Skip to main content

Y BEDYDDIWR. Cyf. III.] MAWRTH, 1844. [Rhif 27. SWM Y CWBL A GLYBÜWYD; SEF SYLWEDD PREGETH A DRADDODWYD BORE Y SABBATH CYNTAF YN Y FLWYDDYN 184-1, AC A ARGREFFIR AR DAER GAIS Y RHAI A'l CLYWSANT. Gan JOHN JAMES, Penybont, Morganwg. Ecclesiastes; dywedirwrthym mai gair Groeg ydyw, ac mai ei ystyr ydywPregeth- wr; felly cawn yr awdwr yn rhoddi yr enw hwn ar y Uyfr. Dichon iddo ef ei draddodi mewn pregeth neu bregethau i'r gynnull- eidfa, ac wedi hyny ei ysgrifenu. Yr oedd enwogrwydd mawr yn perthyn i'r pregethwr liwn, a gellir cynnwys hyny mewn tri o nodiadau. 1, Ei gynnydd a'i enwogrwydd mewn ystyriaeth wladol a chrefyddol am o ddeutu hanner cann mlynedd. Gwel y deg pennod gyntaf o'r 1 Brenhinoedd. 2, Ei syrthiad a'i wrthgiliad mawr, trwy yr hyn y digiodd efe ei Dduw. Gwel yr unfed bennod ar ddeg o 1 Bren. 3, Ei adferiad. Yma canfyddwn amynedd a mawr drugaredd Duw yn wyneb ei an- nheilyngdod ef. Er iddo gael adferiad, eto ni ddaeth ef ddim i'r un enwogrwydd, a machludoedd ei haul dan lawer o gymylau. Gellir barnu mai wedi ei adferiad yr ysgrif- enodd efe lyfr y Diarhebion a'r Pregethwr; a hod yr olaf yn cynnwys ei edifeirwch a'i alar duwiol, a bod y cyfansoddiad hyn, trwy ddwyfol ysbrydoliaeth, wedi ei roddi i ni ac ereill er rhybydd, fcl na byddo i neb o honom ddilyn ei siamplau drwg ef. Y pregethwr a esyd ger ein bron ddau beth pwysig. (1,) Mai gwagedd a gorthrym- der ysbryd ydyw y pen draw i holl rwysg a gogoniant bydol, a phob pleser a mwyniant anianol; i, 2; ii, 17. Y mae efe yn manylu ar hyn yn y chwech pennod gyntaf. (2,) Dengys yr awdwr mai yn Nuw a'i wasanaeth yn unig mae gwir Adeàwydd- Cyf. III. wch idd ei gael: " Canys pwy a ŵyr beth sydd dda i ddyn yn y bywyd hwn;" vi, 12; vii, 11, 12, 13. Pwy allasai draethu, trwy brofiad, ar y ddau beth fel Solomonl Y mae efe yn dybenu ei lyfr mewn ffordd sylweddol neillduol, a'i eiriau fel symbylau i gynhyrfu dyn at ei ddyledswydd, ac fel hoelion idd ei uno, a'i sicrhau gyda Duw a'i waith ; xii, 11. Yn ein testun cawn ef yn crynhoi y cwbl mewn ymadroddion byr a thra sylweddol. " Swm y cwbl a glybu- wyd yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchym- ynion: canys hyn yw holl ddyled dyn." "Wele o'n blaen swm gwir grefydd. Ystyr- iwn yma dri pheth. I. Gwir grefydd yn egwyddorol. II. Gwir grefydd yn ymarferol. III. Gwir grefydd yn sylweddol. I. Am wir grefydd yn egwyddorol a meicnol. Llawer o son sydd yn llyfr Duw am ofn; ond rhaid dywedyd am ofn, fel arú rasau ereill, ddau beth, sef ofn da a drwg, gwir a rhith ras. Yn 1, Yr ofn drwg. Ofni Duw fel Barnwr, gelyn, &c, ofn caethiwus, deddf- ol, a damniol, ydyw " Ofn wedi ei ddysgu allano athrawiaeth dynion;" Esay xxix, 13. " Ni dderbyniasoch yspryd eaethiwed drachefn i beri ofn;" Rhuf. viii, 15. «Y mae i ofn boenedigaeth;" 1 Ioan iv, 18. " Er hyny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddiwrth ofn drwg; Diar. i, 33. Yn 2, Yr ofn yn ein testun. Un o'r geiriau amlaf, a chryfaf yn yr Hen Desta-