Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. III.] MEDI, 1844. [Rijif. 33. BYWGRAITIAD MRS. ELIZABETH WHITNEY, BLAENAFON, SWYDD FYNWY. Dichon cofiant y saint ymadawedig fod yn adeiladol ac o ddefnydd i ni y rhai ydym ar ol, gan y gwelir ynddynt nerthodd gras yn ngyfnewidiad y cyflwr, a syraudiad yr enaid o dir y golledigaeth i deyrnas anwyl Fab Duav, pryd y torwyd dalfeuon pechod o dan effaith cyffyrddiad bywyd, y taflwyd tywysog y fagddu o'r galon, ac yr ad-fedd- iannwyd y diiiogaeth anghyfaneddol gan Frenin y saint. Yn eu taith trwy yr anial- wch y gwelir gofal tyner eu Duw am danynt yn eu cynhaliad a'u diogelwch mewn mil a mwy o beryglon, ynghyd â rhinweddau y gwaed a'u golchodd oddiwrth eu halog- rwydd, gan eu cymhwyso i gymanfa y cyn- tafanedigion, lle na chyrhaedd dolur a gwae hwynt yn fythol mwyach ; ac yn y sêl a'r ym- drech di-ildio gydag achos Iesu a ddynododd eu cerddediad, y ceir 'siampl deilwng o efel- ychiad i'r lluaws a ddilyna. Pell ydwyf o feddwl fod yr ymadawedig yn berffaith, ond i'r graddau y dilynodd hi Grist anffaeledig a digoll, ymestyner at fod yn debyg iddi. Ganwyd Elizabeth Wlûtney, yn Llanfawr, plwyf Llangatwg, Brycheiniog, yn y fl. 1775 ; enwau ei rhieni ydoedd J. a M. Jenkins, ac er nad oeddynt o sefyllfa uchel yn y byd, eto yr oeddynt yn gysurus; tebygwyf mai y man diweddaf y buont yn cadw tir a chartref sefydlog oedd yn Nyffryn Crawnen, yn mhlwyf Llangynidr; dygas- ant eu plant fyny yn onest a chymydogol, y plant hwythau a ad-dalent mewn ufudd- dod y parch dyledus i'w rhiaint gofalus, ond o'r diwedd, y ddeuddyn fethiedig a syrth- iasant i'r bedd, gau adael perthynasau a chydnabyddion Uuosog i alaru ar ei hol; ond nid oes o'r plant yn fyw erbyn heddyw ond tri, sef dau frawd a chwaer, enwau y brodyr yw W. Jenkins, o Sirhowy, a J. Jenkins, gweinidog y Bedyddwyr yn Hen- Cyf. 111. goed ; y maent hwythau erbyn hyn wedi croesi er ys blyneddau fryn cryfder amser, ymlithrant yn gyflym i ddyffryn henaint a phenllwydni ; dymunwu nawdd iddynt yn ngweddyll ei hoes, ac yn y diwedd fynediad helaeth i dragywyddol deyrnas y Gwaredwr ei hun. Ond ymwasgwn yn ol, gan edrych ar wrthrych ein cofiant yn moreuddydd ei hoes; pryd hyn ei haul newydd-gyfodedig a wasgarai ei belydron llachar o'i chylch, gan addaw, fe allai, ddiwrnod tesog o lwydd- iant a hedd, ond cyn ei fachludo yn ngor- llewin marwolaeth, aeth drosto laioei' cwmwl dudew a dyfrllyd, hithau aymdynodd adreu o dan y cawodydd tymhestlog, gan basio lleoedd cerigog a diffaith cyn tirio i'r wlad " Na ddywed y preswylwyr, claf ydwyf mwyach." Y prif bethau a'i hynodai yn ei hieuengctyd oedd diniweidrwydd ag isel- der, fel nad oedd yn awyddus i ddilyn campiau pechadurus a dinystriol y rhai oeddynt boblogaidd yn y wlad, ond ym- lwybrai yn ddistaw, gan fod yn ddiwyd gyda'i goruchwylion, er helpi ei rhieni cariadus. Nid ydym yn sicr pa bryd yr effeithiwyd gyntaf ar ei meddwl o barthed drygedd ei sefyllfa fel pechadur, a'r anghenrheidrwydd o gael Achubwr i'r enaid colledig, ond bernir fod rhyw anesmwythder arni er yn ieuangc ar droion, oblegid clywyd hi yn aml yn ocheneidio am drugaredd, a gwelwyd y deigr agosaf i'w chalon yn llifo dros ei grudd yn achos ei chyflwr. Ymadawodd â thŷ ei thad yn ieuangc ; dychymygwyf ei gweled y boreu cyn cych- wyn â'i mynwes yn orlawn o dristwch, a'r tònau yn ymguro yn eu meddwl, nes o braidd yr ymollyngai ei natur danynt. Pryd hyn yr aeth i weini fel morwyn gyflog at dyddvnwvr cyfrifol vn y gymydogaeth, "2 K*