Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHRAW CERDDOROL, kc, &c.; &c. Rhip. 2. MEHEFIN, 1854. Cyf. I. PA BETH YW CERDDORIAETH? Y mae yn anhawdd iawn rhoi darnodiad o rai pethau, heb, yn gyntaf, wneyd rhyw gymaint o sylwadau arnynt. Gellir nodi bardd- oniaeth fel anghraifft, yn nghyda îluaws o bynciau sydd yn perthyn i'r celfyddydau awengar. Felly hefyd y mae gyda cherddoriaeth. Yn awr, tuag at i'r efrydydd ieuanc ffurfio syniadau lled gywir am natur cerddoriaeth fel celfyddyd, y mae yn angenrheidiol i ni sylwi mai yr elfen gyntaf ynddi yw awen. Nid ein hamcan ar hyn o bryd yw dadlu y pwnc yn ei holl gysylltiadau—nid yw yn angenrheidiol i'n testyn; ond yn hytrach edrych arno mewn goleuni ymarferol. Felly nid yw o gymaint pwys mewn cysylltiad â'r ysgrif bresenol pa ddar- nodiad a roddir o honi, na pha syniad fo genym am ei tharddle. Y mae un o'n beirdd wedi ei darnodi yn brydferth iawn, fel "Dylif o ysbrydoliaeth ;"* ond nid ysbrydoliaeth o'r un natur a hòno a ddygodd fywyd ac an- llygredigaeth i oleuui—nid yr un ysbrydoliaeth a hòno fu'n goleuo ac yn cynhyrfu Moses, y proffwydi, a'r apostolion—nid ysbrydoliaeth Duw, yr hon sydd uwchlaw natur; ond yr ysbrydoliaeth hòno sydd yn nglŷn â natur. Nid yw o bwys ychwaith ar hyn o bryd o ba le y mae yn deilliaw. Myn aml i awdwr diweddar, fel y ihan fwyaf o'r henafiaid, mai rhodd arbenig nef wen ydyw'r awen—fel y dywed un o'n beirdd,— " Rhyw ddifyr rodd ddiofyn—yw'r awen I'r rhai ŷnt i'w derbyn; Ni ddysgir oni ddisgyn O law Duw i oleuo dyn." * Myn ereill mai ffrwyth sylw ac ymarferiad yn unig ydyw. Y mae • " Gwèn, a rbywiog lên, Rhagluniaeth—nwyfiant O nefawl wybodaeth; Dylif o ysbrydoíiaeth Yw dawn a ffrwd awen ffraeth."—G. Iaoo.