Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. IV.] CHWEFROR, 1845. [Rhif. 38. PREGETH, GAN Y PARCH. D. DAYIES, ABERTAWE. [Trwy dacr «rfyniad y llwvddwvd gan ein hanwyl frawd i roddi ei ddrychfeddyliau ar bapur. Teimlaj yn hwyrfrydig iawn i nneudlivny oherwyd.l ei sc'tjllfa' dra hynodol, ac am nad allai ddelhyddio y» un laiv,ond un fenthyg, at y uerwyl. Am hynv nid antúriodd "erioed o'r blaen" fel y dywedai, " i lychwino gymaint ag uu len o bapur, üwy roddi gair niewn dull o tlraethawd na phregeth arni"! Ond gobèithio mai nid hon fydd yr óìaf.—Gol.] " A Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd chwi i'u> dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddyoddef ychydiy, a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhao, a'ch cryfhao, a'ch scfydlo." 1 PliDR V, 10. Mynych y cyhuddir yr athrawiaeth sydd yn dysgu fod cadwedigaeth pechadur o rae, ac nid o weithredoedd, o duedd anghefnogol i weithgarwch, ac anogaethol i ddiogi a segurdod ysbrydol. Os yw y eyhuddiad yn gywir, y mae tuedd yr athrawiaeth yn ddrwg; ac os yw tuedd yr athr^wiaeth yn ddrwg, rhaid fod gwreiddyn y drwg yn yr athrawiaeth ei hun; oblegid, "Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da," Math. vii, 18. Os yw yr athrawiaeth yn ddrwg, rhaid i ni naill ai gwadu fod yr athrawiaeth yn y Bihl, neu wadu fod y Bibl yn ddat- guddiad o gyngor ac ewyllys Duw; oblegid " goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ddim tywyllwch," 1 Ioan i, 5. Ni oddefa ein dyrnadiaeth am berffeithrwydd, doethineb, a daioni y Goruchaf, i ni goelio y dichon efe fod mor anghyson a gorchymyn deddfau a dyledswyddau idd ei ddeiliaid, a dysgu iddyut ar yr un pryd egwyddorion ag ydynt yn gefnogol idd eu hanufudd-dod. Fod cadwedigaeth pechadur o ras ac nid o weithredoedd, yn athrawiaeth ysgrythyrol sydd ffaith anwadadwy yn ngwyneb y dyfyniadau canlynol:—■ " Os o ras, nîd o weithredoedd mwyach; os amgen, nid yw gras yn ras niwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw o ras mwy- ach; os amgen, nid yw gweithred yn Weithred mwyach," Rhuf. xi, 6. "Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd, a hyny nid o honoch eich hunain, rhodd Duw ydyw. Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb," Eph. ii, 8, 9. " Nid o Weithredoedd cyfiawnder, y rhui u wnaeth- Cvr. IV. om ni, eithr yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni trwy olchiad yi adenedigaeth, ac adnewyddiad yrYsbryd Glàn," Titus iii, 5. "O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaen-ffrwyth o'i greaduriaid ef," Iago i, 18. " Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig, trwy ffydd i iechydwriaeth, parod i'w datguddio yn yr amser diweddaf," 1 Pedr i, 5. Oddiwrth y dyfyniadau a ddetholwyd, canfyddwn fod yr athrawiaeth rag-gry- bwylledig yn cael ei dysgu yn yr ysgrythyr, mewn geiriau mor eglur a phendant ag y dichon iaith ein cynysgaethu â hwy. Weithian gan hyny, y mae hawliau y Bibl i'n crediniaeth, fel mynegiad o gyngor ac ewyllys Duw, yn syrthio neu yn sefyll, gyda chywirdeb neu anghywirdeb y cy- huddiad, o barthed tuedd yr athrawiaeth. Eithr os gallwn ni brofi fod ei dylanwad gweithredol yn rhinweddoi, yna, nis gellir profl fod ei thuedd yn ddrwg ; ac oni ellir profi fod ei thuedd yn ddrwg, mae yr wrth- ddadl yn erbyn dwyfoliaeth yr ysgrythyr yn diflanu. Pa ffordd y gellir barnu tuedd unrhyw beth, ond wrth ei ddylanwad gweithredol! Yr ydym yn dywedyd fod tuedd yn y tân i losgi, ac mewn gwenwyn i ladd; eithr pa fodd y gwyddom hyn, ond wrth weled fod y rhai a syrthiant i'r tân yn llosgi, a'r rhai a lyngcant y gwenwyn yn meirw. Onid wrth effeithiau bwydydd a diodydd ar ein cyfansoddiad yr ydym yn barnu am eutuedd? Dywfedwn fod tuedd naturiol y cafodydd at gynydd y llysiau, a thuedd bri- odol gwres yr haul at addfedu y ffrwythau;