Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] MAI, 1848. [Rhif. 77. BYWYD, NODWEDDIAD, A GWEINIDOGAETH IOAN EEDYDDIWR. LLYTHYR V. CYNHWYSIAD : Ei dystiolaeth am Grist—Symudiad Ioan o Ainon i Galilea—Herod yn eì garcharu—Ei ddysgyblion yn cael dyfod ato i'r carchar—Anfon dau o honynt a gofyniad at Griat— Amcan Ioan torth hyn—Atebiad Crist—Ei dystiolaeth am loan—Byfais gyfnoys-ddrwg Herodias i ddihenyddio y Bedyddnor—Tori pen Ioan yn nyfnder y nos a'i roi iferch Herodias—Ei ddysgyblion yn claddu Ioan. " Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'ì enw Ioan." Ioan i, 6. Ab. ol aros am ryw ysbaid o amser yn Ainon symudodd y Bedyddiwr i Galilea, ar yr hon dalaeth yr oedd Herod Antipas yn detrarch. Pan glywodd Herod fod y dyn mawr hwn yno, rhinwedd dihafal a phregethau cynhyrfiol yr hwn oedd wedi taenu trwy holl wlad Judea, tueddwyd et gan ryw gymhelliad i fyned idd ei wrandaw. Enillodd athrawiaeth y Bedyddiwr ei ystyr- iaeth ef yn fuan, a bu yn foddion i'w gyfTroi ef iwneuthur amraiweithredoeddcanmol- adwy. Dangosai Herod y fath barch i wein- idogaeth a pherson Ioan fel y rhoddai gan- íatâd iddo i ddyfod yn awr ac eilwaith idd ei lỳs ef, a mwynhau cyfeillach y llywiawdwr ei hun. Ond meddyüodd y Bedjddiwr cal- onog, yrhwn oedd ynffyddlawn yn nghyf- lawniad ei swydd, ac yn onest yne^ egwyddor, mai ei ddyledswydd oedd cerydd u Herod am ei gyfeillach odinebus ag Herod- ias, gwraig ei frawd, a dywedyd wrtho yn bendant—" Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd." Gan nad oedd diwyg- iad blaenorol Herod, ond effaith nwyd wamal, parodd cerydd Ioan iddo, nid yn unig ymattal rhag ei wrando mwyach, eithr ar ddymuniad Herodias, yr hon^oedd yn orphwyllus gan ddigofaint at y Bedydd- iwr, ei fwrw ef yn uniongyrchol i'r carchar, a'u gadw yno i aros ei ddihenyddiad dyfodol. Ymddengys fod dysgyblion Ioan ar am- ser ei garchariad yn cael eu goddef i dalu ymweliadau iddo, ac ymddiddan ag et. Cyf. VII. Hysbysasant ef, yn un o'r ymweliadau hyn, âm weithredoédd gwyrthiol yr Iesu; yn arbenig, cyfodi merch Jairus, a mab y weddw o Nain, o feirw, Pan glywodd Ioan hyn anfonodd yn ddioed ddau o'i ddysgyblion at yr Iesu i ofyn—" Ai ti yw yr hwn sydd yn dyfod'? ai arall yr y'm yn ei ddysgwyl V Yn gyd-ffurfiol p archiad eu hathraw, cychwynodd y /sgyblion, lebygol, tua Nain, Ue yr oec ì yr Iesu éto yn trigo ; ac wedi dyfod yno, gosodasänt ofyniad eu hathraw at ystyriaeth yr IeÊU yn gywir ar y pryd yr oedd yn " iachâu llawer oddiwrth glefydau, a phláau, ac lysbrydion drwg, ac yn rhoddi eu golwg i lawer o ddeillion." O ganlyniad, yn lle rhoddi ateb union idd eu gofyniad, dywed* odd yr Iesu wrthynt am ddychwelyd at Ioan a'i hysbysu drachefn am y pethau oeddent wedi eu gweled a'u clywed yn awr,—ufod y deillion yn gweled eilwaìth, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl." (Luc vii, 19—22.) Gorchym- ynodd yr Iesu i ddysgyblion y Bedyddiwr fyned a dywedyd wrtho, iddynt hwy eu hunain weled y pethau rhyfeddol hyn yn cael eu cyflawni ganddo. Yu awr sylwer, mai y gwyrthiau hyn yn gywir oedd y rhai ag oedd y pi-offwyd Esay wedi rhagddy- wedyd, er ys cannoedd o flyneddau yn ol, fuasai y Messia yn eu gwneuthur. Gwel- wn gan hyny fod cyfaddasiad odiaeth yn