Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDEDIG YN ABERDAR, GAN GWMPEINI Y MEDELWR IETJANC. CYFBOL I. AWST 1, 1871. BHIFYN 8. GALWAD MATTHEW. ggSNpYMA ddarluii hardd yn anrheg i ddar- Û jfc llenwyr Y Medelwr Ieuanc. Mae yr Sw olygfa yn Capernaum, tref ar làn Môr Galilea, yn ngwlad Canaan. Y ddau berson mwyaf adnabyddus ini ydyw Iesu Grist, yrhwn sydd yn berson tàl, gwynebpryd difrifol, a gwallt liir a modrwyog ; mae yn y weithred o alw un i fod yn ddysgybl iddo —yr un hwnw yw Matthew, yr hwn sydd yn sêfyll tu cefn i'r doll-fan, ac yn astud wrandaw ar eiriau yr Iesu. Dyna ddau berson arall ar y llaw aswy i Iesu Grist. Pwy yw y rhai yna ? Nid wyf yn sicr ; dichon mai dau ddyn wedi dyfod i dalu y doJl cyn croesi Môr Galilea ydýnt; ueu dichon mai Pedr ac Andreas ydynt, wedi dyfod gyda Christ ar y negcs bwysìg o alw Matthew. Wel, dyna bedwnr o blant bach hynod ffel a thlws. Mae y rbai bach anwyl fel pe ýn teimlo dyddordeb yn yr hyn s.ydd yn myned yn mlaen ; a phwy a wyr nad oedd y rhai anwyl yna yn cofìo ac yn adrodd yr hanes am Grist yn galw Matthew yn mhen hir fiynyddau wedi hyny. Beth bynnag, yr wyf yn sicr mai plaut bach ag oedd yn sylwioedddent, a chredwyf na ddarfu iddynt annghofio galwad Mathew Levi y publican. Wel, mae yr hanes am y weithred hon yn cael ei rhoddi i ni yn y Beibl gan dri o ddynion da—gan Maíthew ei hun, gan Marc, a chan Luc; a chan fod yr hanes yn hynod o fyr, mi a roddaf ddywediad- au y tri yn llawn. Mae Matthew (Pen. ix. 9) yn dywedyd, —" Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddiyno, efe a ganfu wr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew, ac a ddy- wedodd wrtho, canlyn fi. Ac efe a gyf- ododd, ac a'i canlynodd ef." Marc (Pen. ii. 14) a ddywed,—" Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Levi, mab Alpheus, yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho canlyn fi. Ac efe a gododd ac a'i canlynodd ef." Tra y dywed Luc (Pen. v. 27, 28) " Ac ar ol y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican a'i enw Levi, yn eis- tedd wrth y dollfa, ac efe a ddywedodd wrtho, dylyn fi. Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a'i dy- lynodd ef." Chwi welwch fod ychydig o wahaniaeth yn yr hanes ; mae y tri yn cyduno yn y prif bwnc, sef galwad Crist ac ufudd- dod Matthew, ond mae y pethau bach yn wahanol. Mae y cwbl yn dangos Mat- thew mewn goleu ffafriol iawn. Mae efe yn boddloni ar ddywedyd am dano ei hun " rhyw wr a elwid Matthew ;" mae Marc yn dywedyd yn fanwl pwy oedd, " Levi mab Alpìieus." Yr oedd ganddo ef ddau enw, ac mae yn debyg mai Levi oedd yr un mwyaf pwysig o'r ddau, ond y mae ef yn ymfoddloni ar yr enw syml Matthew yn unig. Mae Luc yn ei alw wrth yr enw Levi, ac yn dywedyd mwy, sef iddo ef mewn atebiad i alwad Iesu Grist " adael pob peth ac a gyfododd i Jyny er dylyn Crist." Mae hyn o bwys, gan fod Matthew yn llanw