Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. III.] TACHWEDD, 1844. [Rmif. 35. TJNDEB. Undeb ydywyrhyn a gysylltaansoddion amry w a gwahanol yn un inewn cymdeithas, naill ai trwy ddeddfau a greddfau gosod- edig gan allu goruwch natur, neu ddewisiad bodau rhydd a deallawl. Undeb, yn ei berthynas ag ansoddion di-fywyd, a gyf- enwir yn ddeddfau anian, megis ymgydiad y gronynau a gyfansodda y bellen ddaear- awl—ymgysylltiad y sylweddau awyrawl er gwneud y gwregys hylifawl sydd o amgylch ein byd ni—ymgasgliad y dafnau dyfrllyd, er gwneud y ffrydiau, yr aberoedd, y llynau, a'r môr mawr llydan, gwely lleithawl y " Lefiathan, y penaf o waith Duw," a thrigle y silin gorsalaf; a chymdeithasiad y tyfod er attal rhyferthwy y dòn sydd undeb, neu ddeddf dragywyddol, yr hon a chwardd am ben ei chyndderiogrwydd ewynawl; ac er ei holl aHonyddrwydd a'i sŵn rhuadol, pan gyffwrdd â hon hi orfydd lithro yn ol i'r man ordeiniedig iddi, yn orchuddiedig â chywilydd, wedi yr ymgyrch ofnadwy, ond ofer. Undcb, yn ei berthynas â bodau moesawl a deallawl, a ddynoda fod dau, neu ddau canrì mil, yn un, mewn amcan a bwriad i ddwyn oddiamgylch ryw orchwyl llesawl, neu niweidiol i ereill; ymddi- byna hyny yn ngynnwys y bwriadau a'r amcanion a'i cyfansodda. Y mae yn debyg yn hyn i agerdd-beiriant (steam-cngine), cydier hwnw ag otferyn er niwed, gwas- anaetha felly y meddwl a'i cysylltodd ; ac hefyd rhwymer ef ag otferyn er lleshau, gweinydda i hwnw yr un modd. Felly undeb sydd gymysgryw, o herwydd amryw- iaeth afrifol egwyddorion y gymdeithas ddynawl. Pan y byddo y gymdeithas hon yn meddu â'r amcanion a bryd ddinystriol, gelynol, a rhyfelgar, gwna undeb havoc arswydlawn dan haul. Try ymerodraethau ëangfaith a gogoneddus yn anial-dir di- drefn a dirmygus—gwna orseddau brenhin- oedd anrhydeddus yn drigfa dreigiuu a Cyf. III. dylluanod — gwna ddinasoedd poblogaidd heb drigianydd, a chyfyd seiliau palasau uchelwyr, ac a'u chwàl i bedryfan byd ! Ond pan y. byddo'r gymdeithas yn meddu bwriadau da, ei hegwyddorion a'i chynnwys yn tueddi i leshau, undeb a dry y mynydd- oedd diffrwythaf yn ddoldir meillionawg— anialwch tywodlyd yn ddinasoedd caerog— bythod corachod yn breswyl y cewri—stol y gwatwarwyr yn deml y Duw byw, a chartref yr ynfydion yn fyfyrgell y serydd a'r philosophydd doeth, a'r tir na thyfai brwynen, yn lle y cesglir y pomgranad, ie, y llethr, nad adwaenau ond y waudd a'r ystlum, yn fan i drafod goludoedd teyrnas- oedd, ac yn fangre y chwelir masnachaeth byd. Undeb, mewn un cysylltiad, sydd angel gwyn gogoniant yn orchuddiedig, ac yn addurnawl â delw y da prydferthaf, a'r lleshad mwyaf; mewn cysylltiad arall, mae yn ddiafol da--y—gollfa, yn ymgrynhoawl mewn mantell wedi ei thrybaeddi yn ngwaed y diniwed, ac euogrwydd porffor- aiddyn annileuedig ar y gwregys a'i rhwym am dano. Undeb, O ! Pa mor ryfeddol yw dy gyfansoddiad a'th gymeriadl Ti ydwyt wregys dwyfoldeb, ac hefyd rhwymyn di- eiri—prifgyfnerth pob peth sydd dda, Och t hefyd bob peth sydd ddrwg, cysylldydd y teimladau tyneraf, rhwymydd y llinynau auredd, a'r cwlwm gydia yn nhanbaid a santaidd serch y myrdd fyrddiwn yn mro- ydd dedwyddawl y nef oleu, o'r seraph gor- ddysglaer wrth yr orseddd wen fawr, hyd y baban bỳr hoedlog, a â'i yn ngysgod Im- anuel i'r wlad well, ac a ymsefydlodd ar y gwỳdd yn mroydd y gwyi'ddlesni tragy- wyddol. Ac hefyd tydi yw'r fodrwy a ddeil afael yn ngadwen cynddaredd, dig- ofaint, malais, llid, a drwg fwriad anned- wydd wiberod yr anoddyn dwfn. Y gwerth- fawrocaf o'r holi rinweddau pan y plenir ef yn ngwinllan bwriadau da, a'r mwyaf 2 u