Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDEDIG YN ABEEDAR, OAN GWMPEINI Y MEDELWR IEUANC. CYFEOL I. MEDI 1, 1871. BHIFYN 9. FY UNIG GYFÁELL. ^EB dad a mani wýf yn y byrt, Na nel) a wrendy'm cri; M«e'r byd yn troi ei gefn oer Bob amser arnaf fi. Fe sonir am weithredoedd bael, A cbnlon tìijiier dyn ; Fe ddichon pethau felly fod, Ond chwrddais I ag un. Mae draen yn llechu'n aml iawn Wrth fôn y rhosyn mâd ; Ac o dan wên garedig dyn, Mi gefais droion frad. Os ieuanc wyf, 0 ! cofier hyn, Fod yn fy mynwes I Hoff galon fedra deimlo serch 'Enn fnth á'ch calon chwi. Bachgenyn tlawd wyf yn y byd, Ac estron i bob bri; Ac nid oes neb, ond ti, fy oen, Yn sylwi amaf fi. Ni feddaf ar un geiniog goch,— Ond dewis hyn a wnawn ; I fod yn dlawd a'th gadw di, Nag hebddot fod yn llawn. Dywedai mam, y gelwid Crist Yn Oen difëus Duw ; Diniwed oedd ef fel tydi, Tra'r oedd ef yma'n byw. 0 am gael rhodio tra b'wyf byw, Yn ddidwyll fel efe; A bod am byth yn un o'i wyn, Tufewn i gorlan ne'. YE AFON SABBOTHOL. y/5AE afon ryf'edd rliwiig Acra a Ea- ' phanea, a elwir " Yr Afon Sab- bothol." Gelwir hi felly am ei bod yn rhedeg am amser pennodol, ac yna yn peidio. Mewn ffynnon a elwir Nebâ el Fûârr y mae yn tarddu, yn y Gogledd 0 Ganaan. Dywedid gan Josephus ei bod yn rhedeg ar y seithfed dydd, ac yna yn peidio. Pliny o'r tu arall a ddywedai ei bod yn rhedeg am chwe niwrnod, ac yn peidio ar y seithfed. Oddiwrth darddiadau o'r natur yma y cafodd ei galw ar yr enw uchod. Ond dywed Dr. Thomson, Cenadwr Americanaidd, a fu yn y wlad yn trigo dros 30 mlynedd, nad yw yr awdwyr a nodwyd yn gywir, neu fod yr afon wedi cyfnewid yn ei hymddygiad. Bu ef wrth ei tharddle yn ddiweddar, ac yn ei gwylio. Dyweda ei bod yn bresenol yn peidio rhedeg am ddau ddiwrnod a hanner, ac yna, rheda eilwaith am haner diwrnod. Ehuthra afon gref allan yn ddisymwth o ogof, gan redeg am hanner diwrnod, yna sycha i fyny am ddau ddiwrnod ahanner, a rheda eilwaith, ac felly yn y blaen fyth ac hefyd. Ceir am- ryw ffynnonau tebyg mewn gwahanol fanau yn Syria. Dyweda ef y gall yr afon fodwedi myned trwy gyfnewidiad trwy effeithiau daear- gryn, ac y dichon fod y ddau awdwr yn gywir yn eu gwahanol ddysgrifiadau ; beth bynag, dau ddiwrnod a hanner yw adeg ei gorj)hwysfa yn bresenol.