Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. YII.'J MEHEFIN, 1848. [Riiif. 78. DYLANWADAU YR YSBRYD A GWEDDIAU YR EGLWYS. Mae athrawiaeth dwyfol ddylanwadau yn ddirgelaidd, hyny yw, anolrheinadwy; ond yn berffaith rhesymol, ac mor eglur brofadwy ac un o athrawiaethau gogon- eddus datguddiad. Mae dwyfol ddylan- wad yn treiddio trwy holl gyfundraeth natur; yn gweithredu ar bob gwrthrych ; yn ysgogi yr holl ail-achosion; yn sicrhau cysondeb, ac yn rheoleiddio y cyfan. Wrth gymeryd tremiad arwynebol ac ebrwydd ar natur, gallem feddwl ein bod yn canfod niferi lluosog o achosion annibynol a hunan-ddigonol, yn gweithredu eu heffeith- iau o honynt eu hunain ; ond wrth gymer- yd golwg fanylach ni ganfyddwn nad ydynt ond gwahanol ddolenau mewn cadwyn, ac er eu bod yn dwyn perthynas ag achosion a'r sydd yn canlyn, nid ydynt eu hunain ond effeithiau ymddibynol ar achosion blaenorol; a gellir eu dilyn yn ol at achos anweledig, ysbrydol a dwyfol. Arweinir ni yn y pen draw at gysylltiad rhwng defnydd ac ysbryd, rhwng creadigaeth a Chreawdwr. Hefyd, mae meddwl dyn yn gyfansoddedig addas i dderbyn dylanwad ysbrydol. Mae hyn yn ffaith eglur ac anwadadwy ; oblegid ni a wyddom fod gan feddwl y naill ddyn ddylanwad ar feddwl dyn arall; dichon dyn gynhyrfu teiraladau a serchiadau dyn arall, trosglwyddo drych- feddyliau iddo, a gogwyddo ei ewyllys. Mae pawb yn hysbys o ddylanwad cyfeill- ion dros eu gilydd; ac y mae yn sicr fod gan awdwyr ddylanwad ar feddyliau eu darllenwyr er da neu ddrwg. Pwy all ddychymygu helaethrwydd y dylanwad a weithredwyd gan "Voltaire, Paine, a Byron M feddyliau dynion er drwg; neu y dylan- ^ad a weithredwyd gan Bacon, Henry, a Gill, &c. er da. Ac os oes dwyfol ddylan- ^ad yn cael ei weithredu trwy holl natur, w 08 oes dylanwad gan feddwl ar féddwl, °eth sydd yn anghredadwy yn athrawiaeth tylanwad dwyfol ar feddyliau dynionl M»« yr athrawraeth yn hollol resymol, yn Cyf. VII. gyson â natur, ac â phrofiad personol. Mae hefyd yn hanfodol i fodoliaeth crefydd, ac yn athrawiaeth egwyddorol a sylfaenol datguddiad. Ac y mae gweinyddiad y dylanwadau hyn yn gysylltiedig â gweddiau yr eglwys. Cynygiwn yn 1. Egluro a phrofi yr angenrheidrwydd am waith yr Ysbryd Glân. Mae golyg- iadau cywir ar y pwngc hwn o bwys mawr, o herwydd eu cysylltiad a golygiadau cywir a'r athrawiaethau ereill, ac o herwydd eu dylanwad grymus ar ein hymarferiadau a'n cysuron. Mae tri pherygl mawr o ffurfio cam-olygiadau ar waith yr Ysbryd. 1, Ysbeilio Duw o'r gogoniant dyledus a phriodol iddo. 2, Esgusodi ein hesgelus- tra a'n diogi pechadurus ein hunain. Ac yn 3, Darnio a dryllio y gyfundraeth Gristnogol, a dystrywio ei chysoudeb. Dymunaf sylw y darlleuydd at y pethau canlynol:— 1, Nid yw yr angenrheidrwydd am waith yr Ysbryd yn golygu unrhyw ddiffyg, anmherffeithrwydd, nac annigonolrwydd yn iaton y Cyfryngwr. Iawn y groes yw neiliduolrwydd yr efengyl; canolbwynt athi awiaethau y gair; colofn a sylfaen y grefydd Gristnogol. Mae yr iawn yn ber- ffaith, yn ddiddiffyg, yn anfeidrol a holl- ddigonol. Mae genym brawfiadau anwad- adwy o hyn yn urddas y person a wnaeth iawn, yn addasrwydd yr iawn i ateb ei ddybenion, yn nghymeradwyaeth amlyg- edig y Tad o'r iawn, ac yn nhystiolaethau yr ysgrifenwyr santaidd. Nid yw dylan- wadau yr Ysbryd gan hyny yn angen- rheidiol i wneuthur gwaed Iesu yn fwy rhinweddol i gyflawni rhyw ddiffyg yn ei aberth, neu i berffeithio ei iawn dyhuddol. Mor bell y mae gwaith yr Ysbryd oddiwrth brofi neu dybied annigonolrwydd yr iawn, fel ag y tnae yn brawf o'i anfeidrol werth, ac yn effaith ei berffeithrwydd. Yr ydym yn ddyledus i'r iawn am yr Ysbryd a'i ddylanwadau; mae yn wobr a ffrwyth 2C