Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATHEAW CEEDDOROL, &c; &c.; &c. ______ — ———^————— Cyf. I. MAI, 1854. Rhif. 1. mtàgufy. Nid oes dim yn dangos nodweddiad unrhyw genedl yn well na'i Cherddoriaeth. Nid ein hamcan ar hyn o bryd yw ceisio dangos pam y mae felly; ond cymerwn yn ganiataol fod hyn yn un o'r ffeithiau amlwg ac anwadadwy sydd i'w canfod ar ddalenau hanesiaeth dynolryw. Ffaith arall mor amlwg ac anwadadwy ydyw, fod y Cymry wedi bod yn genedl Gerddorol yn gystal a Barddonol trwy yr oesoedd. O gy. chwyniad cyntaf eu cýff oddiwrth gyffiniau môr Eucsein, rhyw bedair mil o flynyddau yn ol—yn eu hymdeithiau ar hyd wyneb Ewrop, i chwilio am gartref tawel; ac yn eu hymsefydliadau mewn gwahanol wledydd, nyni a'u cawn yn bobl Gerddorol. Un o'r pethau mwyaf cysegredig yn eu plith oedd defodau yr awen—un o'r ffrydiau mwyaf adfywiol a ddymunent hwy eu mwynhau oedd dyfroedd melys Cerdd- oriaeth. Pan y cyrhaeddodd ein tadau yr ynys hon—y tro cyntaf y sangwyd ei daear gan droed dynol—cymerasant feddiant o honi yn ngwyneb haul a llygad goleuni, gan gysegru ei mynyddoedd a'i dyffryn- oedd i fod yn feithrinfa yr awen, a'r wybren uwchben yn deml i'w hoffrymau. A chymeryd eu gelynion yn dystion, nid oedd neb yn fwy aiddgar dros burdeb a diwylliant Cerddoriaeth a Barddoniaeth, rhyw ddwy fil o flynyddau yn ol, na'n tadau yn Nghymru. Nid dynion an- ■wybodus ac iseí eu nodweddiad yn mhlith y genedl oedd eu hawen- yddion hwy—nid oedd barddas y genedl y pryd hyny, nac am oesoedd lawer wedi hyny, "Gan wŷr Naith o ganwyr llôg, A ganent am y geiniog'," fel ambell gler-fardd hyd yn nod yn ein dyddiau ni; ond dynion gwy- bodus mewn llênyddiaeth a chelfyddyd—dynion â meddyliau eang a choethedig—dynion a gyfrifid yn rhinweddol eu buchedd—mewn gair, dynion blaenaf eu hoes; a'r unig ddynion a ystyrid yn gymhwys i addysgu ereill. Dyma y pam y bu ynys Fôn yn gymaint cyrchfa i'n brodyr oddiar y Cyfandir yn gystal ag i'n hieuenctid gartref, ac yn athrofa fawr i'r teulu Celtaidd am oesoedd lawer. Ac er yr holl gyf- newidiadau ac adfydion sydd wedi goddiweddid ein cenedl o amser Julius Caesar hyd y dydd hwn, y mae ein hawen eto gyda ni. Meith- rinwyd hi yn ofalus trwy ganrifoedd ein hymdrechion gyda'r Rhufein-