Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. V.] MAWRTH, 1846. [Rhif.51. DECHREÜAD i CHYNYDD Y BEDYDDWYR. LLYTHYR II. Yn niwedd y llythyr o'r blaen edrych- asom ar dystion Duvy yn dytbd aüan o ganol y gwyll anghristaidd yn holl addurn ffydd a santeiddrwydd y grefydd Gristuogol; ond y tywyllwch pabyddol hyny a orchuddiai ran helaeth o'r byd sydd yn ymyl terí'ynu, a goleu bendigaid y diwygiad bythgof- udwy ar dori arnom, gan wasgaru ei fen- dithion trw.y hyd a lled y wlad, chwythi gydag anadl bywyd holl niwloedd a chymylau duon y nos-o'i rlaen, a darogan dydd o lwyddiant a hedd. Ymysgyd- wai yr Almaen trwyddi gan duadleuou crefyddol, a chyhoeddodd Luther ryfel yn erbyu angrist, y dynpechod, ac ymosododd arno gyda y fath wroldeb fel nad oedd i glywed ond caniadau moliant i enw Luther a'i orchestion gan uchel ac isel raddau, trwy froydd a bryniau y gwledydd hyny. Nid arswydodd hen Rufain gymaint wrth ddyn- esiad Hannibal gynt at ei phyrth, ag a arswydodd y Pab a'i gardinaliaid yn wyneb cynydd ac effeithiau y diwygiad. Gwelent fod tymhor y swyn-offeiriadol yn mîn eioedran,fel gormes eglwysig wedi ei bwyso ÿn y clorianau a'i gael yn brin, fod yr ysgrythyrau i dd'od i'r bobl yn yr i'aith a ddeallent, a bod rhyddid gwladol a chrefyddol, yr hwn amoesau a fu dan draed, yn awr i fod yn ben. Yn y farsiandiaeth rhwng yr Almaen a Lloegr y ca'w'd cyfieu iddosbarthu gweithiau awdurol y diwyg- wyr, megis Luther a ÌVtelanc.thon, derbyn- iwyd hwy ganddilynwyrWickliff anfarwol, yr hwn er ys canrif gynt a gyhoeddodd efengyl y bendigedig Dduw,—ond tra yr oedd y diwygwyr ar y cyfandir yn archolli angristynanaele, yroedd Harr.i yr Wythfed ynteu yrl ymladd yn erbyn Eglwys Rufain yn Lloegr, Rhyw greadur ofnadwy oedd Harri, a chan ei fod wedi digio wrth y Cyf. V. Pab, cymerodd feddiant o'r holl fynachlog- ydd pabyddol a'u trysorau ; fe ofalodd wrth adael eglwys Rufain i fyned a'r holl dorth- au a'r pysgod hefyd gydag ef, a chyhoedd- odd ei hun yn ben ar y peth a elwir Eglwys Sefydledig Lloegr ; pryd hyn daeth y Bed- yddwyr hwythau o'r dirgel-leoedd i'r rhai yr ymdyneut yu amser erlidigaeth ac yn hyderu y buasai Harri yn caniatàu iddyut hwy yr un peth ag oedd yn hawlio iddo ei liun, sefrhyddidifarnudrostynteu hunain, mewn materion o bwys; nrd oeddent yn ofni ymchwiliad i'w hegwyddorion, ond yr hyn a ddysgwylientoedd rhyddìd cydwybod, yr hon yw hawìfraint dyn. "Ond gwell yw y mddiried y n yr Arglwydd nag hy deru mewn tywysogion." Cafodd y Bedyddwyr wel'd hyn yn fuan, oblegid yr oedd Harri, amddi- ffynwr y tfydd (fel ei cam-enwir) mor an- wybodus o iawnderau dynion a'r ffolaf o'r werin, ac er i ormes babydddol gael ei dryllio yn yr ymrysonfa nwydwyllt rhyng- ddo a'r P.ab Clement y Seithfed, eto ni chai y Bedyddwyr ryddid ganddo i farnu drostyut eu hunain yn eu materion hwy. Yrn y fiwyddyn 1536, cyhoeddodd Harri ffurfiau addoliad i'r eglwys ag oedd yn ben iddi,forsooth, y rhai a gymeradwywyd ac a arwytldwyd gan yr holl offeiriaid; ystyrid y Bedydddwyr yn yr erthyglau hyn yn blaid annheihyng, a'ucredo yu fath o heresi wrthodedig. Tua yr amser yma y galwyd hwy gyntaf mewn gwawd gan'eu gelynion yn Ail Fedyddwyr, a chynygwyd mewn pob dull a modd i gymeryd ymaith eu rhyddid. Un o lythyrau y brenin oedd fel y canlyn, " Daeth-i'r deyrnas hpn wyr dyeithr y rhai a ddiystyrant yr ordinhâd o fedydd yn ein heglwys, a throchant y naill y llall, a chyfrifaut hyny yn fedydd priodoì." Wedi methu Horioy Bedyddwyr trẅy eilythyrt»,