Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cvf. IV.] MEHEFIN, 1845. [Ruif. 42. DYLEDSWYDD YR EGLWYS, A'R CANLYNIADAU GOGONEDDUS. Esa* LXVI, 8. Pan glafychodd Sion, yr esgorodd hefyd ar ei tneibion." Mae yn alarus i'r meddwl ysbrydol, a duwiol i fod yn iiygad-dyst o y difraw- der a'r diofalwch a eglurír gan lawer o broffeswyr crefydd ac aelodau eglwysig, mewnperthynas i droedigaeth pechaduríad. Ymddengys eu bod yn cymeryd yn ganiat- âol nad oes ganddynt hwy ddim yw wneud; ac yn ol yr'hen ddiareb Antinomaidd, " y bydd i Dduw fỳnu gafael yn ei eiddo," ac na raid iddynt hwy ddim trafferthu yn nghylch y pwngc. Ond a oes rhyw gre- fyddwr yn gyfiawnhaol wrth siarad, neu deimlo, neu weithredu fei hyn 1 Nac oes neb, ac nis gall fod. Fe ddylai pob Crist- ion beri i'w oleuni dywynu i'r fath fbdd ag y byddo yntynn, yn tywys, ac yn cyfarwyddo eneidiau at Grist, a dàl allan air y bywyd, ac ymdrechuyn mhob modd i " achub rhai," 1 Cor. ix, 22. Fe ddylai y moddion gael eu harfer mewn ffydd, oblegid mae y modd- ion a'r fendith yn gysylltiedig; "y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoiedd;" ac, "yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn." Ac yn yr adnod uwch- ben yr ysgrif hon ardystir, mai "Pan glafychodd Si'on, yr esgorodd hefyd ar ei meibion." Ymofynwn yn I. Beth sydd i'w olygu wrth glafychiad Si'on. Sion yw eglwys Dduw, " eithr chwi a ddaethoch i fynydd S'ion," Heb. xii, 22: ei chlafychiad sydd yn achos eneidiau. Fe glafychodd Iesu er ei prynu, a'r eglwys 8ydd i ghtfychu er ei bywhad ysbrydol, a'i gwaredigaeth trwy allu gras. Fe glafych- odd Paul mewn genedigaeth ar y Galatiaid, "Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist I ynoch," Gal. iv, 19. Mae yr ymadrodd j clafychu yn cynwys gofid a hiraeth am eu j Cyf. IV. hiechydwriaeth; a phan nme eglwys Crist mewn gwir wewyr am droedigaeth pech- aduriaid, mae liwyddiant yn sicr. Ond ymofynwn beth sydd yn angenrheidiol i eglwys mewn trefn i glafychu. 1, Teimlad bywioi o werth eneidiau, a'r perygl y maent ynddo. Mae yn rhaid cofio i fod pob enaid yn fwy ei werth nâ'r byd; fe ddylai gwerth yr enaid gael ei gadw o flaeny llygaid; ac fe ddylai fod fel baich ar y galon. Ac wrth sylwi gyda dwysder ar werth yr enaid, dyiid cofio am y perygl y mae enaid anfarwol ynddo; meddyliwch am dano yn hongian uwchben y llyngclyn damniol, tanllyd, megis wrth edau frau y bywyd? ac y gallai damwain neu lewyg, neu ergyd ysgafh, ei dansuddo i'r gwaeau anadferadwy. Ae Oî dyma yw cyflwr peryglus ein plant, ein perthynasau, eitt cymydogion a'n gwrandawyr ag sydd yn anedifeiriol. Frodyr a chwiorydd, a oes gyda chwi deimlad bywiol o werth yr eneidiau sydd yn eich amgylchynu, ynghyd â'r perygl y maent ynddol A ydych yn ystyried yn ddifrifol mai dyma yw sefyllfa eich perthynasau a'ch cymydogion,—neu ynteü a ellwch edrych arnynt gyda diofal- wch ac anystyriaeth t Pe byddech yn meddwi am eu perygl, ac yn teimlo fel y dylech deimlo, O! fel y byddai i chwi ymdrechu gyda Duw drostynt, dadlu a gweddio am eu hiechydwriaeth; ac arfer pob moddion yn eich gallu er eu cael i'r iawn allan o fagl y diafol; 'íe, chwi waedd- ech fel Esther pan yn eiriol am fywyd ei chenedl, " Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd a gaifffy mhobl? a pha fodd y gallaf edrych ar ddjfetha fy nghenedl Y' O drueni annrhaethol! enaid mewn tragwyddol