Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. VII.] IONAWR, 1848. [Rhif. 73. BYWYD, NODWEDDIID, A GWEINIDOGAETH IOAN EEDYDDIWR. LLYTHYR I. CYNHWYSIAD: I. Dysgtoyliad pridd yr huldcicon am waredwr tymhorol cyn, ac ar amser genedigacth loan—Cenadiori yr angel Gabriel at Zecharias—Ymweliad Mair ag Elizabeth—Gencd- igaeth Ioan— Ymiceliad ei pherthynasau a'i chymydogion ag Elizabeth ar enedigaeth ei mab—Enioi ac enwaedu Ioan ar yr un amser—Tarddiad yr arferiad hyn—Elizabeth yn ffoi äi mab i'r diffeithwch rhag öfn Herod, pan y gorchymynodd ladd mabanod Beth- lehem—Marioolaeth Elizabeth yn y diffeithicch—Lladd Zecharias— Yr anialwch yn yr hwn y trigai Ioan. " Yr ydoedd gẁr wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan." Ioan i, 6. Nid yw doethineb a gallu Duw idd eu Gan fod y genedl Iuddewig ar.yr amser canfod yn amlycach ac eglurach mewn dim ag a wnaeth, nag yn y dull a gymerodd i ddwyn bywyd ac anfarwoldeb i oleuni. Nis gallasai y meddwl dynol mwyaf grymus, yn ddiau, o hono ei hunan byth ddychy- mygu, y gallasai hyd y nod anfeidroldeb gyflawni y fath orchestwaith dihafal trwy y moddion a ddefnyddiodd ef. Gan hyny, gwelodd Doethineb dwyfol yn addas ddad- guddio i'r hil ddynol amcan grasol y Duw- dod tuag atynt, ac hefyd hysbysu y dull a'r moddion a ddefnyddiai i gyflawni eifwriad; a hyny ynjraddol—yn gymesurol i'r, fel yr oedd rheswm pylaidd dyn yn dyfod yn alluog i ffurfio rhyw fath o ddrychfeddwl anmherffaith am y cynlluniau hyn o eiddo Doethineb anfeidrol. Gan fod Duw wedi rhoddi dadguddiadau rhanol, eithr aml o'i ewyllys i had Abraham drwy y Patriarch- iaid, trwyj angelion, trwy y proffwydi, a thrwy gysgodau ac arwydd-luniau o amrai fath, yr oedd rhifedi dirfawr o'r dynion mwyaf crefyddol yn mhlith yr Iuddewon yn hir cyn ymddangosiad y Messia, yn credu yn gadarn, ac yn prysur ddysgwyl y buasai eto, arj fyr, yn eu cynysgaethu ag amlygiad mwy cyflawn ac eglur o'i fwriadau tuag at ddynion, trwy anfon rhyw berson mawreddog idd eu plith, wedi ei ddwyfol gyfaddasu i'r swydd bwysig. Casglent hyn, fel yr ymddengys, oddwrth ragfynegiadau eglur yr hen broffwydi} yn mharth person, nodweddiad, a swydd y Messiaaddawedig. Cyf. VII. hyn yn cael eu gorthrymu yn llymdost gan yr ymherodraeth Rufeinig, yr oeddent yn dra awyddus am weled rhyw ffordd yn ymagor idd eu rhyddhau oddi tan yr iau haiai-naidd hon, ac idd eu gosod mewn ad- feddiant o'u breinniau gwladol a chrefydd- ol: a chan fod enwogion dysgedicaf a duwiolaf y genedl yn barnu fod amser arfaethedig Duw i gyflawni y proffwydol- iaethau a feddylient fod yn cyfeirio at eu hadferiad cenhedlaethol ar ddyfod, ac fod rhyw berson cadarn ac awdurdodol ar ym- ddangos i gymeryd eu plaid. Yr oedd eu dysgwyliad am gyflawniad y proffwydol- iaethau hyn mor daer a pharhaus fel y dywedir, yn gyfeiriadol at y rhai duwiolaf o honynt, eu bod yn dysgioyl ddydd a nos am ddyddamcch yr Israel. Eithr nid yn unig yn ngwlad Canaan y ffynai y dyb fod rhyw un ar ymddangos yn y cymeriad o waredydd cenhedlaethol i'r Iuddcwon—yr oedd y cysylltiadau ag oeddent wedi eu ffurfio yn y cyfamser hyn â chynifer o genhedloedd,eu gwasgariad hwy, fel cenedl, tros gyuifer o wledydd. Y dadleuon yn mharth eu duwinyddiaeth a ddygid yn mlaen gan eu Rabbiniaid, yn erbyn atbron- wyr paganaidd, taeniad eu hegwyddorion crefyddol tros amrai wledydd estronol, yn nghyd â llawer o bethau ereill, fel y noda Fleetwood, wedi bod yn foddion i gludo yn mhell i'r dwyrain y tyb y gwel'sid ar fyr yn ngwlad Judea dywysog a fuasai yn