Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TT DEONGLYDD YSGRYTHYROL: CYLCHGRAWN MISOL- Tn cael ei amcanu i fod yn gyfrwng Gwybodaeth Feiblaidd a Chrefyddoh A WYT TI tn Deall y pethau yr wyt yn eu Darllen.—Actau VIII. 30. TR ANERCHIAD. Mae Cenedl y Cymry, hyd yn hyn, yn uchel eu cymeriad ar gyfrif eu mawr barch a'u hymlyniad wrth y Beibl, Clywyd cyfeiriadau yn cael eu gwneyd atom rai gweithiau, a hyny gyda thuedd braidd i'n dirmygu, fel " pobl yr un llyfr;" ond fel y mae yn fwyaf dy- munol meddwl, os " un llyfr,"—Llyfr y Lìyfrau yw hwnw. Nid hawdd, feallai, fyddai nodi cenedl dan gyífelyb amgylchiadau, mor amddifad ag y buwyd hyd yn ddi- weddar o bob moddion i gyraedd gwybodaeth gyffred- inol, ac yn teimlo cyn lleied o bwys ac angen am hyny, ac ar yr un pryd yn dangos cymaint o awydd ac ym- drech, mewn cymhariaeth, am wybod yr Ysgrythyr Lan. Mae ffeithiau hanesyddol pwysig yn tystiolaethu yn ffafriol i ni yn hyn. O'n plith ni y dyrchafwyd llef, yr hon a fu yn brif achlysur i sefydlu y Feibl Gym- deithas, yr hon sydd wedi profi ei hun mor fendithiol, nid i ni yn unig, ond i'r byd oll, yn ei gwaith yn dar- paru ac yn gwasgar, erbyn hyn, filiynau o gopiau o Air Duw, mewn gwahanol ieithoedd, drwy wahanol barth- au y byd. Cawsom y fraint hefyd o fod gyda'r rhai cyntaf, a chystal mewn ystyr a bod yn.gyntaf oll, yncael tueddu ein meddyliau at symudiad daionus arall, &ef yr Ysgol Sabothol; yr hon, er ei bod wedi ei derbyn a'i chroes- awu fel moddion effeithiol i wneyd daioni drwy yr holl" fyd Cristionogol, nid ydys yn tybied iddi gael mwy o addfedrwydd meddwl ar ei chyfer, na chymaint o ran yn ffurfiad cymeriad cenedlaethol unrhyw wlad ag yn ein plith ni. Cawsom ein dysgu i edrych aini, nid fel y gwneir yn gyffredin mewn gwledydd ereill, tel darpariaeth gyf- addas yn unig ar gyfer plant ac ieuengtyd, ond hefyd yn gyfleustra priodol a manteisiol i bob gradd ac oedran i ymgynull i gyd-ymanog a chynorthwyo eii gilydd i ddaiilen a chwilio yr Ysgryihyrau Santaidd, er mwyn galluogi pob un drosto ei hun i ddeall meddwl Duw yn ei Air. Mae amgylchiad arall hefyd, o blith llawer a ellid nodi, yn arddangosiad tarawiadol o ucheledd y safie y mae y Beibl wedi gael yn meddwl a chalon ein cenedl, sef y nerth attyniadol cryf a amlygwyd ynddo i gyffroi a dwyn allan ymadferthion meddyliol yn ein plith, fel y gwelir yn y ffaith fod nifer mor luosog—tu hwnt ar gyf- artaledd yn ddiau i unrhyw genedl—wedi cyfodi o blith y dosbarthiadau isaf, nrwyaf amddifad o bob moddion addysg a phob manteision ereill, a chymeryd eu safle yn y rhengoedd blaenaf fel gweinidogion yr Efengyl, effeithiol a dylanwadol. Cydnabydda y rhai hyn oll yn ^ddyledus, yn ddiau,—am ogwyddiad cyntaf eu meddwl i'r cyfeiriad a gymerasant, ac am ddefíroi yn- ddynt zel ac yfli i fyned rhagddynt drwy anhawsderau yn y cyferiad;hwnw,—i'r modd y cyfléwyd y Beibl ger bron eu sylw yn moreu eu hoes, y bri a'r mawrhad a osodwyd arno yn eu gwydd, a'r syniadau uchel a sant- aidd a feithrinwyd yn eu calonau*tuag ato, cyn bod dim arall llai teilwng wedi cael mantais i ddenu eu sylw a'u bryd. Yn awr, i ba raddau bynag y barnwn fod y ffeithiau uchod a'u cyffelyb yn llefaru yn ein ffafr fel cenedl ar gyfrif y graddau o barch a ddangoswyd yn ein plith i Air Duw, y maent hefyd yr un mor groew yn datgan * mai nid difudd i ni a fu hyny; yr ydym wedi cael medi o'u ffrwyth, hc wedi ein bendithio yn gyfatebol i'n gwaith, yr hyn sydd yn galw arnom i adnewyddu ein diwydrwydd rhagllaw, ac i " ymhelaethu yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, a ni yn gwybod nad yw ein llafur yn ofer yn yr Arglwydd.'* Bhif. i.—Mal 1^76.