Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Gyf. III,] HYDREF, 1844. [Riiif. 34. COFIiNT Y DIWEDDAR BARCH. TUOMAS WILLIAMS, PENYLAN, GWEINIDOG YR EFENGYL YN SALEM AC EINON, MEIDRYM, SWYDD GAEUFYRDDIN. Y mae yn hen arferiad gan y rhan fwyaf o ddynolryw, i osod fyny gof-adeiladau coífadwriaethol am enwogion yr oesau, yn neillduol y rhai hyny a fu yn ddewr ar faes y gwaed, ac ymdrechgar dros eu hrenin a'i deyrnas; ac os ydyw y rhai hyn yn deilwng o goffadwriaeth, y rhai fu ynsych- edig am waed dynol, a'u lladd er mwyn eu henwau a'u gogoniant eu hunain, y mae yn sicr fod y rhai a fuont ddewr yn y rhyfel ysbrjdol o blaid teyrnas Crist a Brenin Sion, ac yn ymdrechgar i godi eu cyd- ddynion o farw í fyw er mwyn gogoniant üuwalles eneidiau, yn llawermwy teilwng o'u cofio, oblegid " coffadwriaeth y cyíiawn sydd fendigedig." Tueddwyd finnau i gof- resu un o bererinion Sion, ag a fu yma yn ffyddlon yn gwasanaethu Duw yn efengyl ei Fab, ond yn awr wedi gorphen ei daith filwriaethus, a chyrhaedd yr orphwysfa lle nad oes gofid na gelyn yn blino neb o'r preswylwyr. Ganed Mr. Williams *yn Ffynon-lwyd, plwyf Llanginig, swydd Gaerfyrddin, yn y ' tìwyddyn 1770. Enw ei dad oedd Diifydd j Williams, a'i fam Mary, y rhai oeddent aelodau yn Salem. Yn moreu ei ddyddiau yr oedd chwant mawr ar wrthrych ein cofiant i fod yn debyg i'w gyd-ieuengctyd, ac am fod yn gyfarwydd yn y pethau a elwir yn gyffredin, llawenydd diniwed; ond fel ag yr oedd yr arferiad ffiaidd o regu yn ei wlad y pryd hwnw yn mlith ei gyfoedion, teimlodd ynteu chwant i'w eu hefelychu, er cael ei geryddu gan ei dad am hyny yn aml, ac un waith yn neillduol; wedi hyny bu yn lled ofalus rhag gwneud hyny yn ei glyw drachefn cyhyd ag y bu ei dad byw ; ond eto, yr oedd yn hoff o'r gwaith er mwyn bod yn debyg i ereill o'i oed. Hefyd pan yn ddeunaw mlwydd oed, pryd y dygwydd- Cyf. III. odd regu yn y tỳ, lle y clywodd ei fam ef, yr hon a aeth ato a gosododd ei llaw ar ei ysgwydd, a gofynodd iddo. Beth oedd yn feddwl1? fe allai mai cyn boreu dranoeth y buasai yn nhragwyddoldeb! A'r noswaith hòno ca'dd ei daro yn glaf o'r dwymyn, a bu yn boenus iawn. A thra yr oedd yn ei gys- tudd, yr oedd yn methu llai nâ chofio am eiriau a Ilaw ei fam, (fel Newton gynt). Bu yn bur anhebyg i wella; ond yr oedd y Nefoedd yn gwaeddi uwch ei ben y pryd hwnw, ," Y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw ger bron dynion." Tra y bu yn y cystudd hwn, nid oedd dim un meddwl neillduol ganddo am grefydd, am ei fod yn meddwl gwella, ac nad oedd y cystudd hwnw ddim yn rhagor nâ dygwyddiad oddiwrth ryw achos cyffre- din; ond ar ryw noswaith, fel ag yr oedd dwy wraig yn ei wylied, gofynodd un o honynt i'r llall, A ydych yn meddwl y gwella efe eto % yr hon a atebodd ei bod yn gwybod na wellai, (heb feddwl ei fod ef yn gallu sylwi arnynt) ; a'r rheswm oedd ganddi er profi hyn oedd, ei bod wedi breuddwydio yr un fath ag o'r biaen cyn marwolaeth ei berthynasau, sef gweled cae agos i'r tỳ yn llawn blodeu. Ar hyn, teimlodd yntef y chwỳs oer yn berwi allan o'i gorff gwanaidd, a'r holl ddolur blaenorol yn ei adael, a gofynodd iddo ei hun, Ai marw sydd raid i mi! a chredodd mai felly y byddai; ond gweddiodd am adferiad, yr hyn a gafodd. Y mae ffyrdd Jehofa yn ddwfn ac anchwiliadwy, pan yn gadael ei blant i fyned yn mhell, nes gall dynion feddwl mai felly y treulient eu hoes; ond o drugaredd, "lle yr amlhaodd pechod, rhagor yr amlhaodd gras;" y mae y "caffaeliad yn cael ei ddwjTi oddiar y 2 p