Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TR ATHRAW CERDDOROL, &c., &c.; &e. Rhif. 3. GORPHENHAF, 1854. Cyf. I. PA FODD I DDYFOD YN GERDDOR. Gan I. G. Alarch. A oes awydd ar ein darllenydd am fod yn gerddor? Nid rhyw fath o gerddor a feddyìiwn, ond un fo yn deall corff ac enaid y gelfyddyd—un fo yn gallu gwahaniaethu rhwng awen a ffolineb—un fo yn gallu canfod an- afau yn gystal a rhagoriaethau awduron—ac un fo â'i ysbryd yn medru cyd-hedeg yn awyrgylch y prydferth a'r arddunol efo yr awenyddion penaf. üs oes, na ddigaloned—nid oes dim rhwystrau anorfod ar ei ffordd, y maent oll wedi bod ar ffordd ereill o'i fiaen ef, ac oll wedi eu goresgyn, ac fe drecha yntau hwy os bydd ef yn ffyddlon tuag ato ei hun; ac am- can y Greal hwn y w rhoi help llaw iddo wneyd hyny. Cofied mae y cam cyntaf at lwyddiant yw cariad at y gelfyddyd. Nid rhywfath o gariad, ond cariad fo'n llosgi fel ffiam—yn gryf fel angau. Heb hyn ni fydd dim yn tycio. Fe fydd pob mantais yn troi allan yn ofer a diles. Ý mae gyda cherddoriaeth fel gyda pob cangen arall o wy- bodaeth. Gwyddom ni am rai, a gwyr y byd am filoedd, er cael y man- teision goraf, heb lwyddo nemawr. Gwyddom am ereill, heb ddim yn eu hamgylchiadau i'w calonogi, wedi dringo, er pob rhwystr a digalondid, i ben y bryn, a chymeryd eu safie yno yn mhlith arweinwyr yr hil ddynol. Byddai yn hawdd i ni nodi rhai felly yn mhob cangen o ddysgeidiaeth, ac nid ychydig yn y celfyddydau awengar. Yn awr yr achos mawr o'r gwa- haniaeth yma yn y ddau ddosbarth o efrydwyr oedd, fod gan yr olaf gar- iad angherddol at eu hefrydion, ond y blaenaf yn amddifad o hyny. Yr oed*d y uariad yma yn peri iddynt feddwl-am y pwnc yn ddidor, ac i fy- fyrio arno yn barhaus; a dyma yr achos iddynt lwyddo. Pe bae y dar- llenydd mor hapus a bod dan gyfarwyddyd yr athraw mwyaf medrus mewn bod, heb y cariad yma at ei efrydion, a'r llafur a ganiynai y fath gariad, ni chyihaeddai ef byth dir goruchel mewn dim, canys y mae yn annichon cyfranu gwybodaeth a dawn fel y mae y fammaeth yn porthi y plentyn â llwy. O na, nis gall yr athraw goraf ond cyfarwyddo— dim ond nodi y ffordd, rhaid i'r efrydydd hunan-ymroddi at y gwaith, os myn ddysgu unrhyw beth i bwrpas. Yn wir nid yw holl ddysgedigion y