Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. V.] AWST, 1846. [Riiif. 56. Y GYMÀNFA. Mr. Golygydd,—Yr ydym lawer o hon- om erbyn hyn wedi bod mewn cjmanfa flyneddol unwaith yn ychwaneg trwy ddû a gogledd, a dilys genyf fod y cymanfawyr yn dra amrywiog yn eu barn a'u profiad wedi eu dychweliad adref. Syr, onid yw yn fwy nâ thebyg y cyfyd yr amrywiaeth hyn i raddau pell oddiar yr amrywiaeth ddybenion a gymellasant y lluoedd i gyrchu i'r llefydd? Yn ddiamau, os oedd rhyw beth heblaw dyben da yn gymhellydd, pa ryfedd fod y person yn cario llwyth gor- drwm o siomiant yn ei fynwes adref. Nid yn anaml, ysywaeth, y clywir y fath feírn- iadaeth a hyn. " Wel, wel, dynagymanfa,— wfft V fath le—dyna fwyd!—Mi fuo meicn cannoedd o gymanfaoedd. (?) (. Yn ddtöférîo y dywedent hyny druain) ond ni welais y fathgymanfa o'r blaen," &c, &c. Y mae y fath yna yn profi eu dyben yn eu hiaith.— " duw y rhai hyn yw eu bol." Ar yr un pryd, Mr. Golygydd, tra yn beio ac anghymeradwyo y fath yna, dymunwn roddi pob anogaeth i'r eghyysi hyny a alw- ant ac a gynhaliant y gymanfa, i ochelyd rhag bod yn anofalus ac anmharchus o'u dyfodiad i'r lle,—dylai y cyfryw eglwysi i wneud eu dyledswydd, gan adael rhwng yr Hollwybodol a dybenion y bobl. " Nac anghofiwch letygarwrch, canys wrth hyny y lletyodd rhai angelion yn ddiarwybod." Prin y beiddiwyf gredu, Mr. Golygydd, na chydymddygwch â mi tra yn gosod ger- bron darllenyddion hygall eich cyhoeddiad buddiol loffion cymanfáol. Beth pe rhoddem olwg ar ddyben cysef- >n. cymanfa y Bedyddwyr yn Nghymru. Hyn a ddeallir oddiwrth yr hanes sydd genym am ddull a threfn ei dygiad yn mlaen yn nhymor ei sefydliad. Dilys genyf mai amcan gwreiddiol cyman- fay Bedydd'wyr yn y dywysogaeth, fel mewn Cyf. V. rhanau ereill o'r deyrnas, oedd ymddiddan a chyfeillachu yn nghylch achosion ac am- gylchiadau yr eglwysi, ac i drefnu mesurau i gynorthwyo eu gilydd, yn nghyd ag anog eu gilydd i undeb a brawdgarwch. Yn y cyfeillachau hyn ymdrinid yn frawdol ac awyddus â phob rbyw byngciau ffydd a dysgyblaethperthynol i'r gwahanol eglwysi, fel y buasai achos yn galw. Mae yn debyg nad oedd dim pregethu yn y Cymanfaoedd a gynhelid cyn yr erled- igaeth yn amser Charles II, nac ychwaith yn un Gymanfa yn Lloegr, tra y bu eglwysi Cymru mewn undeb â'r Cyman- faoedd hyny : ac raae yn debyg mai yn yr un flwyddyn y dechreuwyd pregethu yn Nghymanfaoedd Cymru a Lloegr, sef y flwyddyn 1703. Pan ffurfiwyd y Gymanfa gyntaf yn Nghymru, nid oedd yno ond tair eglwys Fedyddiedig, sef Olchon, yn awr Capel-y- fBnilstone, yn awr Abertawe, ynghydt••. a Llanharan, yr hon a symudwyd i Lantri- saint, wedi hyny i Grajg-yr-allt, a'r Berth- lwyd, ond yn awr Hengoed: y tair hyn a ddechreuasant y Gymanfa o Fedyddwyr gyntaf yn y dywysogaeth. Ac yn ol y croniclau cywiraf dysgir ni iddynt gynal eu cymanfa gyntaf yn Ilston ger Abertawe, yn y flwyddyn 1650. Ac o hyny yn mlaen cyfarfyddent yn fiyneddol mewn gwahanol leoedd i ymdrin â'r cyfry w bethau a ddygid dan sylw perthynol i'r eglwysi; megis yn Nghymanfa Caerfyrddin, yr hon a gynhal- wyd yr ail flwyddyn,—dygwyd dan ystyr- iaeth yno y pwngc o ganu Salmau, yn nghyd a'r arferiad o arddodiad dwylaw. Yn y Gymanfa a gynhaliwyd yn y Fenni y pedwerydd flwyddyn, bu dan sylw ym- ryson ag oedd yn eglwys y Gelli: a phenderfynwyd i anfon llythyr aty person- au ag oeddent wedi achosi yr ymrjson i'w rhybuddio, ac un arall at yr eglwys i'w 2 M