Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. VI.] RHAGFYR, 1847. [Riiif. 72. PREGETH. Gan JOHN EYANS, Pontfaen, " Canys Moses a ddywcdodd wrth y tadau, yr Arglwydd cich Duw, a gyfyd 1 chwi broíTwyd o'ch brodyr, mcgis myíi: amo ef y gwrandewch yn mhob pcth a ddywedo wrthych. A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y proffwyd hwnw, a lwyr-ddyfethir o blitli y bobl."—Act. III., 22, 23. Mae y testun yn rhan o hregeth Pedr i'r bobl ag oeddent wedi ymgynull i borth Solomon i edrych ar y cloff a iachesid; yr hwn oedd yn rhodio, yn neidio, ac yn moli Duw. Yr oedd y dyn hwn uwchlaw deu- gain oed, yn gloíf o groth ei fam, wedi arfer byw ar elusenau, ac felly yn dra adnabyddus i'r bobl yn gyffredin, yn neill- duol y rhai oeddent yn arfer myned i'r deml i addoli; oblegid, dygid a dodent ef beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Pryd- ferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i'r deml. Ac wrth ystyried hyn, nid rhyfedd ar un llaw ei fod ef yn neidio, i brofi y traed newydd, ac yn moliaunu Duw am danynt; ac ar y llaw arall nid rhyfedd fod y bobl yn crynhoi i'w weled ac yn synu ato. Ond pan oedd yr holl bobl yn frawychus wedi ymgynull i'r porth, ac yn edrych yn synedig ar yr apostolion, a'r dyn a iachesid yn dàl gafael yn Pedr a Ioan, ac yn parhau i neidio; cymerodd 3edr fantais ar y cyfleusdra, i draddodi pregeth am Grist a'i rinweddau cyni'r gynulleidfa gael amser i ymwasgaru. Hon oedd yr ail bregeth a draddodwyd ganddo, wedi derbyniad yr Ysbryd Glân. Y bregeth gyntaf a draddododd ar ol derbyn yr Ysbryd oedd un dydd y Pentecost. Ceir talfyriad o hòno yn yr 2il bennod o'r Aet- au. Pa faint o amser oedd rhwng tradd- odiad y gyntaf a'r ail nis gwn; ond mae y ddwy yr un o ran cynhwysiad :—1, Cy- hoedda mai Iesu o Nasareth a addawodd Duw i'r tadau. 2, Mai gweithred ddrwg yn yr Iuddewon oedd ei gondemnio a'i ladd. 3, Fod Duw wedi ei ogoneddu, trwy ei ddyrchafu oddiwrth y meirw, &c. 4, Mai trwy ffydd yn ei enw yr iachawyd y dyn eloff, adn. 10. 5, Mae yn eu cyngori Cyf. VI. i edifarhau ac i ddychwely.l, er maddeuant eu pechodau, a dedwyddwch eu heneidiau. Yr un peth wyf yn ddeall wrth ddychwdyd yn ail bregeth Pedr, a bedyddicr chwi, yn ei bregeth gyntaf, Act. ii, 38. Mae dych- loelwch yma, yn hollol yn yr un cysylitiad a bedyddier chwi yno. Yn y gyntaf dywed, "Edifarhewch a bedyddier pob un c honoch, er maddeuant pechodau;" yn yr ail dywed, "Edifarhewchadychwelwch, fel y dileireich pechodau." Y ddadl yw, beth ydywdych- weliad'? A ydyw yn ddichonadwy fod dyn wedi dychwelyd yn effeithiol at Dduw, ac efe eto yr un peth, yn aros yn yr un man, heb un cyfnewidiad yn ei egwyddor, na'u weithred % A pha wcithred sydd yn cynwys dychweliad at Dduw, ond ufudd-dod i Dduw. 6, Mae Pedr yn crybwyll adnodau o'r Hen Destament, i ddangos ar awdur- dod mynegiadau Moses, y perigl ag oedd iddynt hwy i wrtbod y gwir Fessia, yr hwn oedd i ymddangos o honynt, ac yn eu mysg—" Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau," &c. Darllenhydddiwedd ybennod. I. Fod y proffwyd a addawodd Duw i'r tadau wedi ymddangos. II. Cysylltiad a phwysigrwydd ei swydd yn ei pherthynas â ni. I. Fod y proffwyd wedi ymddangos—• " Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi broffwyd o'ch brodyr, megis myfi." Mae y geiriau hyn i'w gweled yn Deut. xviii, 15, —" Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o'th bltth dy hun, o'th frodyr dy hun, broífwyd megis finau; arno ef y gwrandewch." Gwnaed yr addewid hon i Israel wrth droed mynydd Sinai, mewn atebiad idd eu gweddiau at yr Arglwydd ; fel y dangosir yn yr adnodau dihnol—" Yn ol yr hyn oll 3K