Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VI.] TACHWEDD, 1847. [Rhif. 71. EHWYGIAD LLEN Y DEML. Wedi penderfynu fbd i Unig-anedig Fab Duw ymweled â'n daear ni yn nghyfiawn- der yr amser, cymeryd ein natur ni am dano, a raarw ar y groes yn y natur hòno er ein hiechydwriaeth, gellid yn rhesymol ddysgwyl fod ei ymddangosiad i gael ei hysbysu yn flaenorol gan oraclau y nefoedd, ac y byddai i'w daith ddaearol gael ei hynodi trwy ryw arwyddion a ddangosent ei wir gymeriad, ac a dafient rhyw oleuni ar ddybenion mawrion a phwysig ei ym- ddangosiad. Wrth chwilio yr ysgrythyrau ysbrydoledig,'yr ydym yn cael lluaws o engreifftiau yn ateb i'r dysgwyliad hwn. Cafodd ymgnawdoliad ein Cyfryngwr ei ragfyneguganamrywiolobroffwydi ysbryd- oledig; a sefydlwyd amrywiol iawn o gys- godau, a seremoniau er rhag-ddarlunio ei gymeriad, ei swydd, a'i waith. Cafodd ei cnedigaeth, ac yn enwedig ei farwolaeth, ei hjnodi trwy amgylchiadau, y rhai, o her- wydd eu neillduolrwydd anghyffredin, oeddent yn eglur wedi eu bwriadu i sier- hau ei Dduwdod, ac arddangos y gorchwyl rhyfeddol a gymerodd mewn llaw idd ei gwblhau. Yn yr awr fwyaf tywyll o'i ddarostyngiad, pan oedd yn hongian ar y groes rhwng nen a llawr, yn ddarlun o adfyd, yn cael ei wawdio gan ei elynion, ei adael gan ei gyfeillion, a'i ddryllio gan ei Dad—pan nad oedd cymaint ag un dafn o gysur, nac un pelydr o oleuni j n cael ei ganiatâu iddo,—oud hyd y nod y pryd nJ'ny> yr oedd y ffurfafen uwchben, a'r ddaearen dan draed, yn dwyn tystiolaeth benderfynol i odidawgrwydd ei gymeriad, a phwysfawredd ei waith. Y tywyllwch caddugawl a fantellai orsaf ddychrynadwy ei ddyoddefaint ar ganol dydd, a'r ddaear- gryn a siglodd fryn Calfaria pan roddodd efe fyny yr ysbryd, a gyhoeddent mewn iaith fwyaf sobr nad person cyffredin oedd Iesu o Nazareth, ac nad amgylchiad naturiol a chyffrediu oedd ei farwolaeth. Y Cannwriad a arolygai ei groeshoeliad, Cyf. VI. er mai pagan oedd, a allai ddehonglu y rhyfeddodion arswydol hyn, a gweled mai gwr cyfìawn oedd Iesu, i'e, yn wir mai " Mab Duw" oedd efe! A ddyoddefwn ni, yn ngwlad y Beiblau a'r goleuni i'r pagan hwn fyned heibio i ni mcwn dar- ganfyddiad ac adnabyddiaethl Tra bydd- om ni yn myfyrio ar farwolaeth ein Ceid- wad, a syllu ar y rhyfeddodau cyd-fynedol â'i drangc, bydded i ni ei addef gyda pharch dyfn-ddwys fel Tywysog y bywyd ac Arglwydd y gogoniant! Yn y sylwadau canlynol cawn ystyried y dygwyddiadau rhyfeddol oeddent yn gyd-fynedol â marwolaeth Crist. Pan roddodd Iesu fyny yr ysbryd " Ilen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd y waered." Yr oedd teml Jehofa, yr hon a adeilad- wyd ar y cyntaf gan Solomon, a'r ail waith gan Zorobabel ar ol y caethiwed Babilon- aidd, yn adeilad tra nodedig ar gyfrif ei gwychedd yn gystal a'i santeiddrwydd. Ystyrid hi gan yr Iuddewon gyda pharch goruchel, fel eu tŷ santaidd ac ardderchog— gogoniant y tir. Nid cywreinrwydd ei hadeiladaeth, ei haddurniadau drudfawr, a'i llestii aur oeddent eu hunig na'i phrif ardderchawgrwydd a'i gogoniant, oud yr oedd wedi ei chysegru i wasanaeth y gwir a'r bywiol Dduw; cyrchid iddi gan ei bobl, ac anrhydeddid hi ag aiwjddion neillduol o'r presenoldeb dwyfol. Ynddi y safai ei allor—yno ei drugareddfaingc ; yr oedd yn fan dewisiedíg ganddo i orphwys—ei le detholedig ar y ddacar, Ile y derbyniai addoliad gan ei boTd, ac yr eglurai gyfoeth ei ras. Yr oedd y deml hon yn ddarlun o Grist, yn yr hwn y mae cyflawnder y Duw- dod yn preswylio ynddo yn gorfforol; a'i gwasanaeth yn gysgodol o'i swyddau Cyf- ryngol, ac addoliad ysbrydol ei eglwys dan y Testament Newydd. Yr oedd yr hyn a elwir yn briodol y deml wedi cael ei rhanu yn ddau ddosbarth, y cysegr, a'r cysegr 8 E