Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDEDIG YN ABERDAE, GAN GWMPEINI Y MEDELWR IEUANO CYFEOL I. GORPHENAF 1, 1871. RHIFYN 7. ARCIRAFFYDD Y MEDELWR IEITANC £>R wyf wedi meddwl y byddai yn dda gan y plant gael golwg ar y Peiriant sydd yn cael ei ddefnyddio yn y Swydd- fa i argraffu eich ufudd was—Y Medelwr Ieuanc. Ond gan nad oes modd i'r holl blant sydd yn rhoddi derbyniad misol i mi ddyfod i'r Swyddfa, meddyliais mai y peth goreu a allaswn wneyd, oedd eich anrhegu à darlun cywir o'r Peiriant Argraffyddol a ddefnyddir er rhoddi y wisg am danaf o fis i fìs. Mae y darlun hwn yn rhoddi golwg gywir iawn o hono, a gallaf ddywedyd ei fod yn un o'r peiriannau mwyaf newydd a gorphenedig o'r amrywiol beiriannau ag ydynt wedi eu dy- feisio gan ddynion galluog yr oes hon. Gallaf ddywedyd hefyd ei fod yn werth arian mawr ; ond mae yn ddefnyddiol dros ben. Byddai yn anhawdd i fy meistriaid i'm danfon allan i gynnifer o fanau trwy Gymru a Lloegr, heb gynnorthwy y peiriant cywrain hwn. Mae y gelfyddyd o Argraffu yn un o brif fendithion tymhorol dyn. Trwy y gwaith o Argraffu, yr ydym ni yn alluog i ddal cym- deithas á dynion da a dysgedig yr oesoedd gynt—trwy wasanaeth yr Argraffwasg yr wyf fi yn gallu siarad Cymraeg à miloedd o blant yn Nghymru a Lloegr bob mis. Bu adeg hir iawn yn hanes ein byd ni pan ii ad oedd dynion yn gwybod y ffordd i argraffu; ac yn wir, bu adeg bwysig pan nad oedd llyth- yrenau yn bodoli, ac felly, nid oedd modd ys- grifenu, na neb yn gallu darllen. 0 amser Adda hyd amser Abraham, nid oedd neb yn gallu darllen, dyna dymhor o ddwy fil o fiyn- yddau. Yna cyn marw Abraham, dechreuodd pobl Phoenicia wneyd llythyrenau a ffurfio geiriau; dilynwyd hwy gan bobl yr Aifft, a daeth llythyrenau a darllen i arferiad; ond nid oedd etto ddim llyfrau, ond byddent yn cerfio y darlleniad ar feini mawrion, ar furiau y teml- au, ar ochrau y beddau, ac ar y colofnau a godid yn y trefydd. Mae y Beibl yn ein dysgu i'r Arglwydd gerfio y deg gorchymyn ar ddwy o lechau, a u rhoddi i Moses i'w gosod yn Arch Duw. Yr oedd Moses a'r Prophwydi yn delhyddio rhysgl y pren papyr- us, îliain main, crwyn geifr a chrwyn defaid, i ysgrifenu y Beibl arnynt. Fel yna y rhodd- wyd yr Hen Destament i gyd, y cwbl wedi ei ysgrifenu, ond nid oedd neb yn gwybod dim am argraffu y pryd hwnw. Yr un modd y bu gyda y Testament Newydd, cafodd ei osod ar groen mewn ysgrifen; ac felly y bu y Beibl yn parhau ganoedd lawer o flynyddau, yr oll