Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] CHWEFROR, 1848. [Rhif. 74. BYWYD, NODWEDDUD, A GWEINIDOGAETH IOAN FEDYDDIWR. LLYTHYR II. CYNHWYSIAD: Cyfaddasder Ioan i'w swydd santaidd—Ei oedpan yn dechreu ar ei weinidogaeth gyhoeddus __Rhesymau dros na ddechreuasai yn gynt—Cyfaddasdçr ei wisg a'i fuchedd erioin— Eifedydd—Ymc/twiliad i'r pwngc, pa un a oedd yr arferiad o fedyddio yn bodoli cyn amser Ioan neu nad oedd—Dwyfoldeb bedydd loan. " Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan." Ioan i, 6. Ymddengys fod Ioan, nid yn unig o'i febyd wedi cael ei gynysgaethu â chyfran anarferol o ddoniau goruch-naturiol yr Ysbryd Glân, ond hefyd yn naturiol feddu cynneddfau corfforol cryfion, galluoedd meddyliol treiddlym, a rhinweddau moesol o'r mwyaf godidog. Y mae y blaenaf yn amlwg oddwrth y dull gerwin a roddir o'i fucheddiad boreuol; j mae yr ail yn eglur oddwrth sylwedd ei bregethiad, a'r dull y triniai ei byngciau; ac y mae profion diamheuol o'r olaf yn yr eiddgarwch, yr hyfdra, a'r gonestrwydd a ddangosai wrth lefaru yn erbyn drygau, fel y cawn sylwi eto yn helaethach mewn cysylltiad â'r ymddygiad at anfoesoldeb Herod a gwraig ei frawd. O'r diwedd gwawriodd y dydd rhag- bennodedig iddo ddechreu ei weinidogaeth gyhoeddus, a llythyrenol gyflawnwyd pro- ffwydoliaeth Zecharias dduwiol, yn mharth ei dderchafiad dyfodol—" a thithau fach- genyn a elwir yn broffwyd i'r Goruchaf; canys ti a ai o flaen wyneb yr Arglwydd, i barotoi ei ffyrdd ef; i roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl yn maddeuant eu pechodau; o herwydd tiriondeb trugar- edd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder, ì lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfarwyddo eu traed i ffordd tangnefedd." Luc i, 76—79. Gan ei fod, fel y darluniasom, wedi ymddilladu mewn gwisg arw o flewcamel, ac yn ymborthi ar gynhyrchion naturioi Cyf. VII yr anialwch, yr oedd ei agwedd gorfforolVi ddull o fucheddu yn cyfateb yn odiaeth i'r athrawiaeth lem o edifeirwch a draddodai» yn gystal ag i dynu sylw ei wrandawyr; fel ag y mae yn naturiol meddwl i'r bobl, y rhai oeddent yn cyffredinol a phrysur ddysgwyl y Messia, awyddus ymgasglu yn dorfeydd mawrion i wrandaw beth oedd gan ei ragflaenydd i ddywedyd am dano. Hefyd, yr oedd eu hawydd am ei weled a'i glywed, yn cael ei gryfau yn fawr gan yr ystyriaeth fod amrai o'r hen broffwydi wedi rhagfynegu yn eglur y byddai i ryw genad neu broffwyd enwog gael ei anfon idd eu plith, gan Dduw, fel ragflaenydd y Messia, gan ei alw ef yn " Elias," yn " Uef," &c.; ac fod yr angel wedi dywedyd wrth Zechariaa yn y deml, (yr hwn amgylchiad, gan iddo ddygwydd mewn lle mor gyhoeddus, oedd yn rhwym o fod yn gyffredinol adnabj'ddus,) mai yr Ioan hwn oedd i fod y rhagflaenydd a ddysgwylient, gan ei gysylltu ef ag enw Elias, ac adrodd, yn mron, air yn ngair broffwydoliaeth Malachi am ei anfoniad. Nid oedd yr Iuddewon yn amddifad obro- flwydoliaethau am enedigaeth, swydd, ac anfoniad dwyfol Ioan, nac o arwyddion cymhrydiol a chanlynol idd ei enedigaeth, mai efe oedd yr hwn y proffwydasid am dano, fel y cyfryw, mwy nag oeddent yn amddifad o broffwydoliaethau ac arwyddion perthynol i enedigaeth, swydd, a dwyfol anfoniad y Messia ei hun. Yr oedd " llef un yn llefain yn yr anialwch, parotowcb,