Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. IV.] RHAGFYR, 1845. [Riiif. 48. CREFYDD DEULUAIDD, NEU DDÜWIOLDEB GARTREF. DARLITH III. Dyledswyddau perthynasol Rhieni a Phlant. Y njae y cysylltiad sydd rhwng rhieni a phlant yn agos a phwysig iawn, nid yn unig yn eu perthynas â'r byd hwn yn wladol ac eglwysig, ond hefyd y byd a ddaw yn ei wae neu ei wynfyd bythol. A chan fod rhan luosog o ddarllenwyr y Bedyddiwr naill ai yn blaht ai yn riaint—a rhai o honynt yn sefyll yn y ddwy berthynas, diau mai gorchwyl buddiol a phwysig yw dweyd gair wrthynt am eu dyledswyddau. I. Sylwn ar ddyledswyddau y rhieni tuagat y plant. " A chwithau dadau na yrwch eich plant i ddigio, ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Ar- glwydd." " Y tadau na chyffrowch eich plant fel na ddigalonont." Dyna rai o'r cyfarwyddiadau ysgrythyrol a roddir i rieni. Ond yn 1. Galwn sylw rhieni at bwysigrwydd y ddyledswydd hon. Yn gyntaf, ystyriwch werth y plant. Hwy yw y trysorau gwerthfawrocaf a feddwch; er eu lles hwy y llafuriwch, gan wylio drostynt, a llaw- enhau yn eu cynydd, a galaru yn eu haf- lwyddiant. Y mae y plant yn werthfawr i fyd ac eglwys", oblegid y mae llwyddiant a chysur gwladol ac eglwysig yr oes nesaf yn ymddibynu ar y rhai sydd yn blant. Tn ail, ystyriwch werth eo tymhor ma- banaidd a'u maboed. Tymhor i hau eg- wyddorion cynhauaf dyfodol eu bywyd ydyw. Dyma y pryd y ffurflr eu prif nodweddion, a dyma yr amser i blanu dechreuon rhinwedd ynddynt. Hefyd mae yr hyn a ddysgir iddynt yr adeg hon yn gwreiddio yn ddyfhach, ac yn anhawsach ei ddiwreiddio nâ'r hyn a ddysgir iddynt ar dymhorau diweddarach eu bywyd. Peth arall, y maent yn haws i'w dvscu vn eu Dysgant yn eyntaf arfer dawioldeb gartref." mabanoed nag y byddant mewn unrhyw adeg ddyfodol o'u bywyd, fel y tystia iaith ddamnegol y bardd.— " Y winwydden a nyddir, Yn etwan iawn ac yn lr; Pan êl yn uen gnagen gn, Ni oddef hon ei nyddu." Yn drydedd. Cofiwch mai i chwi rieni yr ymddiriedwyd y gorchwyl o addysgu a hyfforddi eich plant,—eich eiddo chwi ydynt,— o dan eich gofal chwi y maent,— a chenych chwi y mae cyfleusdra i w dysgu,—y mae eich calonau chwi yn wresog o gariad atynt; ac oni wnewch chwi eich dytîdswyddau tuag atynt, coflwch na wna neb arall, ac felly caiff y gorchwyl pwysig ei esgeuluso er dinystr i'ch plant, a mawr ofid i chwi eich hunain yn y diwedd. Ys- tyriwch, gan hyny, eich bod yn athrawon o ddwyfelosodiadar eich plant, a bod genych gyfrif mawr i'w roddi o'ch goruchwyliaeth y dydd mawr a ddaw. 2, Ceisiwn ddangos mewn pa bethau y mae y dyledswyddau hyn yn gynwysedig. (1.) Addysg naturiol, sef dygiad i fyny mewn iechyd, nerth a medrusrwydd yn nghorchwylion y fuchedd hon; megis gofalu am roddi rhyw alwedigaeth onest a man- teisiol yn eu dwylaw, yn lle gadael iddynt dreulio eu hamser mewn segurdod a diogi, yr hyn a'u darostynga i angen a thylodi, ac oddiyno drachefn i ladrad a diwedd drwg. Dylid dysgu diwydrwydd a chynildeb iddynt yn enwedig. Hefyd eu dysgu i ymddiried ynddynt eu hunain ac i ymdarô drostynt eu hunain, yn lle disgwyl wrth, ymddiried yn, a phwyso ar ereill. Y mae yn resynus meddwl fod neb drwy esgeul- usdra yn darostwng eu plant i fod yn gar- dotwvr dibvnol drwv en Wwvd. nrvd v