Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VI.] AWST, 1847. [Riiif. 68. BABGÜBBLâB ©sil BâBdHJBBHÄBc LLYTHYR I. Nid rhyfedd fod dadguddiadmor oruchel o bethau mor bwysig, a thros ysbaid cyhyd ag amser ei hun yn ymddangos ychydig yn ddyrus ac anhawdd ei ddeall i'r anllythyr- enog a'r anghyfarwydd, yn enwedig mewn gwlad mor bellenig o'r wlad l!e y gwnaed y dadguddiad ag yw yr eiddom ni; mewn iaith ag sydd a'i dullweddau mor estronol i'r wreidd-iaith, ac mewn oes mor bellenig oddiwrth yr oes y gwnaed y dadgaddiad ag yw yr oeshon—Nid rhyfedd ynteu, dywed- wn fod yma bethau anhawdd eu deall. Ni hònirpeiffeithrwydd yn yregluriadau hyn, ond cynygir hwynt i sylw y darllen- ydd, a bydded iddo ynteu, fel y Bereaid gynt, i chwilio a ydyw y pethau hyn feüy. Dilynwn gan mwyaf ddeongliadau Dr. Faber, â'r rhai, i raddau helaeth, y cytuna yr enwog W. Jones. (Gwel Bib. CyclJ) Dos. I. Eglurhadar yr enwau a ddefnyddir. Nefoedd, (pan ddefnyddir mewn ys- tyr dymhorol) a feddwl cyfangorff y werin ; Awyr, a dybia yr un peth ; Ilaul, y gallu llywodraethol; Lloer, y bobl neu y deiliaid; Sêr, tywysogion ; taranau, mellt, cenllysg a chymytau, terfysg a chythrwfl. Nefoedd (mewn ystyr ysbrydol) a feddylia yrholleglwys fìlwriaethus; nefoeddnewydd, yr eglwys orfoleddus; Haul, ein Hiach- awdwr ; Lleuad, yr eglwys ; Sêr, gweinid- ogion ; gwlith a gwlaw, doniau yr Ysbryd Glàn. Daear, (mewn ystyr dymhorol) yr Ymerodraeth Rufeinaidd; Mór, cenedl aflonydd; Afonydd a ffynhonau, cenhedl- oedd mewn sefyllfa lonydd; llawer o ddyfr- oedd, cenhedloedd a phobloedd ; daearyryn, chwildroadau gwladyddol; mynyddau ac ynysoedd, teyrnasoedd a thalaethau ; troi y mí'<r yn waed, chwildroadau gwaedlyd; sychu fyny afon, gogwyddiad a diílaniad cenedl. Daear, (mewn ystyr ysbrydol) a olyga baganiaeth; syrthiad seren, gwrth- giliad gweinidog Cristnogol; afon bur o ddwfr, heddwch tragwyddol yr eglwys; Cvf. VI môr o wydr, yr un peth ; y ddinas fawr, Sodom, yr Aipht, &c, yr Ymerodraeth Rufeinig; y ddinas santaidd, eglwys Crist; y butain a Babylon, eglwys lygredig Rufain ; marsiandwyr, gwŷr mawr yn yr ymerodr- aeth Rufeinaidd; teml, gwir addolwyr; cyntedd allanol, rhagrithwyr; bwystfil, a feddwl ymerodraeth unol mewn gwrthwy- nebiad i deyrnas Crist; penau y bwystfil, y gwahanol ffurfiau o lywodraeth; cyrn, gwahanol dalaethau; llosgwrn,neugynffon, coelgrefydd anghristnogol; llywodraeth y bwystfil, ei allu eiledigaethus; byipyd y bioystfil, yr ysbryd cyfeiliornus ag sydd ynddo yn ei wneud yn fwystfil; marwolaeth y bioystfil, y ddegfed rhan o'r ddhias neu y degcorn, degteyrnaso fewn yr ymerodraeth Rufeinuidd. Y ddraig neu y sarff yw y diafol, yn gweithredu trwy offeryngarwch y galluoedd cyfeiliornus hyn. Dos. II. Profficydoliacthan y Uyfrhwn. Y mae y broffwydoliaeth yn dechreu yn. y chwecln'd bennod ; y pennodau blaenorol ydynt yn rhag-arweiniol, fel hyn :— Pen. 1. Yr olygfa tra rhyfeddol a welodd Ioan ar Grist mewn gogoniant. 2, a 3. Y saith epistol at y saith eglwys yn Asia. 4. Y mae drws y nef yn cael ei agoryd a Ioan yn caelgolwg ar yr Oenar yr orseddfaingc, a'r lluoedd a'i hamgylchynent ef. 5, Y llyfr ag sydd yn cynwys bwriadau Duw mewn perthynas i amgyíchiadau dyfodol, ya cael ei roddi yn llaw Crist, y Llew o Iwyth Juda, idd ei agor, a llu y nef yn èi addoli ef. Dos. III. Golygfagyffredinolaraìngylch- iadau yr eglwys. Y mae y llyfr hwn yn cynwys hanes broffwydoüaethol o'r eglwys o ddyddiau Ioan hyd ddiwedd amser. Y mae holl amser ei dyoddefiadau yn cael ei ranu i dri dosbarth mawr olynol, o dan y saith sêl, y saith udgorn, a'r saith phiol.—Y seithfed sêl a gynwys y saith udgorn, a'r seithfed udgorn a gynwys y saith phiol. Rhenir y tri ysbaid hyn fel y canlyn :__ 2 N