Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YB ATHRAW CERDDOROL, &c.; &c., &c. Rhif. 4. MEDI, 1854. Cyf. I. CANIADAETH GYNULLEIDFAOL. Rhan IV.—Natur a Dybenion Caniadaeth Grefyddol. Y mae ìnawl ysgrythyrol yn gynwysedig yn ein gwaith yn cydnabod ac yn arddangos yn deilwng berffeithderau gogoneddus y Duw mawr, a datgan y gweithredoedd a wna efe, yn mysg y bobloedd. Nid yw y gwasanaeth hwn yn gymeradwy gan Dduw, ond yn unig pan ei cyflawnir yn yr ymarferiad o ffydd; oblegid "heb ffydd anmhosibl yw rhyngu ei ýodd ef;" a "pha beth bynag nad yw o ffydd, pechod yw." Dylai dealltwriaeth a ehrefyddolrwydd nodweddu y cyflawniad crefyddol hwn; oblegid " Ysbryd yw Duw, a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, ei addoli mewn ysbryd a gwirionedd." Y mae addoliant, gostyngeiddrwydd, a diolchgarwch, yn cyfansoddi elfenau neillduol mawl ysgrythyrol. Os yn y deml fry, y mae yr angylion santaidd yn syrthio ar eu gwynebau o flaen yr orseddfainc íawr, gan addoli Duw; gan hyny oni ddylai dynion pechadurus ddynesu ato yn y cysegr isod gyda mawl gostyngedig a di- olchus. (Dat. vii. 9—12.) Parch a difrifoldeb mawr sydd yn gweddu i'r lle ac i'r cyflawniad, oblegid "mawr yw yr Arglwydd." Dylai y rhai ag ydynt am roddi mawl teilwng i'r Goruchaf, ddymuno fod hyny er gogoniant i Dduw, a dylai y dymuniad hwnw fod yn amlwg i'w cyd- addblwyr. Dylid ymdrechu hefyd i gyffroi a chynorthwyo ereill yn nghyflawniad o'r ddyledswydd gysegredig hon. Pan fydd ein hysbryd- oedd mewn tymher briodol, iaith ein calon fydd, "Molianned y bobl dydi, O Dduw, molianned yr holl bobl dydi." Y cymhwysderau & pha rai y mae y Duw mawr wedi ein cynysgaethu â hwy er cyflawniad priodol o'r ddyledswydd hon, a ddylent gael eu cydwybodol ddefnyddio er adeiladaeth ysbrydol yr eglwys. Y mae gan bob addolwr hawl i ddysgwyl cynorthwy oddiwrth ei gyd-addolwyr, a dylai yntau wneyd ei ran yn siriol tuag at ddwyn yn mlaen fawl-ganiadaeth yr eglwys. Dylai pob un ganu yn y fath fodd ag a enynai ysbryd o ddefosiwn o'i gwmpas, ac a achosai i'r holl gynulleidfa i dwym-wrido (ylow) â dymuniad i wneyd mawl yr Arglwydd yn ogoneddus.