Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. V.] HYDREF, 1846. [Riiif. 58. COFIANT Y DIWEDDAR MR. HENRY THOMAS, Ty-Hen, swydd Gaerfyrddin. Un o ddywediadau y dwyfol wirionedd yw, " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fen- digedig." Hawdd ydyw gweled geirwir- edd yr haeriad hwn wrth ystyried fod bywgràíEadau dynion duwiol a rhinwedd- ol o fawr les a chysur i'r rhai hyny a ewyllysiant ffurfio iddynt eu hunain gymeriad Cristnogol; ac yn llawero ogon- iant i Dduw, yn gymaint a'u bod yn ddan- gosiad amlwg o'i gariad, ei ffyddlondeb, a'i ddaioni i'w anwyliaid. Un o rai rhagorol y ddaear oedd gwrthrych y Cofiant hwn, a'i nodweddau yn gwir deilyngu cael eu cadw mewn coffadwriaeth. Ganwyd Mr. HENRYTHOMAS,Tachwedd 1757, yn Allt-y-beily, yn agos i'r Hendy- gwyn-ar-daf, swydd Gaerfyrddin. Enwau ei rieni oedd George a Mary Thomas, y rhai oeddynt yn aelodau hardd a defnydd- iol yn Moleston. Yr oedd ei dad yn bre- gethwr cymeradwy a thra defujddiol. Gwrthrych ein cofiant oedd yr ieuangaf o wyth o blant, pa rai fuont i gyd yn fwy defnyddiol gyda chrefydd nâ nemawr yu eu hoes, yr hyn a ddengys na bu gwaith eu rhiaint duwiol yn eu cynghori, gosod siamplau dao'u blaenau, a gweddiodrostjnt ddim yn ofer. Yr oedd Mr. H. Thomas er yn blentyn yn hynod dawel a sobr. Byddai ei gymdeithas gyda phlant yn yr ysgol a manau ereill, er yn dra dengar ac enillgar, yn hollol ddiniwed; dangosai fawr anfoddlonrwydd a chasineb at ymddygiad- au drwg ac annuwiol er yn dra ieuangc, a mwy o hyny fel yr oedd yn cynhyddu mewn synwyr a gwybodaeth am egwyddor- ion pechadurus, ac ymarferiadau llygredig y byd. Gan fod ei rieni o amgylchiadau cysurus cafodd ef yn gystal a'r plant ereill y manteision dysgeidiaeth cyrhaeddadwy mewn ysgolion yn y wlad ; ac mor gynted ag y daeth i fedru darllen, dechreuodd ym- Weseru ynfawryn yr ysgrythyrau santaidd, Cyf. V. a thrysorodd lawer o honynt yn ei gof pan yn lled ieuangc, pryd yr oedd eu hargraff- iadau yn dra dwfn ar ei feddwl. Dech- reuodd ystyried ei rwymau i ganlyn Mab Duw pan oedd o 10 i 12 oed ; a buasai wedi cael ei fedyddio mor ieuangc a hyny oni b'ai fod y Bedyddwyr yr amser hwnw yn dra hwyrfrydig i dderbyn neb o'r oed hyn, rhag y buasent yn cael eu hystyried yn bedyddio plant. Parhaodd i feddwl yn dra difrifol am bethau perthynol i'w enaid a byd tragwyddol hyd nes oedd yn 16 oed, pryd y penderfynodd i wneud arddeliad cyhoeddus o'i Geidwad. Bu marwolaeth ei chwaer henaf, yn nghyd a phregeth bwysig oddiar Math. xxv, 13, adraddodwyd gan ei dad duwiol yn Bwlchgwynt y Sab- both canlynol i gladdedigaeth ei anwyl ferch, yn foddion i'w ddwyn i'r penderfyn- iad hwn. Cafodd ef a chwaer iddo, o'r enw Catherine eu bedyddio yr un pryd yn Moleston. O herwydd pellder y ffordd o Allt-y-beily i Molestön, sef o gwmpas wyth milldir, ystyriodd y byddai yn fwy o ddefn- ydd gyda chrefydd yn Bwlchgwynt. Ni bu yma yn hir cyn d'od yn anwyl a pharchus gan y frawdoliaeth ar gyfrif ei wybodaeth helaeth am egwyddorion crefydd—ei ym- arweddiad teilwng, ei haelioni at, a'i ym- drech gyda yr achos goreu. Pan oedd yn 20 oed, bu farw ei anwyl dad; arosodd yntau amryw fiyneddau yn Allt-y-beily gyda ei fam a'i frawd henaf idd eu cynorth- wyo i ddwyn yn mlaen oruchwylion y fferm, yr hyn fu yn lles mawr i'r fam yn ei sefyllfa o weddwdod. Wedi cyrhaedd ei 32 mlwydd oed priododd â Mary Mathias, merch Mr. Evan Mathias, Penderi, yr hwn oedd yn ddiacon yn Moleston, l]e yr oedd hithau hefyd yn aelod hardd. Aeth i fyw mewn fferm gyfrifol a elwir Droslyn, yn mhlwyf Llanddewi, yn agos i'r Ffynon lle y rhoddodd efe a Mrs. Thomas ei'i 2 Y