Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SEREN DDIRWESTOL. " Eithr fírwyth yr Yspryd jw cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymmwynasgarwch, daioni, ífydd, addfwynder, dirwest. Yn erhyn y cyfryw nid oes ddeddf."' Galat. v. 22, 23» Rhif. 2.] CHWEFROR, 1837. [Pris lc. 68 H Y B U D E> 0 R fl Ë • N fl Dadau a Mammau Plant,—Goddefwch i un ag sydd yti caru eich lles a'ch ded. wyddwch chwi a'ch plant,eich cyfarch o blaid y Gymdèìthas Ddirwestaidd. Y niae mwy yn gorwedd wrth cich drysau chwi am yr esamplaroddwch i'ch plant nag fe allai y meddyliasoch erioed. Yn nechreu y diwygiad Ddirwestaidd yn Nghaer, ymunodd un gwr ieuanc âni, ac a gadwyd a'i goron ar ei ben hyd nes yr aeth i l-'anchester i ymweled â'i Ri- cni. Yr oedd ei dad yn yfwr cym- medrol o gwrw, ac wrth weled y cwrw ar y bwrdd pryd ciniaw, cododd blys arno ef i'w brofi. O garedigrwydd at ei fab cynnygiodd yr hen wr wydraid iddo: wedi cael gwydraid, naccâodd ei dad iddo gael chwaneg. Ond gwelwch y cahlýniad—ni fynai mo'i naccâu. Yr oedd ei gydwybod yn tystio ei fod wedi torri eiadduned—acesampl ei dad oedd yr achlysur. Parhaodd i yfed i'r fath raddau nes dyrysu ansawdd ei gorph, fel y bu mewn llewygfeydd ol ynol, hyd oni chollwyd pob gobaith o*i adferiad o'r bron. Ond cafodd ddyfod adref eil- waith at ei wraig a'i blant. Yn fuan gwelsom ei fod yn oeri tuag at y Gymdeithas, ac aethom i ymweled ag ef; onderpob ymgais i'w ddych- welyd yn ol i'w le, methu a wnaethom. Y mae yn beth hynod i feddwl am dano, ei fod yn chwanog i'r Uewygfeydd cyn ymuno â'r Gymdeithas; ond eu bod wedi myned yn anamlach o lawer tra y bu yn Ddirwestydd, ac yn ysgafnach o ran eu heffeithiau—yr ydym yn dystion o wirionedd hyn. Un tro aeth dau o honom i ymweled ag ef, wedi clywed ei fod yn sal iawn trwy feddwdod ; ond etto ni fuom yn llwyddiannus, yr oedd fel pe bai ei gydwybod wedi ei serio trwy dwyll y pechod hwn. Addawodd, beth bynag,- cyn ymadaw, nad yfai chwaneg na gwydraid ar unwaith. Ond O'ch, fel yr oecld yn siomi ei hun—nid allai sefylì y brofedigaeth—ond syrthio i'r un pwll a wnai yn wastadol. Y diwrnod o flaen dydd Nadolig, dywedodd wrth un o'i gydweithwyr y mynai wledd hynod o gwrw y foru, a chafodd ei ddymuniacL Aeth at ei waith yn glafaidd iawn y bor- eu dranoeth, ac wrth ddychwelyd i'w giniaw, ymaflodd yr hen Jewygfeydd ynddo nes colli ei adnabod ar bawb, ac felly y bu nes ehedodd ei enaid anfarwol i wyddfod y Barnwr mawr! Cyfaddefodd wrth yr ysgrifenydd mai esampl ei dad fu yr achfysur iddo syrthio. Ac mai ar ddiwrnod ei briod- as y meddwodd gyntaf erioed. Gadaw- odd weddw a dau o blant bach ar ei ol. Llefwn am ddoethineb oddiuchod, fel na byddom yn rhwystr nae yn dram- gwydd i neb byth. Tyst. Drwg Arferion wrth Gladdu. Syr,—Dywedodd Saul brenin Israel ei fod wedi clywed fod Dafydd mab Iesse yn gyfrwys iawn, ac fod iddo lawer o lochesau i ymguddioynddynt: * Edrych- wch, gan hyny, a mynwch wybod^yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt,' &c. 1 Sam. xxiii. 22. Felly y gellir dywedyd am Fëddwdbd, fod iddo lawer o lochesau i ymguddio yn- ddynt. Dysgynaf ar un loches sydd ganddo yn y dref lle yr wyf íì yá byw. Pan bydd un o'n cymydogion wedi marw, bydd y corph yn cael ei roddi mewn ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN THOMAS TffÖMAS, CAERLLEOJi. Ar Wefth yno gan J. a J. PARRY", Eastgate-street, lle y maepob Gohebiaetlí i'r Gyhoeddwr -.- i'w danfon, yn ddidraul.