Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDMWR. Cyf. VI.] GORPHENHAF, 1847. [Rhif. 67. DYLEDSWYDDAU GWLADOL CRISTNOGION; Sef Cylch-lythyr afàbioysiadwyd gan Gymanfa o Weinidogion y Bedyddwyr a gynhal- iwyd yn Syrhowi, Mai 25, 26, i'w anfon at yr Eglwysi. Wedi ei ysgrifenu GAN Y PARCH. T. THOMAS, ATHltAW DCWINYDDOL COLEG PONTYPWL. Anwyl Frodyr, Ein dyledswydd yw gwneud sylw manwl ar droion rhagluniaeth, a chydnabod yn ein lioll ffyrdd ddaioni, cyfiawnder, a doethineb Pen-llywydd y byd. Nyni a'ch anerchwn eleni ar eich sefÿllfa a'cli dyledswyddau gwladol í'el dinasyddion Cristnogol. Dymunera i chwi, fel meibion Isacchar, " fedru deall yr amseroedd, i wybod beth a ddylai Israel ei wneuthur;" ac ymddwyn yn eich holl berthynasau f'el y mae yn addas i ef'engyl Crist. Nid yn eich teuluoedd, eich heglwysi, a'ch masnachau bydol, yn unig y dylech ystyried f'od eich hymddygiad yn gysylltiedig â gogoniant Duw a Ues dynion, ond hefyd yn eich cymeriad o ddeiliaid llywodraeth wladol. Fel y cyfryw y mae genych hawliau a dyledswyddau; ac y mae o bwys mawr, yn y dyddiau presenol, i chwi iawn-werthfawrogi y blaenaf, ac iawn-gyflawni yr olaf. I'r dyben hyu rhaid deall natur a ther/ynau awdurdod a dyledswyddau llywodraeth wladol fel " ordinhad Duw er dial ar y drwg-weithredwyr, a mawl i'r gweithredwyr da." Dyben llywodraeth wladol yw amddiffyn pemonau a meddiannuu eì deiliaid ; ond nid yw Brenin y brenhinoedd wedi ei chynysgaethu ag awdurdod i ymhyraeth à hawliau cydwybod ac addysg crefyddol. Mewn pethau tymhorol, dyledswydd Cristnogion, a phawb ereill, yw rhoddi ufudd-dod cyflawn a pharhaus i ofynion y gyfraith; ond nid oes un math o ufudd-dod yn ddyledus i ddyn, hyd y nod pan y mae yn meddu yr awdurdod uchaf' dan haul yn y pethau hyny a berthynant yn unig i Dduw, cyd- wybod, a'r byd dyfodol. " Rhoddwch, gan hyny, i Caesar yr hyn sydd eiddo Caesar, ond i Dduw yr hyn sydd eiddo Duw." Gwir yw fod gair yr Arglwydd yn caeth- orchymyn i bawb ymostwng i bob dynol ordinhad o herwydd yr Arglwydd ; ymddas- ostwng i'r awdurdodau goruchel, nid yn unigo herwydd llid,eithr o herwydd cydwybod hefyd; talu i lywodraethwyr yr hyn sy ddyledus iddynt; teyrnged i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll i'r hwn y mae toll; ofn i'r hwn y mae ofn ; parch i'r hwn y parch yn ddyledus; gweddio a thalu diolch dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn gor- uchafiaeth, fel y gallom fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd. Y mae hefyd yn gwarafun " diystyru llywodraeth, a chablu y rhai sydd mewn awdurdod." Ond pan yr ystyriwn fod y llywodraethwyr Iuddewig yn dra dirywiedig yn amser Crist a'i apostolion, eu bod wedi gwyrdroi cyfreithiau y genedl, a gosod fyny draddodiadau y tadau, a'u bod yn defnyddio eu swyddau yn erbyn gwirion- edd Duw, ac i erlid a lladd Crist a'i genhadon, rhaid fod terfynau i'w hawdurdod hwynt, ac i ufudd-dod y bobl. Pan yr ystyriom hefyd nad yw y Testament Newydd yn priodoli unrhyw hawl, nac yn gofyn unrhyw barch nac ufudd-dod i'r llywodraethau a elwir yn Gristionogol, amgen rhai paganaidd neu Fahometanaidd : ac yn mhellach, mai ymerodraeth baganaidd oedd yr un Rhufeinig, yr hon oedd yn llywodraethu y byd adnabyddus yn yr oes Apostolaidd; fod cysylltiad cyfreitliiol yr amser hwnw yn mhob man, oddieithr Judea, rhwng yr awdurdodau gwladol ac eilun-addoliaeth, ynghyd a'i holl anfoesau a'i gyfeiliornadau ; fod pob math oau-dduwiauyngydnabyddus,a'u hadd- oliad yn gynhaliedig gan y lywodraeth; a bod y gwir Dduw yn wrthodedig, a'r efengyl yn waharddedig ac anghyfreithlon; afresymol yw dychymygu fod Iesu a'r apostolion yn gofyn ufudd-dod i ddeddfau v lywodraeth mewn pethau crefyddol. Y mae y dybiaeth Cyp.YI. 211