Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. III.] MAI, 1844. [Riiif 29. EFENGYL CRIST YN ALLU DUW FR CREDINWYR, ■WEDI EI HEGLÜRO TN FTR MEWN PREGETH. GAN J. R. JONES, RAMOTH. " Canys nid oes arnaf gyicilydd o efengyl Crist; oblegid gallu Duw yw hi er iechydwriaeth i bob un ar sydd yti credu; ir Iuddew yn gyntaf, a hefyd i'r Groegwr."—Rhuf. i, 16. PARHAD O DUDAL. 105. 3, Ni ddylai y credinwyr gywilyddio oblegid efengyl Crist, am ei bod yn dat- guddio cyfiawnder Duw o. ffydd i ffydd, adn. 17, hyny yw, o ffyddlondeb Duw, yr hwn sydd yn datguddio y cyfiawnder yma trwy efengyl, iffyddrísu grediniaeth dynion o'r unrhyw íFyddlondeb ; megis yr ydym yn darllen fod yn anmhossibl i anghrediniaeth rhai wneuthur ffydd neu ffyddlondeb Duw yn ofer.* A thrchefn, " Ffyddlon y barn- odd hi yr hwn a addawsai.f Y mae'r amlygrwydd a'r sicrrwydd sydd genym am gyfiawnder Duw, yn tarddu yn unig o ffyddlondeb Duw yn nhystiolaeth ac addewid yr efengyl, Nid goleuni natur, nac egwyddorion a ddysgir ac a dynir oddi- wrth reswm naturiol sydd yn egluro cyf- iawnder ffydd i bechaduriaid, ond yn unig amlygiadau am dano yw tystiolaeth y di- gelwyddog Dduw yn y datguddiad dwyfol; ac am ei fod yn cael ei ddatguddio o ffydd, neu wirionedd noeth Duw, yr unig ffordd i'w dderbyn, yw trwy ffydd neu grediniaeth noeth o'r unrhyw wirionedd. % Ond er fod tystiolaeth Duw am y cyfiawnder yma yn oruwch-naturiol, eto nid oes ynddo ddim ag sydd yn afresymol, neu yn annheilwng o ddoethineb a rheswm naturiol; ond y mae yn cynnwys y profiadau mwyaf rhesymol tuag at egluro ei sicrrwydd a'i ddwyfoldeb. * Rhuf. iii, 3. t Heb. zi. 11. % Rhnf. iv, 16. Cyf. III. Gellii tjstio fod efengyl Crist yn llawn o ddoethineb a rhesymoldeb; ond y mae y ddoethineb hon yn rhagori yn mhell ar ddoethineb y byd hwn, a thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflanu. * Yr ydym yn darllen fod yr Iuddewon yn gofyn arwydd, a'r Groegwyr yn ceisio doethineb ; f y naill yn ymofyn am wyrth- iau i'w argyhoeddi, a'r llall yn ymofyn am eglurdeb rhesymol doethineb ddynol; wedi y cwbl arwydd y prophwyd Jonah, ac eglurhad y gwirionedd, ydoedd unig arfau milwriaeth yr apostolion, pa rai hefyd oedd- ynt yn nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll, a phob dychymmygion i'r llawr, ac i gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist. % Fel hyn yr oedd yr apostolion yn mynegu tystiol- aeth Duw am Grist wedi ei groeshoelio i'r Iuddewon a'r Groegwyr, gan gyhoeddi a thystiolaethu fod yn rhaid i ddynion dder- byn eu cenadwri fel gwir air Duw, neu fod yn golledig tros fych. Ac er fod y weinid- ogaeth hon yn dramgwydd i'r anufuddion o'r Iuddewon, ac yn ffolineb i'r Groegwyr bydol-ddoethion; eto yr oedd hi yn allu Duw, ac yn ddoethineb Duw i'r holl gred- inwyr yn ddiragoriaeth. |j Erbyn hyn, y mae yn eglur pa fodd y mae yr efengyl yn datguddio cyfiawnder Duw o ffydd i ffydd, • 1 Cor. ii, 6. t 1 Cor. i, 22. î Act. xvii, 31, 2 Cor. x, 4. || 1 Cor. i, 23, 24.