arch, a'r Deml,—i gael Jericho i lawr, &c.; felly rhaid gofalu fod y cymer- iadau hyny i gael eu dewis ag sydd yn grybwylledig yn y gair. Wrth ddewis gweinidog neu ddiaconiaid, ni ddylai un rhyw beth gael Ilywodraethu y dewisiad ond cymwysder i'r swydd. 3, Fod y gorchwyl o ddewis a defnyddio y moddion wedi eu hymddiried gan Dduw idd ei eglwys. Hwynt-hwy sydd i farnu yr ysbrydion, ai o Dduw y maent. Y mae yr eglwys i ddàl sylw manylgraff yn ei phlith ei hun, a oes rhyw argoelion fod eginau i'r weinidogaeth yn dyfod fyny yn ei phlith,—yna eu magu a'u meithrin yn gymwys i fyned allan yn Uestri i ddwyn trysorau yr iechydwriaeth idd eu cyd- greaduriaid. Felly hefyd y mae yr eglwys yn cael ei chyfarwyddo i edrych yn ei phlith ei hun am bersonau addas i weini yn y swydd ddiaconaidd. Sylwer I. Natur y swydd,neu ei chynhwysiad. Cofier mai swydd ẁasanaethyddol ac nid traws-arglwyddiaethol yw. Swyddanrhyd- eddus—rhoddi elusenau; a swydd agsydd yn taflu anrhydedd nid bychan ar Gristnoe- 2H