Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VI.] MEHEFIN, 1847. [Rihf. 6G. Y WALDENSIAID. (Sef Atebiad i Ofyniad yn y Bedyddiwr am Ebrill DlWEDDAF, ÜAN Dafyuu.) GAN Y PARCH. W. MORGAN, CAERGYBI. Anwyl Gyfaill, Dafydd, Gwyddoch y byddai rhoddi hanes fanwl o'r Waldensiaid yn waith llafurus, ac y gofynai amser roaith i'w chasglu a'i hys- grifenu, a mwy o dudalenau, mae yn debyg, nag a ganiatâai y Bedyddiwr i'w hargraffu a'i rhoddi gerbron y cyhoedd. Ond mewn cydsyniad â'r hyn yn fwyaf uniongyrchol a geisiasoch genyf ei wneud, cesglais ychydig o'u hanes yn ol y defnyddiau oeddent genyf wrth law, yr hon wyf yn awr yn ei hanfon i'ch sylw yn y drefn ganlynol: — I. Pwy oeddynt y Waldensiaid, a PHAHAM Y GELWIR HWi'NT FELLY % Y Waldensiaid oeddynt blaid o bobl ymddi- doledig, y rhai a safasant dros oesoedd yn erbyn llygredigaethau crefyddol, ac a ddyg- asant eu tystiolaeth gyda ffyddlondeb a gwroldeb synadwy o du teyrnas Mab Duw, yn ẃyneb holl rym erledigaethau, gan wrthdystio yn erbyn Pabyddiaeth a'i holl ffiaidd eilunaddoliaeth. Yr oedd llawer o ddynion ffyddlawn, y rhai oeddynt wir garedig i'r gwirionedd, ac yn bleidwyr diffuant i wir ryddid crefyddol yn oesöedd tywyll pabyddiaeth, heblaw y rhai a elwir yn fwyaf neillduoî, "y Waldensiaid," yn wasgaredig drwy Ffraingc, Almaen, gwlad y Swiz, Prydain, a gwledydd ereill, fel y mae hanesion yr oesoedd hyny yn profi i ni. Ond y mae i ni ddeall am y Waldens- iaid yn wahaniaethol oddiwrth y rhai hyny, yn eu hymlyniad wrth eu gilydd, ynghyd a'r lle yn yr hwn y preswylient. Wrth odre yr Alpau, cadwyn o fynyddau mawr- ion—yr uchelaf yn Ewrop—yn gwahan- iaethu yr Eidal oddiwrth Ffraingc, gwlad y Swiz, a'r Almaen—Y niae dryll o ddyffryn- oedd breision a ffrwythlawn yn cael eu Cyf. VI hamgau mewn mynyddau, y rhai wedi hyny gylchynir â mynyddau uwch nâ y rhai •hyny, yn cael eu rhanu gan afonydd dyfn- ion a ffrochwyllt, fel cynifer o baradwysau prydferth a thoreithiog, yn ngolwg clog- wyni dychrynadwy, a llynoedd llydain o rew, a mynyddau gorchuddiedig gan eira oesawl. Y dyffrynoedd ffrwythlawn, pryd- ferth, a pharadwy&aidd hyn a elwir Pied- mwnt. Yn y dyffrynoedd hyn y preswyl- iai pobl ymddidoledig, y rhai a ddaliasant alían yn nghanol oesoedd tywyll a gormesol pabyddiaeth heb ymostwng i'r gallu ang- rhistaidd hwnw. Y bobl hyn a elwid, Waldensiaid. Yr enw hwn debygid a roid arnynt oddiwrth y gair dyffrynoedd. Y dyffrynoedd hyn a elwid yn eu hiaith hwy vaux : oddiwrth hwn y deillia vaudois, eu gwir enw; oddiwrth ba un y galwyd person neillduol a nodedig o'r enw Pedr o Lyons, yn Llatin, Valdus, o herwydd ei fod wedi mabwysiadu eu daliadau crefyddol; oddi- wrth ba enw hefyd y deillia y Saesonaeg Waldenses; a'r Cymraeg Waldensiaid. Ac os felly, fel y mae yn ymddangos yn fwyaf tebygol o lawer, nid oddiwrth Pedr Waldo, fel y dywed Mosheim, y cawsant yr enw, ond oddiwrth y lle yn yr hwn y preswylient, a PhedrWaldo yn hytrach yn cael ei alw felly oddi wrthynt hwy. Edrych Note Dr. Maclaine, cyfieithydd Mosheim, Vol. III, pp. 118, 119. Note G. Robinson, Eccles. liesearch, 302, 303. Jones' Hist. of the Christian Church, Vol. II, pp. 2, 3. Dangosa yr haneswyr uchod, ynghyd ag ereill, eu bod yn cael eu hadnabod fel raudois, neu Waldensiaid, cyn bodoliaeth Pedr Waldo. Cafodd pobl hefyd o'r un cyffelyb ddaliadau yr enw Albigeìisaid, yn 2C