Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. IV.] HYDREF, 1845. [Rhif. 46. FFOEDIGAETH MOSES O'E AIPHT. Nid oes braidd ddim ag sydd a mwy o duedd ynddo i ddifyru, i gyífro, i ddyrchafu, i loywi, ac i gadarnhau y meddwl dyuol nâ dilyn llwybrau ac ol traed y praidd, pa rai a ddyoddefasant bwys y dydd a'i wres, ac a gurwyd yn dost gan y tymhestl- oedd, ond o'r diwedd a gyrhaeddasant y bryniau draw, gan orphwys yn eu rhan ar fynydd santaidd Sion, yn y wlad anfarwol draw. Mae gan wahanol geiihedloedd y ddaear eu gwroniaid, a'u gorchestion wedi cael eu croniclo yn hanesyddiaethau eu gwledydd, pa rai a fawrygir o oes i oes, ac o genhedlaeth i genhedlaeth gan ddarileu- wyr ; ond er mor uchel ydynt y gorsafion y dyrchafwyd y cyfryw iddynt, pan eu cyferbynîr â sêr a goleuadau Duw yn yr oesau gynt ac mewn oesau diweddarach, ciliant ar unwaith o'r golwg, a hwy a amdoir gan leni duon tywyllion y cymylau mawrion. Rhaid i'r meddwl ag sydd yn ymddyrchafu ychydig uwch pethau y ddaear gael llanerchau neillduol i rodio ynddynt, amgen, efe a lesgâ ac a wiwa; ac i'r dyben i'w gadw yn ei ysbrydolrwydd, paroto.wyd yn helaeth ar ei gyfer yn yr ysgrythyrau santaidd, yn mha rai, fel y dywed un o'r tadau, y mae rhydiau y gall yr ŵyn fyned trwyddynt, a phyllau y gall yr elephantiaid nofio ynddynt. Mae dychweliad y deng mil Groegiaid dan dywysiad Xenophon o ganol Persia, yn helynt fydd ar gof a chadw hyd derfyn yr oesau ; ond y mae cychwyniad Abraham o Ur y Caldeaid, a'i waith yn croesi yr afon fawr Euphrates ar ol yr addewid, yn cynwys mil myrddiwn mwy i enaid ysbrydoledig nâ holl ysgogiadau milwraidd campus holl gadfridogion y ddaear. Nid ydynt fuddygoliaethau Alec- eander Fawr yn Asia o unrhyw ddyddordeb i'r enaid ag sydd wedi archwaethu dan- teithion dwyfol ac ysbrydol y byd arall, ond y mae ymdrech Jacob â'r angel ar làn y cornant, pan yn dychwelyd yn ei ol yn ftntai fawr o Syria, yn ei gryfhau yn ei CYF. IV. ffordd, ac yn goleuo ar ei lwybr yn niffeith- leoedd anialwch gwlad y cystuddiau. Gwaethygu beunydd mae dynion anail- enedig a llygredig eu meddyliau ; myned y maent o ddrwg i waeth ; tywyllu beunydd mae eu cymeriadau, a suddo wnant bob dydd yn ddyfnach yn llaid y ffos; eithr gyda golwg ar y cyfiawn, yn ol y byddo yn ymdynu yn rulaen, llewyrcha y goleuni nefoi fwy fwy ar ei lwybr, a'i enaid a ymloywa mewn santeiddrwydd bob cam fel y mae yn nesu at yr Iorddonen. Mac llawer bachgen yn ymddangoB yn obeithiol yn moreu ei oes, ond yn nghynydd ei flyneddoedd gwelir y drwg yn cynyddu, ac yntau yn andwyedig yn nghadwynau Hyg- redd; eithr am ddynion Duw yn nghynydd eu blyneddoedd, canfyddir cynydd eu sant- eiddrwydd, a gwelir eu duwioldeb yn dyfod fwy fwy i'r amlwg bob dydd, yn gyffelyb i Moses, " Yr hwn wedi iddo fyned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharaoh; gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, nâ chael mwyniant pechod dros amser ; gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist nâ thrysorau yr Aipht: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gwobrwy. Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aipht, heb ofni llid y brenin ; canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig." Dylai dyn wedi ei fyned yn fawr i wneuthur rhyw bethau neillduoldros Dduw. Nid oes i'w ddysgwyl oddiwrth blentyn, ond pethau plentynaidd; nac oddiwrth fachgen, ond pethau bachgenaidd, ac ni ellir dysgwyl i neb dan oed wneuthur rhyw beth mawr dros yr Arglwydd ei Dduw; ond eto nid ydyw y peth daioni mewn ffordd o dduwioldeb a geir mewn plant yn ddisylw gan y Nefoedd, fel ag y bu yn achos Abia bychan yn nhŷ Jeroboam, yr hwn yn unig am y peth daioni a gafwyd ynddo tuag at Arglwydd Dduw Israel, a gladdwyd yn weddus mtwn beddrod. 2 O