Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. III.] AWST, 1844. [Riiif. 32. GODIDAWGWYDD CYNHWYSIAD Y BIBL. " Cenedl yn wir fyddai gwedi ei llwyr fendithio pe llywodraethid hi ag hyffordd- iadau y llyfr hwn, ac heb un gyfraith arall: y mae yn gyfundraeth mor gyftawn fel nad ellir ychwanegu dim ati, na thynu dim oddiwrthi; cynnwysa bob peth angen- rheidiol i'w wybod a'i wneuthur; rhydd gynllun i'r brenin, a rheol i'r deiliaid; rhydd gyfarwyddyd a chyngor i'r senedd- wr, awdurdod ahyfforddiadi'rllywiawdwr; rhydd oclieliad a rhybudd i'r tystion, gofyn farn ddiduedd pawb rheithwyr, a chynys- gaetha y barnwr â barn gytíawn. Gesyd y gŵ.r yn feistr ar eu deulu eu hun, a'r wraig yn feistres ar ei harlwy-fwrdd;— dywed wrtho ef pa fodd i lywyddu, ac wrthi hithau pa fodd i drefnu. Ewyllysia agorchymyna anrhydedd i rieni, yngliyd ag ufudd-dod i blant. Uynoda unbeniaeth y Penaur, hyd-led gallu y rheolwr, ac aw- durdod y meistr; gorchymyna y deiliaid i anrhydeddu, y gweision i ufuddhau, ac addewid o fendith ac amddiffyniad Holl- alluog i bawb a gadwant ei dystiolaeth. Rhydd gyfarwyddyd i gladdu a phriodi. Addawa ymborth a dillad, a dysg ni y modd i'w defnyddio. Arddengys ft'yddlon a thragywyddol amgeleddwr i'r gŵr a'r rhi ymadawedig,—dywed wrtlio ef pa le i roddi gofal ei amddifaid, ac ar bwy y bydd ei weddwi roddi ei goglyd—addawa dad i'i" blaenaf, a phriod i'r olaf. Rhydd gyfar- wyddyd i ddyn i drefnu ei àỳ, a pha fodd i wneud ei ewyllys; dengys waddol ei weddw, a hawl ei gyntaf-anedig, a pha fodd i ymddwyn tuag at y rhai ieuangaf. Amddiffyna iawnderau pawb, dat<ruddia ddigofaint ar bob troseddwr, twyllwr, a gorthrymwr. Efe ydyw y Uyfr blaenaf, y llyfr rhagoraf, a'r llyfr hynaf yn y byd. Cynnwysa sylweddaudetholedig,—rhydd yr hyfforddiadau goreu,—ac estyn allan yr hyfrydwch a boddlonrwydd mwyaf a fwyn- hawyd erioed. O'i fewn v ccir v cyfreith- Cyf. III. iau cywiraf, a'r dirgelion dyfnaf a ysgrif- enwyd eriocd; daw hefyd a'r newyddion cysuraf, a'r diddanwch pureiddiaf i'r truan a'r anghenus. Gesyd allan fywyd ac an- farwoldeb o'r dechreuad, ac hefyd y ffordd i ogoniant. Y mae yn fyr-adroddiad o'r hyn a aeth heibio, a chywir rag-ddywediad o'r oll a ddaw. Gesyd derfyn ar bob ym- ryson a chynen, penderfyna bob helbul, a llonydda y meddwl trallodedigoddiwrthbob gwasgfeuon. Datguddia y gwir a'r bywiol Dduw, gan ddynodi y ffordd ato, a gesyd heibio bob duw arall, gan ddynoethi eu gwagedd, a phawb a ymddyriedant yn- ddynt: yn fyr, y mae yn llyfr o gyfarwydd- iadau, i ddangos y drwg a'r da; llyfr doeth i gospi annoethineb, ac i wneud yr ynfyd yn ddoeth i iechydwriaeth; llyfr o wirion- edd i ddàl y celwyddog, a gwrth-brofi cyfeiliornad, a Uyfr y bywyd, yr hwn a ddengys y ffòrdd oddiwrth angau tragwydd- ol. Y llyfr mwyaf yn y byd—y gcirwiraf a'r hanes felusaf erioed a gyhoeddwyd. O'i fewn y cawn hynafiaethau hynotaf, pethau rhyfeddaf, dygwyddiadau o'r dwys- af, cyflawniadau gwrolaf, a rhyfeloedd digyffelyb; traetha am y nefol, daearol, a'r ufternol fydoeddd, dechreuad y llu angel- aidd, yr hil ddjnol, a'r llengoedd dieflig. Rhydd addysg i'r celfyddydwr pêrffeith- lawn, a'rmanyl-weithyddystyrlawn. Rhydd j addysg i'r areithydd hyawdl, a gesid holl 1 nerth a galluoedd y rhifyddwr medrusaf ar i waith, er cael allan ei ddyfnderoedd— | dyrusa y-difynwr callaf, a rhydd orchest i'r | llëen-feirniwr doethaf. Cerydda y gau- I anianyddwr, a delwa y gwag-seryddwr; dynoetha y ffug-ymresymwr, a gwna yn ynfyd y dcwin. Y mae yn gyfan-gorff o lyfr deddfau—perffaith swm o dduwinydd- iaeth—brut digyftelyb llyfr bywydau—llyfr teithiau—a llyfr môr-deithiau. Efe y'w y cyfammod goreu a wnaethwyd erioed—y weithred oreu a arwyddwyd 2 F