Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] MAWRTH, 1848. [Riiif. 75. BYWYD, NODWEDDIiD, A GWEINIDOGAETH 10AN FEDYDDIWR. LLYTHYR III. CYNHWYSIAD: Mai y dull yn yr hwn y bedyddiai Ioan oedd tricy soddi tan y dwfr—Mai y rhai a roddent brofion o'u hedifeirwch a'u ffydd yn unig a fedyddiai—Ei wrthwynebiad i gydsynio á chais y Phariseaid a'r Saduceaìd—Nad oedd bedydd Ioan yn gicaìianiacthu oddiorth fedydd Crista'i apostolion—Adolygiad ar ysgrifyniadau y Parch. R. Hall, a rhydd- gymunwyr ereill a haerent eifod. " Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan." Ioan i, 6. Yr oedd deiliaid bedyddIoan,neu y rhai yn unig a fedyddiai ef, y fath, nid yn unig ag oedd yn alluog i edifarhau a chredu yn y Messia, yr hwn oedd ar fyr i ymddangos, fel Iachawdwr y byd, eithr y fath a roddai brofion boddhaol eu bod yn gwneuthur y pethau hyn yn wirioneddol. Canys yr oedd ei fedydd ef yn sefyll yn anwahanad- wy gysylltiedig â'r, neu yn ganlynol i'r athrawiaeth a bregethai, a'r dyledswyddau a anogai, sef edifarhau am bechod, a'i gyfaddef, mewn trefn i gael maddeuant. Dywedir yn bendant gan yr efengylwyr fod y rhai a fedyddiai ef yn cyffesu cu pechoduu. Ni fedyddiai ef, ychwaith, neb na fuasai yn rhoddi arwyddion digon amlwg o edi- feirwch ; o ganlyniad, pan welodd lawer o r Phariseaid a'r Saduceaid yn awyddus am ymostwng i'r ordinhâd a weinyddai, heb ond ychydig neu ddim arwyddion o edifeirwch ynddynt, rhyfeddodd yn ddir- fawr fod y rhai hyn ag oedd yn cario y fath dŷb uchel am eu santeiddrwyddeuhunain, öid yn unig yn meddwl y cawsent, eithr, i r gradd lleiaf yn dymuno cael eu bedydd- 10—eu bod hwy am gael maddeuant o'u pechodau, neu yn dysgwyl cael iachawdwr- laeth trwy unrhy w ffordd amgen uag yn ol eu dychymyg coeg eu hunain, sef o her- ^ydd eu bod yn blant i Abraham. Dichon mai eu hamcan, wrth ofyn am gael eu bed- yddio oedd, ceisio ymgadw rhag y perygl a dybient eu bod ynddo, trwy fod yn elyuion «yhoeddus i'r Messia, yr hwn a feddylient Cyf. VII fuasai,ar fyr, yn ymddangos ynholl rwysg a gorwychder brenin a gorchfygwr, ac yn enill ei oruchafiaeth trwy rym arfau, gan feddwl y gallasent wrth ymostwng i'r or- dinhad hon gael maddeuant ganddo, a denu ei ffafr. Eithr gan fod Ioan yn eithaf adnabyddus o'r tylwyth hyn, ac yn gwybod fod eu dymuniad ara gael eu bedýddio yn codi oddar gau-ddybenion, ceryddodd hwy yn llym, a ffrwynodd eu balchder achyddoL, trwy eu galw yn "genedlaeth gwiberod" yn lle had xibraham, gan ofyn iddynt yn gyffredinol—"Pwy a'ch rhag-rybuddiodd chwi i fFoi rhag y llid a fydd 1 Dygwch, gan hyny, ffrwythau addas i edifeirwch." Fel pe dywedasai—O ragrithwyr! Pwy a ddywedodd wrthych chwi am y perygl agosäol ag wyf fi, trwy orchymyn dwyfol, yn ei gyhoeddi 1 Beth a allai fod wedi dirwasgu eich meddyliau hunan-ddigonol chwi i deimlo cich perygl % Yr unig lwybr trwy yr hwn y gellwch chwi ddiangc rhag y perygl sydd yn crogi uwch eich penau, o herwydd bod yn elynion i'r Messia, yw tiwy ymostwng yn eich meddyliau o'i flaen ef, yn ngwir edifeirwch, ffydd a santeidd- rwydd yr efengyl ag wyf fi wedí dechreu ei phregethu. Na chymwythwch eich hunain â'r dychymyg gwag a rhyfygus fod genych hawl i iachawdwriaeth yn unig o herwydd eich bod yn hiliogaeth Abraham, tra yr ydych yn amddifad o'r rhan leiaf o ffydd a duwioldeb Abraham. Canys y mae Duw, yr hw_n a luniodd ein rhieni