Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. V.] EBRILL, 1846. [Riiif. 52. BYR FUCH-ÜRAETH Y DIWEDDAJl W. YATES, D.D., UN O GKNHAD()N Y BEDYDDWYR YN NGHALCUTTA. "Enw y cyjiaicn afydd byth meion coffadwriaeth." Pan fyddo y Gorucliaf jTi bwriadu gWneud gwaith mawr trwy ryw bersonau, y mae yn gyffredin yn eu neillduo yn foreu at y cyfryw waith. Felly yr oedd Sampson " yn Nasaread i Dduw o'r groth;" felly yr oedd Samuel wedi cael ei neillduo o groth ei fam. Felly yn gyffredin y mae dynion enwog wedi bod yn mhob oes, yr oedd rhywbeth yn neillduol ynddynt yn eu dydd- iau ieuengaidd. Felly yr oedd gwrthrych y llinellau hyn. Pan oedd yn fachgen pedair-ar-ddeg oed, pan glywodd bregeth genhadol yn cael ei thraddodi, gwrandawai gyda'r astudrwydd, a theimlai mor ddwys, nes oedd ei deimladau yn dylifo trwy ei lygaid. Y fath oedd yr effaith a gafodd arno, fel y penderfynodd roddi ei hunan i fyny yn llwyr i wasanaeth Duw. Yr oedd wedi gwneud proffes o Grist cyn hyn, ac wedi cael ei gladdu gyda Christ yn y bed- ydd gan Mr. Brand o Woodgate Chapel, Lougliborongh, yn swydd Leicester. Yn y dref hon y ganed ef ar y löfed o Ragfyr, 1792. Gofalodd ei Arglwydd yn hynod am dano mewn chwech neu saith o gyf- yngderau ; pan yn ei blentyndod, cafodd ei gymeryd yn glaf iawn, ac yn agos i angeu, heb allu bwyta nac yfed dim dros dair wythnos, ond dwfr yn unig. Ymwelodd yr Arglwydd â'i enaid trwy ei ras gyntaf trwy ei air, wrth ddarllen geiriau ein Hiachawdwr wrth Thomas, " Na fydd aghredadyn mwyach, ond cred- adyn." Y mae yn dra thebyg i'r gair yn unig argraffu ei ddelw a'i bwysigrwydd ar ei holl fywyd crefyddol, oblegid ei brif ymgais oedd rhoddi gair Duw yn nwylaw pobl y byd. Cyf. V. Cafodd ychydig ysgol yn ei blentyndod, ond tynwyd ef o honi yn lled ieuangc. Pan oedd tuag un-ar-bymtheg oed, ys- grifenodd draethawd maith a chywrain ar Iawn-ddefnyddio amsei-; Ystyriai amser fel plentyn i dragwyddoldeb, ac i gael ei fagu yn ofalus gan bob dyn, a dywedai, " Cymer y plentyn hwn a maga ef i mi, a mi a dalaf dy gyflog," ac a ddiweddai, gan ddywedyd y byddai i'r rhai a fagent amser yn dda gael cyfiawn daledigaeth yn nhra- gwyddoldeb. Yr oedd "prynu yr amser" yn bwngc hoff ganddo trwy ei oes. Tua'r amser hyn y daeth yn lled awydd- us am ychwanegu ei wybodaeth, trwy dder- byn hyfforddiadau yn yr Ysgol Ramadegol yn y dref, ac hefyd dilyn ei alwedigaeth gyda ei dad, sef crydd, a dywedir ei fod yn weithiwr gwych hefyd.* Gwnaeth y fath ymdrech yma nes synu ei athraw, y Parch. Mr. Shaw, offeiriad, fel ag y darfu iddo cyn symud oddiyno dynu cynllun i'w ddysgybl ieuangc er dysgu Groeg, a chyn pen ychydig o fisoedd yr oedd yn medru darllen Groeg yn lled hylithr, ac hefyd y Latinaeg. Cynghorwyd ef yn fuan i geisio sefyllfa mewn Athrofa gerllaw yno fel is- athraw, yr hon a gafodd. Ond yr oedd ei amser i gyd yn cael ei gymeryd i fyny yno i addysgu ereill, heb allu ychwanegu llawer at ei wybodaeth ei hunan, ac felly rhoddodd y sefyllfa i fyny. * Y mae yn beth trarhyfedd mai Crÿddion oeáâ y Doctor Cmey a Yates; leallai inai nid gormod dweyd.y ddau gyfieithwyr penaf yn yr oesoedd ddiweddar "Peth rhyfedd fod Cryddion, Tailwriaid, Gwehyddiou, Yu niacddu'ígolheigion Rhydychaia,"