Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADDYSGYDD. Rhif. I.] IONAWR. [1823. SAMUEL. N y bennod gyntaf o lyfr cyntaf y __ proffwyd enwog hwn, rhoddir hanes am eî rîeni ef, sef Elcanah a Hannah, ac am ei enedigaeth yntau. Hanes hynod a roddir am ei fam yn gweddio am fab, a'r Arglwydd yn atteb ei gweddi, a hithau yn ei gyfiwyno ef i Dduw. Buddiol fyddai i bob un a ddarlleno hwn, ddechreu gydâ y bennod gyntaf, a myned yu mlaen trwy yr holl hanes addysgiadol a hyfryd. Ac nid difias fydd hyny, er iddo o bosibl gael ei ddarllen o'r blaen. Proffwyd yr Arg- lwydd oedd Samuel. Fe ddechreuodd gydâ'i swydd yn fore iawn, fel y gwelir:— " Y bachgen a fu weinidog i'r Arglwydd gerbron Èli yr offeiriad." Yr oedd ei was- anaeth yn dderbyniol gan Dduw, er mai plentyn oedd, a gorphwysodd ei fendith arno. <c Samuel a gynnyddodd, ac a aeth yn dda gan Dduw a dynion hefyd." Deu- ddeng mlwydd oed oedd pan ymddangos- odd yr Arglwydd iddo, ac y dywedodd wrtho am yr hyn oedd i ddyfod ar Eli yr offeiriad, ac ar Israel. Gwelir fod Samu-