Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN DDIRWESTOL. " Eithr ffrwyth yr daiö-ni, ffvdd, addfwy Yspryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymmwynasgarwch, vynder, dirwest. Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf." Galat. t. 22, 23. Rhif. 3.] MAWRTH, 1837. [Pris lc. "ONID OES ACHOSP" TRAETHAWD BYR AR FEDDWDOD A DIRWEST. Pan y meudyliom am ddyn yn ei gyflwr cyntefig, y mae yn eglur mai yr egwydd- or fawr oedd yn llywodraethu ei natur ydoedd Cariad. Yr oedd yr egwyddor hon yn bur ynddo cyn llychwino ei natur gan bechod, a'i hanurddo yan lygredd. A phan y cyhoeddwyd y ddeddf ar Sinai, yr un òedd hi yn ei sylwedd, a'r egwyddor oedd yn y dyn pan y'i crewyd ef, sef ' Car yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, a'th gymmydog fel tydi dy hun.' Ac y mae yr egwyddor hon yn cael ei rhoddi yn y Cristion yn yr adenedigaeth pan y mae y gyfraith yn cael ei gosod yn y meddwl. Yn awr, os gofyn neb pa beth y w y Gym- deithas Ddirwestol ? yr ateb yw mai Cariad ydyw. Wrth weled ieuengctyd prydferth Cymmru, blodeu y genedl, yn cael eu cario ar donau cynddeiriogwyllt y djlifo Anghymmedroldeb tu a'r llyngclyn ofnadwy o dân a brwmstan, yr egwyddor hon, sef Cariad, a dosturiai tu ag atynt, ac a anfonodd Gymdeithas Ddirwest atynt i waeddi, " Trowch i mewn yma." Y mae llawer yn barod i ofyn, Pa beth yw y sŵn a'r dwndwr sydd yn y dyddiau hyn gyda'r Gymdeitnas hon ? ac wrth eu hateb ni a ofynwn iddynt ofyniad Dafydd, mab Jesse, gynt, " Onid oes achos ?" Mae y cawr Anghymmedroldeb yn gwaradwyddo byddinoedd y Duw byw ; ac, onid oes achos ymosod yn ei erbyn. Onid oes achos, 1. Am mai yspeilydd cysuron dynion ydy w. Llawer rhai a wel- wyd yn cychwyn eu taith yn y sefyllfa briodasol, a'r haul yn tywynu ar eu pabell heb un awel groes yn y dychymmyg hyd oni chwythai arnynt awelon oerion dyffryn cysgod angeu. Ond, Och, dacw y gwr ryw ddydd yn cellwair a'r ddiod gadarn, a hithau yn cellwair ag yntau, nes o'r diwedd wele ef yn cael codwm ganddi i afon Meddwdod. Ar hyny, wele gysur ar ei aden, anghydfod yn ymlusgo i mewn, a thlodi yn dyfod arnynt fel ymdeithydd, ac angen fel gwr arfog. Heddyw nid oes i'w weled ond bwthyn yn Uawn trueni, ei blant yn garpiog ac yn newynllyd—a'i wraiga'i bochau rhosgochion a siriolaidd wedi eu llwydo gan fynych hidlo dagrau heilltion, a gofid trwm ei chalon bruddaidd. Onid oes achos, 2. Am mai yswr parch dynion ydyw. Pan el dyn unwaith yn gaethwas i anghymmedroldeb gall ganu yn iach i bob anrhydedd ar unwaith. Y mae rhai heddyw a gyfrifid gan ddynion megys duwiau—atynt y cyrchid am gynghor a chyfarwyddyd—hwynthwy oeddynt reol- wyr yr ardal, a'i thywysogion hefyd ; ond yn awr, y maent wedi syrthio i Feddwdod, gan gyflawni pob pechod yn un chwant, ac nid edrychir arnynt ond gyda gwawd, ni wrandewir ar eu geiriau ond gyda gresyni a ffìeidd-dra : ac ni chyfeillechir â hwynt mwy ond gan feddwon a'u cynghreiriaid.— Y mae pob ammharch wedi ei bentyru arnynt,—a'r achosydd ydyw Meddwdod. Onid oes achos, 3. Am mai dyma ddi- fethwr deall dynion. Y mae yspryd mewn dyn—ac y mae wedi ei gynnysgaeddu a rheswm. Dyn, gall efe megys ymddyr- chafu oddiar ser Duw—Dyn, gall efe ym- lwybro ym mysg y bydoedd fry, ac olrhain rhodfeydd y planedau mawrion sydd yn chwyrnellu trwy yr eangder annherfynol. Dyn, gall efe osod ei feddwl i weithredu ar bethan annirnadwy,—ar y Duw mawr yn yr hwn y mae yn byw, yn symud, ac yn bod. Ond, O ! y fath greadur disynwyr* ydy w dyn pan y byddo o dan ddylanwad y diodydd meddwawl.—Ni fedr ymresymu am ddim ; na gwhaniaethu y pethau sydd. a gwahaniaeth rhyngddynt. A mynych iawn y mae y Meddwyn yn rayned ARGBAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN THOMAS THOMAS, CAERLLEON. Ar Werth yno gan J. a J. PARRY, Eastgate-street, lle y maepob Gohebiaeth i'r Cyhoeddw1" i w daufon, yn ddidraul. D