Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEDYDDIWR. Cyf. IV.] MAWRTH, 1845. [Riiif. 39. GAILÜ DÜW MEWN CREADIGAETH. Darlith n draddodwyd i/an Mr. Hufìlì RoBBRTS, Bri/nsienct/n, (Cvmrn I<Minnyc. Glàn Mfiliai), yn addoldy y Bedyddwyr yn Llunijefni, Môn, ar not Fercfter y \af o lonawi, 1045. SfLFAENEDIG AR AcT. XVII, 24. ( A yyhoeddir ar ddymuniad atnryw oedd yn wyddfodol.) Wedi i*r apostol ddyfod i Athen, a thramwy trwyddi yn ol ac yn mlaën, fe ganfu yn uniongyrchol fod ei phreswylydd- ion yn ymdroi mewn cyfeiliornadau, ac wedi ymroddi i eilunaddoliaeth. Yna mewn sêl danllyd dros achos ei Bryniawdwr, a gwerth eneidiau ei gyd-anfarwolion, y mae yn ëon ac yn wrol yn cymeryd ei orsaf yn y fan i ddywedyd yn erbyn eu ffol- ineh—i ddymchwelyd seiliau cestyll eu hathrawiaethau, ac i egluro iddynt drefn yr iechydwriaeth yn ei holl ddosharthion, marwolaeth, claddedigaeth, ac adgyfodiad ei Bryniawdwr, yr hyn oedd ei bywyd a'i henaid. Wedi i'r efrydwyr paganaidd glywed hyn hwy a ffromasant yn aruthr, ac a archasant ddwyn yr apostol i Areopagus, fel y gallent, meddynt hwy, " gael gwyhod heth yw y ddysg newydd hon," pan mewn gwirion- edd, y dyben a'r amcan mewn golwg gan- ddynt oedd, trwy gywreinrwydd eu logic, ddyrysu a rhwydo yr apostol yn ei athraw- iaeth. Rhenid dinas Athen yn bum' dosbarth, ac un o'r pump ydoedd Areopaguf. Dyma le yr ydoedd brawdlys yr Atheniaid hun- anfeilch, er ymdrin ag achosion crefyddol gystal a gwladyddol; hefyd dyma lle yr ydoedd prif ymgynghorfa yr athronwyr a'r philosophyddion uchel-synedig; dyma lle yr ydoedd y cyfrolau cyfreithiawl lle yr astudient iawnderau a hawliau y dosbeirth iselaf, a thyma lle yr euogfarnwyd llawer o wroniaid am ddàl allan erthyclau gwa- hanol iddynt hwy. Ond os oeddynt yn areithwyr destlus a phenigamp, os oeddynt wedi dwfn-ddrachtio o ddirgeledigaethau y Crr. IV. gwahanol gelfyddydau, os oeddynt yn gallu hollti y blewyn mewn ymresymeg—o genus synfawr—meddyliau hyfion annibyn- ol, ac wedi ymdreilio blynyddau yn yr athrofeydd paganaidd i sugno o ftrwyth dyfalion eu gorchest-gampwyr; yr oedd gan y Nefoedd efrydwr athrylithgar wedi ei ddwyn i fyny yn athrofa gras, wedi cael aml wers gan yr Athraw anffaeledig, sef yr Ysbryd Glàn. Er mai Iuddew o genedl ydoedd, eto Cristion o broffes, ífieiddiwr paganiaeth, ond cofieidiwr Cristnogaeth— ac a safodd yn eu canol fel penadur aruthrol, yn hyf ddigon o ran ofn, yn wylaidd yn ei ymddygiad, yn oer o ran llid, ond yn danllyd mewn cariad, gan eu Hon- gyfarch, " Ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi yn mbob peth yn dra choel- grefyddol. Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor,. yn yr hon yr ysgrifenid, • I'r Duw nid. Adwaenir;' yr hwn, gan hyny, yr ydych chwi heb ei adnabod, yn ei addoli, hwnw yr wyf fi yn ei fynegu i chwi." O ber- thynas i'r alior hon, ein dysgawdwyr a amrywiaethant o'i .pharthed; pa bryd, a phwy a'i cododd, nid yw hollawl hysbys. Tybiaeth rhai o'n duwinyddion yw, mai Socrates yr athronydd a'i cododd o harch» i'w Greawdwr, yr hwn nas gwyddai yr Atheniaid rhith-grefyddol ond ycbydig an» dano, ac iddo dori yr ysgrifen hon ami, i arwyddo bod y Bod roawreddog hwnwy yn mhell uwchiaw eu duwiau mudion hwy; ac yn mhell uwchlaw i amgyffredion eu gwroniaid allu ffurfio unrhyw ddarfelydd cywir am dano. Ond beth bynag oedd ei dyben, cymerödd yr apostol y fantai» óddi-