Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. VI.] IONAWR, 1847. [Rhif.ÇI. DYLEDSWYDD EGLWYS AT EI GWEINIDOG; WEDI EI GOSOD ALLAN MEWN PREGETH, > QAN Y PARCH. R. ROFF, CAERGRAWNT. MR. GÒLYGYDD,—Yn unol â dymuniad fy mrodyr a glywsant Mr. Roff o Gacrgrawnt, yn trs dodi pregeth i'r eglwys ar amser urddiad Mr. Evans, yn York Place, Ahertawe, ymosodais i iyiicithu y rhan fwyaf o honi, a'i hanfon i chwi, gan hyderu y rhoddwch le iddi yn y BEDYDDIWR. |ichon i'r dyledswyddau pwysig a gymhellir, a'r cynghorion dwysion a anogir ynddi, fod yn fen- ithiol i cglwysi y Cymry. Felly y byddo, medd Castellnedd. T. Jones. " Ac yr ydym yn atolwg % chu>i, frodyr, adnadod y rhai sydd yn Uafurio yn eich mysy, ac yn Cíc/í llywodraethu chwi yn yr Arylwydd, ac yn eich rhybuddio ; a ywneuthur cyfrif mawr o honynt mewn cariad, er mwyn eu ywaith. Byddwch danynefeddusyn eich plith eich hunain.''— 1 Thes. v, 12, 13. Llafarwyd y geiriau hyn gan Paul wrth eglwys y bu ef yn offerynol idd ei phlanu, ac am yr hon, gan hyny, y meddai of'al neillduol a pharhaus. Ni nododd y gorchymyn a gafodd gan yr Arglwydd y teithiau oedd iddo gymeryd, na hysbysu y bobl yn bennodol oedd i bregethu yr efengyl iddynt; ond ar rai aclilysuron nodedig, cyt'- arwyddwyd ef mewn modd goruwch- naturiol. Yn y canlyniad i weìedigaeth yn y nos daeth o Asia i Ewrop; yn gyntaf i Phillipi, ac yna i Thessaloniea. Llafuriodd yno yn ílwyddiannus—llawer a dderbyn- iasant y gair, hyd nes ymlidiodd erledig- aetli ef o'r ddinas. Wedi clywed am sef- ydlogrwydd y dysgyblion, danfonodd Timo- theus atynt idd eu cyfarwyddo a'u cefnogi, a chan dderbyn gair da ganddo ef am " waith eu ffydd, llaíür eu cariad, ac ymaros er. gobaith," ysgrifenodd atynt yr epistol lle mae y testun. Yma y cymeradwya y modd y derbyniasant ac y lledasant yr ef- engyi; dengys ei ddymuniad mewn gweddi wresog ar eu rhan, ac anog hwynt yn ffydd- lon at barhad ac ychwanegiad. " Megis y derbyniasoch genym pa fodd y dylech rodio a boddloni Duw, ar i chwi gynyddu fwy fwy." Y testun sydd ran o gynghor cy- nwysfawr iddynt. Mae y cyfarwyddyd sydd ynddo yn ddeublyg, o barth I. Hawliau gweinidogaethol, neu ddy- ledswyddau eglwysi tuagat eu bugeiliaid. II. C'ymdeithas Gristnoiiol, neu ddyled- swyddau aelodau yr eglwysi y naill at v llall. Cvf. VI. I. Y testun a ddengys ac a ddirgymhell eich dyledswyddau chwi fel eglwys i'cii gweinidog. Cyflwynir hwynt mewn dau beth. 1, Cydnabyddiaeth cyson. uAdm- bud y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg," Jkc. 2, Cyfrifìad serchog. " A gwneu- thur cyfrif mawr," &c. (1,) Wrth adnabud y deallir, yma ymddwyn fel rhai fyddo yn amgyffred egwyddorion a iiawliau y ber- thynas weinidogaethol. Rhaid i'r gydna- byddiaeth gyfatel) i'r gwahanol ranau y mae'r apostol yn dosparthu gwaithy weinidogaeth. " Llafurio, llywodraetlm, a rhybyddio." Cyfeiria y blaenaf at bregethu y gair; prif amcan gwaith y weinidoitaeth. (1,) Pri- odol y gelwir liwn yn " llafur," yn enwedig os cýhoeddir y gair yn ffyddlon. Tybied fod bywyd gweinidog a bregetha yn barhaus i'r un gynulleidfa, yn un esmwyth neu segur, sydd gamsynied o'r mwyaf. Rliaid myfyrio yn ddiwyd a llafurus cyn bod yn gynihwys at y caled-waith hwn. Yn awr, yn y llafur pwysig yma yr ydych idd ei adnabod, Yn un pelh, trwy roddi gwrandawiad cysonol i'w weinidogaeth. Yr ydych chwi a'ch gweinidog wedi ymrwymo heddyw i'ch gilydd mewn cyfamod difrifol; efe i bre- gethu a gweinyddu yr ordinhadau, a chwi- thau i fod yn bresenol a gwrando arno. Ac nid ynt ei rwymau ef i fod yn yr areithfa yn fwy ná'ch eiddo chwi i fod yn eich eis- teddleoedd. Diclion na fydd ereill yn gyson dan ei weinidogaeth, ond dylai fod yn sicr yn ei feddwl y bydd yr aelodau yn