Skip to main content

Y BEDYDDIWH. Cyf. V.] MEDI, 1846. [Rhif. 51. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH JOHN CLU2ÌN, Gweinidog y Bedyddwyr yn Felinganol. " Eich tadau, pa le y maent hwy 1 A'r profifwydi, ydynt hwy yn fyw byth V—Zbchariah. " 0/ all species ofliterary composiiions, perhaps, Biography is the most delightful.—R. JÍJLL. Dylai rhinweddau dynion da, a gwein- , gofidus am ei gyflwr, ymwasgai â'r ychydig idogion ffyddlon Iesu Grist gael ei cadw | ddysgyblion oedd yn cyfarfod i addoli yn y Felinganol; ac wedi iddynt gael llawer o mewn cof genym, er eu trosglwyddo i'r oesau dyfodol i fod yn siamplau yn gystal ag yn gefnogaeth i ereill i rodio yr un llwybr- au. Ac y mae yn ddiameu i fod hanes bywydau dynion da wedi bod o lawer o fendith i'r byd, ac i eglwys Dduw. Trwy hyn y maent "wedi roarw yn llefaru eto." Y mae cu buchedd santaidd, eu dìwyd- rwydd ymegniol yn achos y Gwaredwr, yn effeithio yn ddaionus ar feddyliau llawer- oedd am oesau wedi eu claddu. A chan obeithio mai bydd hanes bywyd duwiol a llafurus John Clunn, i ddwyn effaith da ar feddyliau rhywrai, cynygiaf roddi bras- ddarlun o hono :— Nis gallaf roddi fawr o'i hanes am yr ugain mlynedd cyntaf o'i fywyd ; gan nad oes neb o gymdeithion ei ieuengctyd yn awr yn fyw, ac nad yw wedi gadael dim o'i hanes mewn ysgrifen ar ei ol. Ganed ef yn y flwyddyn 1758. Oddiyno nid oes genym ddim o'i hanes hyd y flwyddyn 1782, pan y priododd à Mary Lewis, yr hon a fu yn briod ff'yddlon iddo am ragor nâ haner cann mlynedd o amser. Ganed iddo bump o blant, tri o ba rai ynt yn fyw i alaru ar ei ol. Pan oedd tua 26ain oed, ymwelodd yr Arglwydd yn achubol â'i enaid. Y mae yn debyg ei fod yr amser hwnw yn ddyn gwyllt, ac anystyriol iawn ; ond nid yn ormod pechadur i ras Duw idd ei blygu. Nid yw yn wybodus i mi trwy ba foddion, nac yn mha ddull yr ymwelodd yr Arglwydd ag ef, ac nid yw o fawr pwys ychwaith, oblegid yr oedd ei ymarweddiad cyffredinol arwyddion ynddo ei fod yn credu yn yr Arglwydd Iesu, cafodd ei fedyddio ar broffes o'i ffydd, a'i dderbyn yn aelod i'w plith. Yn fuan wedi ei fedyddio, meddyliodd rhai o'i frodyr fod ynddo gymhwysder i waith y weinidogaeth, ac anogwyd ef i bregethu, yr hyn a wnaeth gyda chryn dder- byniad. Wedi bod yn pregethu am rai blyneddau, trwy gjdsyniad unfrydol yr eglwjs yn y Felinganol, neillduwyd ef i gytíawn waith y weinidogaeth, i fod yn gynorthwywr i'r Parch. Jobn Reynolds, â'r hwn y bu yn cyd-weinidogaethu am lawer o flyneddau. Yroeddein brawd ymadawedig yn ddyn o gyfansoddiad cadarn iawn; nis gwyddai fawr am afiechyd hyd o fewn ychydig amser i'w farw. Yr oedd yn ddyn o eg- wyddor ; pawb ag oedd yn adnabyddus o hono a'u cydnabyddent felly. Gellid ym- ddiried i'r hyn a ddywedai, ac a wnelai. Yr oedd yn mhob peth a wnelai yn profi ei hun yn ddyn o brinciple; yn ddyn cydwy- bodol. Hyn fu yn foddion, i raddau mawr, i'w gedi mor barchus yn yr ardaloedd 11« yr oedd yn byw. Yr oedd yn naturiol o dymer etmwyth a heddychol; anhawdd fyddai cyffroi ei dymer. Yr oedd yn dilyn heddwch â phawb. Cariad oedd yr elfen ag oedd yn hoffi anadlu ynddi. Ni chlywyd erioed am un ymryson o bwys rhyngddo â chymydog na brawd crefyddol. Yr oedd yn well ganddo oddef colled nâ chael ym- ryson; rhoddai bob peth er mwyn heddwch. Yr oedd yn nodedig am ei ysbryd tawel a J'n dangos ei fod yn gyfnewidiad gwirion- boddlongar. Treuliodd ei fywyd yn ddyn eddol. Yn yr amser yma, pan yn dra | tlawd; ni bu erioed yn berchen fawr o 6vf. V. 2R