Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYHOEDDEDIG YN ABERDAR, GAN GWMPEINI Y MEDELWR IEUANC. CYFBOL I. IONAWB, 1871. BHIFYN 1. "ANEBCHIAD Y MEDELWB IEUANC. At Suyddogion, Athrawon, a DysggbUon Ys- golion Sabbothol Cijmru. Anwyliaid yn Nghrist—Goddefwch i mi, yn ostyngedig, i wneyd fy moesgyfarchiad i cliwi un ac oll. Nid yw liyn ond tegwcli a cliwi, a chyfiawnder ú minau, ar fy ngwaith yn dyfod y tro cyntaf i ymweled ag Ysgolion Sabbothol y Dywysogaeth. Dichon nad yw yn adnab- yddus i bawb o honoch chwi, fod i mi Frawd yn America, ag sydd wedi bod am flynyddau yn ddiwyd a llwyddianus i addysgu, llesoli, dyrchafu a gwasanaethu Ysgolion Sabbothol y wlad fawr hono. Mae fy Mrawd rai blyuydd- au yn henach nâ mi; ac y mae efe yn derbyn ei ymborth, ei ddillad a'i gyflog, gan y bon- eddigion sydd yn cyfansoddi yr American Bap- tist Publication Society. Mae efe yn iach ac yn gryf, a Duw Israel yn bendithio ei lafur; ac y mae pobl dda Ameriea yn hoff iawn o hono. Yn ystod y fl. 1869, talodd 2,702,236 o ymweliadau â theuluoedd gwlad y Gorllewin, a bydd yn mhob man yn cael groesaw mawr, yn neullduol gan y Plant. Nis gallaf ddar- ìunio fy neges atoch chwi yn well nâ dweyd fy mod, ar gais nifer o ddynion da, yn amcanu gwneyd yn Nghymru, ar raddfa lai, yr hyn ag y mae fy Mrawd henach yn ei wneyd ar radd- fa fawr yn mhlith Ysgolion Sul America. Mae y dynion da sydd wedi fy nerbyn i'w gwasan- aeth, yn credu y gallaf fod o ryw wasanaeth i rai, heb wneyd niwed i neb. Mae yn wyb- yddus i mi fod ereill ar y maes, ac wedi bod ar y maes flynyddau cyn fy ngeni i—yn gweithio yn ddiwyd, ffyddlon, a llwyddianus; a'r cwbl wyf am gael yw bod yn gydweithiwr yn maes niawr ein Harglwydd IesuGrist. MEDELWRwyf fi: ac oni buasai fod rhyw rai wedi bod yn hau, ni fuasai genyf fi y gwaith hyfryd o fedi: " Canys yn hyn mae y gair yn wir, mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi." Ië, yr wyf fi yn cael y fraint o fedi yr hyn ni lafuriais; ereill a lafuriasant, a minau sydd yn myned i'w llafur hwynt. Mae yr Un Mawr a lefarodd y geiriau yna wrth ei ddysgyblion yn ymyl ffynnon Jacob, yn can- iatau i mi fedi a chasglu ysgubau oddiar holl feusydd y byd—byddaf yn casglu yn Ewrop, America, Affrica, ac Asia; yna wedi medi, a chasglu byddaf yn fisol—yn gwasgaru y cyn- nyrch trwy Ysgolion Sabbothol Cymru, a thrwy gyfrwng y plant, hyderwyf ddyfod yn gyfarwydd à'r rhieni, ac yn y man ddyfod yn gysson-ymwelydd ag aelwydydd bwthynod gwlad y bryuiau. Gallaf eich sicrhau na fydd dim yn ol o'm tu I i fedi a chasglu; ond gor- phwys arnoch chwi am roddi i mi y cyfle i agor yr ysgubau a gwasgaru y tywys yn ysgolion a chartrefleoedd Cymru. Ac er nad yw o lawer o bwys beth fydd gwisg y cenadwr— er fod hyn yn rhywbeth—gallaf ddyweyd heb ymffrost, y bydd i mi ddyfod atoch mewn gwisg làn, gostfawr, ac addurniadol, y fath na welwyd gan unrhyw genadwr Cymreig o'r blaen; tra y bydd y ffrwyth yn dda, o'r fath oreu, yn llawn amrywiaeth cyfatebol i bob gradd. Hyderwyf fod yn alluog i gyflawnu hyn oll a mwy, a gofynaf yn ostyngedig am i chwi roddiprawf arnafamdroneuddau; acosnafydd y cyflenwad yn ateb i'r sample, gallwch geisio genyf i beidio galw mwy. Gan ddymuno i chwi Swyddogion,Athrawon, aPhlant anwylNawdd Duw, yr wyf etto y n gofyn i chwi roddi cyfle i mi, "Y Medelwr Ieuanc," i fod yn gyd-lafurwr â chwi yn maes ein Harglwydd Iesu Grist. (6WE1 YS&BIF AR V l>AtlILN l'CHOD YN NHUDAL.J.N ^^