Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BLODAU CERDD. YR AELWYD. PARHAÜ O TÜDALEN 8. /.—Gorfu i ni roddi pen ar yr ymddiddan y noson o'r blaen yn lled swta, cyn i rai gael dyweyd dim am yr allwedd arall a enwais, sef allwedd F. Y mae bwnw yn troi am y bedwaredd linell, ac o ganlyniad gelwir y llinell hòno F, a chymer y llinellau ereill a'r o-wagleoedd eu henwau oddiwrthi, fel hyn :— GABCDEFGA D.—Yr oeddwn i ryw ddiwmod yn siarad â Meurig y Gof, a phan ddywedais wrtho eich bod chwi yn dyweyd nad oes ond dau all- wedd yn arferedig y dyddiau hyn, aeth Meurig i chwerthin am fy mhen, a dywedai fod hyny yn ddigon o brawf nad oeddech. erioed wedi bod ar y Continents, nac yn gwybod dim am waith y Germans, onide y buasech yn gwybod fod o leiaf un allwedd arall mewn arfer- iad, sef allwedd C; abu agos i ni ein dau syrthio i dymherau drwg yn ei gylch. Atolwg, a oes rhyw allwedd o'r fath ? /.—Felly y mae plant Adda yn gyffredin; un yn meddwl ei fod yn gwybod y dirgelion oll os gall gael gan ei dafod ymestyn dros ryw rigwm o air estronol, y lla.ll, ar ol cael crap ar ryw ddarn o wir- ionedd, yn barod i feddwl ei fod yn deall y cwbl. Y mae y fath beth ag allwedd C, ond gallasai Meurig yn hawdd hebgor y drafferth o fyned drosodd i'r Cyfandir i ymofyn aui dano. Gosodir ef weithiau ar y drydedd linell, ond amlach y gwelir ef y dyddiau hyn ar y bedwaredd linell, yr hon o ganlyniad a elwir C, a chymer y llineliau ereill a'r gwagleoedd eu henwau oddiwrthi, fel hyn:— 5e^= DEFGABCDE Hyderwn fod dieithrwch y gwr hwn yn Nghymru yn ddigon o esgus dros i mi beidio sôn dim mwy am dano yn bresenol; ond, cofiwch, os dygwydd i chwi ei gyfarfod, mai C a gynrychiolir ganddo ar ba linell bynag y bo. Ll.—Betíi yw y rheswm dros ddefnyddio gwahanol allweddau? paham na wnai yr un allwedd y tro yn mhob lle ? /.—Tybiwn yn awr fod cylch cyffredin y llais dynol, a chymeryd i mewn feibion a merched, yn cynwys tua 22 o wahanol seiniau (Gwel Ttidal \G.J Ü________________________________________A