Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. V.] IONAWR, 1846. [Ruip. 49. YR ANGELION DRWG, Gam W. MORGAN, Caehgybi. Yr hwn a baratowyd i ddiafol ao i'io angelion."—Math. xxv, 41. Yma yr ydym yn gweled y bydd cosp- edigaeth gweithredwyr anwiredd yn un- rhywiawl o ran Ue a thragwyddoldeb ei pharhad, â chospedigaeth y diafol a'i angelion, yr hyn sydd yn ei dungos yn dra dychrynadwy. Nid anmhriodawl gan hyny fyddai i ni sylwi ychydig ar y bodau drygionus ac annedwydd hyn—ac yn l, Eu bodoliaeth, 2, Eu gweithrediadau, 8, Eu cyÜwr. Rhan I. I. Eu bodoliaeth. Gwedir eu bodoliaeth gan rai: ond y mae y geiriau uchod, y rhai a lefarwyd gan Fab Duw, yn amlwg olygu eu bodoliaeth—sef, fod y diafol—y penaeth, a'i angelion, fel cyd-bleidwyr ag ef yn ei lywodraeth ddrygionus. 1, Nis gallaf ganfod unrhyw annichonol- deb i fodoliaeth y diafol a'i angelion. Pwy a all ddweyd föd 1 Mae yn debygol nad oes neb yn barod i wadu y dichonoldeb i'r diafol a'i angelion fodoli. A phe baem yn barnu pethau yn ol rheswm, byddai yn hawddach dirnad i Dduw, yr hwn 6ydd Ysbrydpur, greu ysbrydion, nà gwrthrychau cyfansawdd o gnawd ac ysbryd. Ond yr ydym yn.gweled iddo wneud y naill, a pha annichonoldeb oedd iddo greu y llall. 2, Y mae bodoliaeth angeìion yn ym- ddangos yn dra naturiol a rhesyraol i ni ddirnad am dano. Yr ydym yn canfod cadwen bodoliaeth yn myned i raddau annirnadwy islaw dyn, a phaham nad all gyrhaedd hefyd i raddau uwch nâ dyn 1 Ein bod yn analluog i weled ysbrydion nis gall fod yn un prawf yn erbyn eu bodoliaeth: uid ydym yn gweled meddwl; ond nid ydym o herwydd hyny yn ameu ei fodoliaeth. Pa achos mwy sydd i ameu bodoliaeth ysbrydion oblegid nad ydym yn eu gweledl CYF. V. 3, Ar yr un pryd ag y gwedir bodoliaeth angelion drẁg yr ydys o angeniheidrwydd, er cysondeb y í'ath ddadl, yn dyfod yn ddarostyngol i wadu bodoliaeth angelion da hefyd ; canys os oes rhai da, paham nad all fod rhai drwg ì Yr wyf yn meddwl i'r diweddar Ddoctor Piiestley', y Socinian, fyned mor belled a hyn—Er mwyn bod yn gyson ag ef ei hun yn ei ddadl wrth wadu personoliaeth y diafol.iddo wadu bodoliaeth neb angelion. " Nid yw athronyddiaeth yn eiu dysgu am fodoliaeth angelion." Gwir; nis gall roddi data i ni wadu eu bodoliaeth chwaith. Y mae fel y nodwyd, yn bytrach yn ein tueddu i ddirnad y gall fod bodau angelaidd, nag i ddirnad auni- choldeb iddynt fodoli. 4, Ond wedi'r cwbl, athrawiaeth dwyfaicl ddatguddiad yw bodoliaeth angelion, ac nid athrawiaeth rhesicm. Nid yw rheswm yn profi nad allant fodoli, ac nid yw chwaith yn sicrhau eu bodoliaeth : drwy yr ysgryth- yrau santaidd y mae profi y pwynt hwn, ac nid drwy reswm dynol. Os ydyw yn cael ei brofi yn y rhai hyn fod angelion, da a drwg, y mae yn rhaid i ni gadw hyny, neu wadu yr ysgrythyrau dwyfawl, un o'r ddau. Y mae dwyed fod yr athrawiaeth yn anathronyddawl felly yn hollol ddi- ddyben ; nid oes a fyno athronyddiaeth â hi, i'w 6icrhau, na'i gwrthbrofi, nis gall wneud y naill na'r llall, am nad oes ganddi safon i dynu ei chasgliadau oddiwrthi: y mae cylch bodau ysbrydawl allan o'i ther- fynau, ac felly dylai adael llonydd iddo, a pheidio myned i ymyraeth â phethau nad ydyut yn perthyn iddi. Fod yr ysgrythyrau dwyfawl yn rhoddi i ni ddeall am fodoliaeth y diafol a'i angelion sydd eglur a phenderfynawl. Ond dywedir " Nad yw diafol, satan, cythraul, &c. ond