Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VI.] MAWRTH, 1847. [Riiif. 63. DYLEDSWYDD GWEINIDOG AT EI EGLWYS. Mr. Golygydd,— Wrth edrych gyda'r awydd arferol ar gynhwysiad y Bedyddiwr am fis Ionawr, 1847, a gweled traethawd, neu gynhwysiad pregeth, ar Ddyledswydd eglwys at ei gweinidog, tarawyd t'y meddwl fy mod wedi gweled amrai, neu o leiaf, feddyliwn, ddau neu dri o draethodau ar yr un pwngc o'r blaen yn y Bedyddiwr neu yr Ystorfa, er ys blyneddoedd yn ol. Cofiais hefyd fod rhyw frawd o Ferthyr, feddyliwyf, wedi dymuno gweled traeth- awd ar ddyledswydd gweinidog at ei eg- lwys; yr hyn ni welwyd byth yn ol dim cof sydd genyf. Fel hyna y tueddwyd fy meddwl i gynyg i'r cyhoedd yr ychydig nodiadau canlynol ar Ddyledswydd gweinidog at ei eglwys trwy y Bedydd- iwr, os bydd da yn eich golwg roddi lle iddynt. Am y pwngc hwn, fel am bob pwnge arall perthynol i grefydd, dylem droi ein clust a'n golwg yn ddifrifol at y cyfarwydd- iadau a rydd ein Pen-athraw, ein Har- glwyd Iesu Grist ar yr achos. Nyni a gawn ganddo ef, mewn ychydig linellau, arweiniad eglur i mewn i holl ddyled- swyddau gweinidogion cymwys y Testa- ment Newydd. Gwel Math. xxviii, 19,20. Gwel hefyd yr un gosodiad yn cael ei egluro mewn geiriau ereill yn Marc xvi, 15, 16. Yma gwelir holl ddyledsw-yddau gweinidogion wedi eu casglu a'u hamlygu dan dri gosodiad. 1, Dysgu, cylioeddi, neu bregethu yr efengyl i bawb dynion a geir i gyfle i'w gwrando. 2. Bedyddio y credinwyr yn ddiwahan, o bob cenedl a graddau o ddynion. 3. Dysgu yr eglwys yn gyffredin, a phob aelod o honi, i gadw pob peth ag a orchymynodd efe; egluro, gwneuthur yn amlwg, neu gyhoeddi, yw pregethu. Y peth a ddylai gael ei bre- gethu yw yr efengyl. Dylai pob gwein- idog ymgadw yn syml bob amser at yr hyn a ddylai gael ei bregethu; a chofio yn wastadol mai yr efengyl, yr efengyl i gyd, a dim ond yr efengyl, gydd i gael ei phre- Cyf. VI. gethu, yn ol gosodiad ein Harglwydd; at yr hyn yr oedd Paul yn ymgadw yn hollol, fel y dengys ei dystiolaeth, sef, Na farnodd efe iddo wybod dim yn mhlith ei wran- dawyr na'r eglwysi, ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio. Ni ddylai un gweinidog dybied ei fod yn cyflawni y rhan bregethiadol o'i swydd oruchel trwy esgyn i'r areithfa, a thraddodi yno araeth ar unrhyw beth am o gylch awr o amser, i'e, pe byddai ei araeth yn gywrain, yn liylithr, ac yn ffrwyth myfyrdod Uafurus; a bod y traethiad o honi yn rhwydd a hyawdl, a chyda llais pereiddiol nes swyno cíustiau a thymerau ei wrandawyr, &c. Os nad yr efengyl, neu os cymysgedd o'r efengyl â rhyw bethau ereill, a fyddai yn gwneuthur i fyny y cyfryw araeth neu bregeth; canys pregethu yr efengyl, a'r efengyl yn ei sylwedd ei hun yn unig, a orchymynwyd i weinidogion y Testament Newydd. Cyngor Paul i Timotheus oedd iddo adael heibio chwedlau, a phregethu y gair, 1 Tim. iv, 7, a 2 Tim. iv, 2. Pan wyfyn dywedyd mai yr efengyl yn unig a digymysg a ddylai gael ei phregethu gan weinidogion y Testament Newydd i'w heglwysi a'u gwrandawyr, dichon y bydd rhai yn barod i dybied fod y maes yn fychan, a'r terfyn-gylch yn rhy gyfyng i weinidog sefydlog a fyddo yn gorfod pre- gethu yn barhaus i'r un pobl. I'r hyn y mae yn hawdd ateb, a phrofi hefyd, nad oes diin cyfyngder yn perthyn i'r terfyn- gylch efengylaidd. Y mae helaethrwydd digonol yn nghynhwysiad yr efengyl i roddi maes digon mawr, a therfyn-gylch digon ëang i'r enaid mwyaf, neu y meddwl cryfaf i lafurio ynddo, a threiddio i'w ry- feddodau am ei oes; ac wedi hyny yn oes oesoedd. Yma meddaf, sef yn yr efengyl, y ceir trwydded awdurdodol i'r meddwl cryfaf a mwyaf treiddiol i osod nerth a bywiogrwydd ei alluoedd penaf i weith- redu ar ysbrydolrwydd, unoliaeth natur, a'r Uuosawgrwydd personoliasthol y Tad,