Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DEONGLYDD YSGRYTHYROL: CYLCHGRAWN MISOL- . Tn cael ei amcanu i fod yn gyfrwng Gwybodaeth Feiblaidd a Chrefyddol. A wyt ti yn Deall y pethau yr wyt yn eü Darllen.----ÁCTAU VIII. 30. IOAN YN YNYS PATMOS. Parhad o tu dalen 38. Yr oedd !Nero, dan deyrnasiad yr hwn yr ydym yn golygu yr alltudiwyd Ioan i Patmos, yn hynod yn mhlith Ymherawdwyr Rhufain fel un creulawn. Mae yr ymadrodd " Nero greulawn " wedi disgyn i lawr yn ddiarehol drwy dreigliad yr oesau. Efe ydoedd y cyntaf a ddaeth allan yn ei awdurdod frenhinol neu ymherodrol i erhd Cristionogaeth. Yr oedd rhagfam a drwgdeimlad yn mysg y hohl wedi hod yn cyâroi yn eu herhyn o'i hlaen lawer adeg; a cheisid dwyn achwyniadau yn eu heTbyn yn aml yn y llysoedd gwladol. Y prif oflerynau yn y cyffroadau hyny yn gyffredin a fyddai yr Iuddewon; ond ni ddarfu y llywodraeth wladol ei hun, fel y cyfryw, wneyd ym- osodiad uniongyrchol yn erhyn Cristionogaeth hyd amser ÜSTero. Ac nid cynddaredd Nero ei hun chwaith oedd i'w herhyn y pryd. hyn, eithr wedi cael awdur- dod yr orsedd o'u tu, yr oedd yr holl rai oedd yn elyniaethus i Gristionogaeth, yn cael achlysur a man- tais i fwiw eu llid arnynt drwy yr holl ymherodraeth. Er nad yw hanes Nero yn y Testament Newydd, y mae ynddo gyfeiriadau amlwg at ei erledigaethau. Yr ydoedd o fewn oddeutu dwy flynedd i ddinystr Jeru- salem pan y bu farw. Yr oedd lesu Grist wedi rhag- fynegu am y dinystr hwnw—wedi nodi mai un o'r arwyddion oedd i'w fìaenori fyddai erledigaethau chwerwon ar ei ganlynwyr ef. " Yna," eh efe, " y'ch traddodant chwi i'ch gorthrymu, ac a'ch lladdant, a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwjn fy enw i." (Mat. xxiv. 9.) "Eithr fe a ddygwydd i chwi yn dystiolaeth." (Luc xxi. 13.) Mae yn amlwg fod y ddryc-hin hon yn dechreu tori allan pan oedd y llythyr at yr Hebreaid yn cael ei Rhifyn vi.—Pris Ceiniog. ysgrifenu. Canys un o amcanion amlwg yr ysgrifen- ydd ydoedd cryfhau meddyliau y rhai yr oedd yn ysgrifenu atynt i ymg^nal yn eu gwyneh. Er mwyn hyny y mae yn cyfleu ger eu hron restr hirfaith o hen dduwiolion y rhai a enillasant iddynt eu hunain " air da " ar gyfrif y ftydd a'u cynaliodd, ac a'u dygodd yn fuddugoliaethus drwy y profedigaethau a'r dyoddefiad- au chwerwaf, a chyda hyny hefyd anoga hwy i " edrych ar Iesu," " yr hwn a ddyoddefodd y groes, gan ddi* ystyru gwaradwydd;" ac eh efe, " Ystyriwch yr hwn a ddyoddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erhyn gan bechaduriaid, fel na flinoch ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. (Heb. xi. 33-37 a xii. 2, 3.) Eithr amlwg yw mai dechreu yr oedd y pryd hwnw, canys chwanega, " Hi wrthwynebasoch eto hyd at waed gan ymdrech yn erbyn pechod j" (adn. 4.) Erbyn yr adeg yr oedd Ail Epistol Pedr yn cael ei ysgrifenu, yr oedd wedi myned yn " brofiad tanllyd" arnynt; a deallaí yr apostol ei fod efe ei hun i syrthio yn aberth i gyn- ddaredd ei erlidwyr, " Gan wybod," ebe efe, " y bydd raid i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heihio, megys yr.hysbysodd ein Harlwydd Iesu Grist i mi." (2 Pedr i. 14.) Canys yr oedd Iesu Grist wedi "ar- wyddo trwy ba angeu y gogoneddai efe Dduw." (Ioan xxi. 18, 19.) Yr oedd yr apostol Paul yn yr un cyflwr pan oedd yntauyn ysgrifenu ei ail lythyr at Timothpus, " Myfì yr awrhon a aberthir," medd efe, " ac amser, fy ymddatodiad i a nesaodd. s (2 Tim. iii. 6.) Yr oedd hyn oll yn cael ei ddeall ganddynt, yn ol rhagfynegiad Iesu Grist yn rhag-arwydd o amgylchiad mwy arswydlawn oedd i ddylyn, " Canys y pryd hwnw," medd Iesu Grist, "y bydd gorthrymder mawr, y^fath ni bu o ddechreu y byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. (Mat. xxiv. 21.) A phan yr oedd yr erlid- igaeth yn dechreu tori allan, mae awdwr y llythyr at