Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] EBRILL, 1848. [Riiif. 76. BYWYD, NODWEDDIiD, A GWEINIDOGAETH IOAN FEDYDDIWR. LLYTHYR IV. CYNHWYSIAD: Dyfodiad Crist at Ioan i'r Iorddonen i gael ei fedyddio cyn dechreu ar ei weinidogaeth gyhoeddua—Dyfodiad dirprwyicyr y sanhedrim at loan—Y Bedyddiwr yn nodi Crist allan wrth y cyfenw Oen üuw—Cyfaddasrwydd athrawiaeth y Bedyddiwrat y gwáhanol raddau o ddynion a'i gwrandawai—Symudiad Ioan o Bethabara í Ainon—yr Iesu a'i ddysgyblion yn bedyddio y pryd hyn yn y parth yma—Dadl yn cyfodi rhwng dys<ryblion loan a rhyw Iuddewon yn nghylch rhagoriaeth bedydd Crist—Cytuno iloar. benderfynu y piongc. " Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan." Ioan i, 6. Ymddengys i'r Bedyddiwr dreulio llawer o'i amser i bregethu a gweìnyddu ei fedydd yn Bethabara, lle y croesodd yr Israeliaid yr Iorddonen tan dywysiad Joshua. Yn ysbaid arosiad Ioan yma gadawodd y ben- digaid Iesu ei drigfa yn Nazareth, a chy- nierodd daith at ei ragflaenydd i'r Ior- ddonen i gael ei fedyddio ganddo, er ei ragbarotoi i ddechreu ei weinidogaeth gyhoeddus. Ni ddechreuai y Dysgawdwr dwyfol ar ei swydd santaidd, nes ynflaenaf y cawsai ei gysegru yn gyhoeddus at was- anaeth Duw. Eithr gan y cyfaddeflr ar bob llaw fod ymostyngiad i fedydd yn cyn- «wys y drychfeddwl o halogiad blaenorol, a theimlad o euogrwydd am bechod; a chan y cyfaddefirhefyd gan bob Cristion fod Iesu yn berffaith gyfiawn, fel dyn, ac yn anfeidrol santaidd, fel Duw, oni ellir gofyn gyda rhyw faint o reswm ymddangosiadol, i ba ddyben yr ymostyngodd y Messia dihalog i'r ordinhad hon t Atebem hyn trwy nodi 1 Grist ymostwng i'r ordinhad o fedydd—1, Er mwyn argraffu awdurdod dwyfol ar fedydd Ioan a'i olynolion, yn gystal ag ar ymostyngiad i'r ordinhad. 2, Er mwyn rhoddi ini siampl o ufudd-dod i fedydd, fel defod ragdderbyniol i'r eglwys, fel arwydd o farwolaeth i bechod ac adfucheddiad i Eduw, yn gystal ag fel arwyddlun i'n par- haus adgofio am farwolaeth ac adgyfodiad e|n Prynwr. Nid yn y cymeriad o Dduw, eithr yn y cymeriado ddyn yr ymostyngodd Crist i fedydd. Yn y pethau a wnaeth ef I Cvf. VII yn y cymeriad o ddyn y mae ef yn siampl i ni. Yn y cymeriad o Dduw rhoddodd draed i gloffion, clustiau i fyddariaid, cod- odd y meirw, &c. Yn y cymeriad o ddyn gweddiodd ar Dduw, teimlodd hyd at ddagrau dros bechaduriaid, pregethodd yr efengyl, bwytaodd o'r swper santaidd, ym- ostyngodd i fedydd, cymerodd arno agwedd gwas, gan fod yn ufudd hyd angeu ; dyoddef tylodi, er yn gyfoethog; ymostyngodd i olchi traed ei ddysgyblion, er mwyn dysgu yr un ymostyngiad iddynthwythau, dyodd- efodd dros grefydd, gan adaei i ni siampl fel y canlynem ei ol ef. Yr un modd cymerodd ei fedyddio fel siampl i ni. Pau gyrhaeddodd yr Iesu làn yr Iorddo- nen, ac y nesâodd at Ioan, ymddengys idd ei ragredydd ei adnabod ef yn ddioed, megis trwy gyfrwng dadguddiad dwyfol; a chan ei fod yn deimladwy o'i oruchafiaeth anfeidrol, nacäodd am ychydig ei fedyddio ; oddar syniad, tebygol, o'i waeledd ef fel dyn i weinyddu yr ordinhad ar Dduwdod ymgnawdedig. Ond buan y symudodd y Gwaredwr ollddoeth ei wrthwynebiad â rheswm pwysig, ac y darbwyllodd ef i'w fedyddio yn ngwydd tyrfa o edrychwyr. Ar ol i'r Messia santaidd gael ei fedyddio, aeth yn ddioed allan o'r dwfr; a chan blygu ei liniau, fel yr ymddengys, ar làn yr Iorddonen, deisyfodd ar ei Dad nefol am dywalltiad helaeth o'i Ysbryd arno, yrhyn, gan ei fod yn awr ar wneuthur ei genadwri ddwyfol yn gyffredinol hysbys, fuasai yn